Drakeford yn gwadu bod pobl yn wynebu 'loteri gofal brys'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwadu bod y cyhoedd yn wynebu "loteri" o ran gofal brys.
Ond dywedodd fod achosion o bobl yn gorfod mynd 芒'u hunain i adrannau damweiniau ac achosion brys yn "adlewyrchu'r pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaeth iechyd a'r rhagor sydd angen ei wneud".
Bu'n ymateb yn dilyn un achos ble bu'n rhaid i ddyn gario ei dad-cu i adran frys yn dilyn ataliad ar y galon.
Yn y cyfamser, mae prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi ymddiheuro i gleifion a'u teuluoedd "sydd wedi cael profiad gwael iawn dros yr ychydig wythnosau diwethaf".
Dywedodd Mr Drakeford wrth 大象传媒 Cymru mai'r "broblem ar hyn o bryd yw bod ein hysbytai yn llawn o bobl sydd 芒 risg isel iawn o safbwynt iechyd".
"Mae hynny'n golygu bod pobl risg uchel yn ei chael hi'n anodd mynd trwy'r drws ffrynt.
"Ymdrech y gwasanaeth iechyd dros yr wythnos ddiwethaf oedd ceisio gwneud yn si诺r bod y bobl hynny ble mae modd gofalu amdanyn nhw yn ddiogel gartref yn cael eu rhyddhau.
"Yna mae gennym ni'r gallu i wneud yn si诺r fod pobl ddim yn wynebu yr amgylchiadau ofnadwy sydd wedi eu disgrifio."
Pan gwympodd tad-cu Steve Parsons yn ei gartref yn Sir Fynwy, ffoniodd ei deulu 999 ar unwaith.
Ond pan ddywedwyd wrthynt nad oedd ambiwlansys ar gael, gyrrodd Mr Parsons ei dad-cu 83 oed i Ysbyty'r Faenor ger Cwmbr芒n, Torfaen, ac yna'i gario mewn wedi iddo ddioddef ataliad ar y galon.
Helpodd nyrs oedd yn mynd heibio i achub y claf oedrannus, ac mae'r gwasanaeth ambiwlans a'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro.
'Pwysau aruthrol'
Gwadodd Mr Drakeford fod y cyhoedd yn wynebu loteri o ran gofal brys.
"Dwi ddim yn meddwl y gallai gael ei ddisgrifio fel loteri," meddai. "Mae miloedd o bobl yng Nghymru sydd angen y gofal brys hwnnw yn cael sylw ar draws y system.
"Nid yn unig trwy ysbytai a thrwy ambiwlansys yn cyrraedd, ond y gwaith gwych mae ein meddygon teulu yn ei wneud yn y gymuned - y system 111, yr holl ffyrdd eraill y gall y system helpu.
"Bob dydd mae pobl yn cael cymorth yma yng Nghymru.
"Ond mae'r system o dan bwysau aruthrol. Mae yna bethau y gall pob un ohonom ni eu gwneud i helpu gyda hynny.
"Mae angen i'r system ei hun gymryd y camau uniongyrchol hynny sydd wedi helpu i sefydlogi'r sefyllfa yng Nghymru dros y diwrnodau diwethaf."
Talu am ofal
Dywedodd Mr Drakeford bod "gwir frys" i ddiwygio gofal cymdeithasol, ond fod "pethau tymor byr sydd angen eu newid hefyd".
"Mae gennym ni lefydd gwag mewn cartrefi gofal yma yng Nghymru," meddai.
"Mae gennym ni bobl yn aros mewn gwely ysbyty, yn syml yn aros i brofion gael eu cynnal, a allai gael eu cynnal yr un mor hawdd gan bobl gartref."
O ran y tymor hir, meddai, "mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i dalu am ofal".
"Mae gennym ni boblogaeth sy'n tyfu, mae gennym ni lai bobl oedran gweithio," meddai.
"Dyma broblem sydd ddim yn mynd i ddiflannu, a bydd angen diwygio mwy sylfaenol ar gyfer y dyfodol."
Ymddiheuriadau
Hefyd wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget ei bod wedi cymryd cam dadleuol i gefnogi rhyddhau pobl heb becyn gofal o ysbytai "i geisio gwella pethau - nid yn unig i gleifion a'u teuluoedd, ond hefyd i'n staff sydd wedi bod yn gweithio dan bwysau aruthrol".
Ymddiheurodd Ms Paget "yn bersonol" i Steve Parsons a'i deulu - "mae'n ddrwg iawn gen i fod hynny wedi digwydd. Roedd honno'n sefyllfa hynod bryderus", meddai.
Ymddiheurodd hefyd i Wayne Erasmus, a dreuliodd 24 awr mewn ambiwlans a noson ar lawr mewn uned feddygol yn Nhreforys.
Dywedodd Judith Paget fod y galw ar y gwasanaeth iechyd yn "ddigynsail" yn yr wythnos cyn y Nadolig - roedd 800 yn fwy o gleifion mewn ysbytai ar Ddydd Nadolig nag yn 2021.
Dywedodd fod 27 Rhagfyr hefyd yn un o'r "diwrnodau prysuraf" yn y GIG, gyda 8,500 o alwadau i 111 a 210 o'r galwadau 999 mwyaf difrifol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023