Mwy na ond 'y Darwin Cymreig'

  • Awdur, Rhys Ffrancon
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae mis Ionawr 2023 yn nodi 200 mlynedd ers geni y gwyddonydd Cymreig sy'n un o'r enwau enwocaf ym maes astudiaethau esblygiad yn y byd natur.

Ar 8 Ionawr, 1823, cafodd Alfred Russel Wallace ei eni yn Llanbadog, Sir Fynwy, yn seithfed o naw plentyn i Thomas Vere Wallace ac Mary Anne Greenell.

Roedd yn wyddonydd amryddawn ac mae'n cael ei ystyried gan lawer fel "tad biodaearyddiaeth".

Does dim dwywaith chwaith bod gwaith Wallace wedi chwarae rhan bwysig yn y broses wnaeth arwain at gyhoeddi 'On the Origin of Species' gan Charles Darwin. Yn wir, fe gyhoeddodd y ddau wyddonydd (Wallace a Darwin) yn y darganfyddiad gyda'i gilydd ym mis Gorffennaf 1858. Ond mae llawer o resymau eraill pam fod gwaith Wallace yn hynod bwysig tu hwnt i'w gydweithio gyda Darwin.

Cefndir Cymreig

Fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd tu allan i Gymru, a gyda Albanwr o dad a mam o Loegr mae rhai yn rhoi amheuaeth ar gysylltiadau Cymreig Wallace. Roedd y teulu'n honni eu bod yr un teulu ag William Wallace, yr arwr Albanaidd a frwydrodd am annibyniaeth yn 13eg Ganrif.

Er hyn mae Julian Carter o Amgueddfa Cymru'n grediniol bod Wallace yn ymwybodol ac yn falch o'i Gymreictod; "Er bod posib dadlau yngl欧n ag oedd e'n Gymro a'i peidio, rwy'n credu fod digon yna i ni allu ei ystyried yn y ffordd yna".

Tra'n hogyn ifanc fe symudodd Wallace i Henffordd ac yna i Lundain, cyn dychwelyd i Gymru a setlo yng Nghastell Nedd i weithio fel prentis i'w frawd pan oedd yn 16 oed.

"Does dim dwywaith bod Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd ac mae'n s么n yn aml yn ei lyfrau am yr effaith gafodd tirwedd a phobl Cymru ar ei ddatblygiad.

"Yn ei hunangofiant mae'n s么n am sut oedd wrth ei fodd yn mynd i'r capel a gwrando ar yr iaith Gymraeg, ac hefyd am ei gariad tuag at fro Castell Nedd a'r ffermwyr a'r bobl oedd yn byw yno."

Cafodd chwilfrydedd naturiol Wallace ei ddatblygu'n bellach pan fuodd yn cyfarfod dyn o'r enw Henry Bates tra'n gweithio am gyfnod yng Nghaerl欧r.

Entomolegydd oedd Bates - arbenigwr ar bryfaid - a dyma efallai wnaeth sbarduno diddordeb Wallace mewn casglu bywyd gwyllt.

Fe symudodd Wallace yn 么l i Gastell Nedd yn 1845 pan roedd yn 22 wedi i'w frawd, William, farw.

"Yn ystod yr adeg yma roedd ef a Bates yn parhau i fod mewn cysylltiad ac fe wnaeth eu brwdfrydedd eu harwain i ddarganfod a darllen rhai o lyfrau allweddol y dydd," meddai Julian Carter, "gan gynnwys llyfr Darwin am ei deithiau ar y Beagle."

Aeth taith cyntaf Wallace - a'i gyfaill Bates - ag ef i lawr yr Amazon, lle buodd yn casglu samplau o fywyd gwyllt i'w gyrru n么l i Brydain, yn ogystal ag ymddiddori ei hun drwy ystyried yr hyn roedd wedi ei ddarllen - sef damcaniaethau yngl欧n 芒 sut mae bywyd yn datblygu.

Disgrifiad o'r llun, Wallace yn 1862 pan roedd yn teithio o amgylch ardal Malai

Helbul yn y jwngwl

"Yn ystod yr amser roedd yn teithio hyd yr Amazon a'r Rio Negro, roedd Wallace yn casglu pob math o samplau gwahanol o adar, chwilod ac ieir bach yr haf er mwyn eu gyrru'n 么l i Lundain ar gyfer casglwyr Victorianaidd oedd eisiau gorffen eu casgliadau.

"Roedd hi'n amser caled iawn iddo yno yn brwydro'n erbyn afiechydon fel malaria a heintiau bacteriol ac yn ceisio atal c诺n rhag rhedeg i ffwrdd gyda'i waith."

Wedi trafferth gyda swyddogion oedd yn gwrthod gadael i Wallace ddychwelyd gyda'i gargo oherwydd nad oedd wedi llenwi'r gwaith papur yn iawn, fe hwyliodd Wallace yn 么l am Brydain.

Yn anffodus fe aeth y cwch ar d芒n ar y ffordd a treuliodd y teithwyr gyfnod o ryw ddeng niwrnod yn ceisio goroesi yn y m么r. Fe'u hachubwyd ond roeddent wedi colli eu holl eiddo.

Gweledigaeth mewn breuddwyd

Wnaeth Wallace ddim gadael i hyn ei ddal yn 么l - aeth ymlaen i deithio o amgylch Malai: "Roedd wedi cael ei ddylanwadu gan rai o lyfrau oedd wedi cael ei ysgrifennu yngl欧n 芒'r broses o esblygiad, a pan roedd yn sownd yn Borneo yn ystod y tymor glawiog, fe ddechreuodd ei ymennydd gysylltu'r holl bethau yma gyda'i gilydd."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Cymru'n agos iawn at galon Wallace

Fe ysgrifennodd Wallace bapur o'r enw 'Sarawak's Law' - papur aeth ymlaen i fod yn sail ar gyfer cangen o wyddoniaeth sy'n cael ei alw'n fiodaearyddiaeth.

Yma hefyd, tra yn y gwely gyda thwymyn, y daeth y syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol iddo.

Nid yw Mr Carter yn cytuno gyda rhai sy'n dweud bod Darwin wedi dwyn y syniad gan Wallace - mae'n credu bod y ddau yn rhan o broses oedd yn datblygu'n raddol tuag at y syniad yr adeg honno.

"Efallai bod Wallace yn falch o'r ffaith bod Darwin wedi ysgrifennu 'On the Origin of Species' gan ei fod yn faich oddi ar ei ysgwyddau!"

  • Mae'r dyfyniadau gan Julian Carter yn dod o erthygl flaenorol (2013).