大象传媒

Creu 29 o swyddi newydd yn chwareli Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Chwarel Penrhyn quarryFfynhonnell y llun, RCAHMW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae chwarel y Penrhyn ym Methesda yn un o gynhychwyr llechi hynaf y byd

Bydd chwarel Y Penrhyn ym Methesda yn ymestyn tra bod dwy chwarel ym Mlaenau Ffestiniog ar fin ailagor ar 么l bod ar gau ers dros ddegawd.

Gyda galw mawr o bedwar ban byd am lechi o Gymru, mae'r cynlluniau i ymestyn chwarel Penrhyn ym Methesda yn diogelu 115 o swyddi.

Bydd swyddi newydd yn cael eu creu maes o law.

Mae 10 swydd newydd eisoes wedi'u creu ar y safle o fewn yr adran cynhyrchu agregau.

Ym Mlaenau Ffestiniog, bydd dwy chwarel gafodd eu cau 10 mlynedd yn 么l yn ailagor ddiwedd y mis gan greu 19 o swyddi newydd.

Cymysgedd o waith echdynnu a phrosesu fydd yn cael ei wneud yn chwareli Ffestiniog a Chwt y Bugail fel rhan o'r datblygiadau newydd.

Mae chwarel Cwt y Bugail wedi bod yn cynhyrchu llechi ers 1840 - mae modd adnabod y llechi drwy eu lliw llwydlas tywyll sydd ag ambell wyth茂en wen yma ac acw.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Ffestiniog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Rheilffordd Ffestiniog ei chodi i wasanaethu'r masnach llechi

Dywed Welsh Slate, sydd eisoes yn gyflogwr mawr yn yr ardal, y bydd ailagor safleoedd Ffestiniog a Chwt y Bugail yn cynyddu cyfanswm y gweithlu tua 13%.

"Mae rhan fwyaf ohonyn nhw yn bobl lleol," meddai Mike Ford, Rheolwr Gweithrediadau Welsh Slate ym Methesda.

"Maen nhw'n dod o fa'ma yn Bethesda, Bangor a Caernarfon ac wrth ymestyn y chwarel mi fyddwn ni'n chwilio am fwy o staff."

Ffynhonnell y llun, Peter Byrne/PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae galw mawr am lechi'r gogledd yn y DU a ledled y byd,' medd y rheolwyr

Mae o'n awyddus i weld prentisiaid lleol yn dod i weithio ar yr ochr beirianyddol yn ogystal 芒'r gwaith llechi.

"Mae gennym ni bartneriaeth wedi ei sefydlu efo Ysgol Dyffryn Ogwen a Coleg Menai i drio expandio y skill base yma yn Penrhyn."

Fis Ebrill 2022, cyflwynodd Breedon Trading Limited (sy'n masnachu fel Welsh Slate) geisiadau cynllunio i ymestyn Chwarel y Penrhyn.

Bydd y cynlluniau a gafodd eu caniat谩u gan Gyngor Gwynedd fis Tachwedd, yn ymestyn oes Chwarel y Penrhyn o ddiwedd 2023 hyd at ddiwedd 2035.

"Rydym yn chwilio am 29 o bobl yn y tymor cymharol fyr," meddai Michael Halley, Cyfarwyddwr Masnachol, Welsh Slate.

"Ond yn y tymor hir 'dan ni'n chwilio am hyd yn oed mwy.

"Mi rydan ni'n gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol, ac mae gennym ni raglenni prentisiaeth oherwydd mewn gwirionedd, dyna sydd ei angen, mae angen ieuenctid yn dod i mewn i'r chwarel."

Galw mawr

Mae chwarel Penrhyn ym Methesda wedi bod yn cynhyrchu llechi to ers y 13eg ganrif a rwan daw sicrwydd y bydd hynny'n parhau tan 2035.

Bydd y cynlluniau i echdynnu hyd at 250,000 tunnell o lechi Penrhyn yn diogelu swyddi a galluogi'r cwmni i greu mwy o gynnyrch.

Mae gan Y Penrhyn - un o'r chwareli llechi hynaf a mwyaf yn y byd - 115 o staff yn cynhyrchu llechi to, llechi adeiladu, ac agregau diwydiannol.

"Mae galw mawr am lechi yma yn y DU a ledled y byd," ychwanegodd Mr Ford.

"Ar hyn o bryd rydym yn allforio 40% o'n llechi to i Awstralia, mae angen i ni ehangu i gadw i fyny 芒 galw'r farchnad."

Ffynhonnell y llun, Hawfraint y Goron: CBHC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Welsh Slate y bydd ailagor safleoedd Ffestiniog a Chwt y Bugail yn cynyddu cyfanswm y gweithlu tua 13%

Mae chwareli Cymru wedi bod yn cyflenwi llechi i'r byd ers canrifoedd, ac yn cael eu hystyried gan lawer fel y llechi naturiol gorau yn y byd.

Mae ganddyn nhw nodweddion unigryw, ar gael naill ai mewn lliw grug (porffor) neu lwydlas.

"Mae yna alw mawr am y llechen yma ledled y byd," meddai Michael Halley.

"Yn hanesyddol mae hi wedi cael ei hallforio i bedwar ban byd, ac mae'n para tua 150 mlynedd ar do.

"Mae llawer o'n hallforion wedi bod i Awstralia.

"'Da ni newydd orffen to Eglwys Gadeiriol y Santes Fair yn Sydney sydd 芒 llechi o chwarel Penrhyn a Chwt y Bugail hefyd, y senedd-dy yn Trinidad a Tobago."

'Ansawdd yn ein gyrru'

Tra bo Michael Halley yn cydnabod fod canran y llechi sy'n cael eu hadennill yn isel mae'n dweud mai "ansawdd sy'n ein gyrru ni".

"Mae'n rhaid iddo fod y deunydd gorau, mae'n rhaid iddo fod yn wastad, yn unffurf a bod o'r ansawdd ucha' bosib.

"Y fantais fawr o ehangu'r chwarel yw y gallwn ni droi at ddefnyddio dulliau eraill o echdynnu - fel llifio.

"Gallai wire sawing gynyddu'r cynnyrch gawn ni o'r chwarel o 3% i 6% os nad mwy, felly i bob pwrpas, byddai hynny'n dyblu oes y chwarel neu'n ein galluogi i gynhyrchu mwy o lechi."

Mae Welsh Slate yn rhagweld y bydd hi'n cymryd tua dwy flynedd i baratoi'r chwarel ar gyfer y meinciau echdynnu newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Briggs ei fod yn falch o weld llechi Cymru ar draws y byd

Mae Mark Briggs wedi bod yn hollti cerrig to chwarel y Penrhyn ers dros 26 mlynedd.

Mae'n dweud ei fod yn falch o weld llechi Cymreig ar doeau ar draws y byd.

"Mae'n dda gweld llechi ni mewn llefydd fel Awstralia, llechi o Gymru o Bethesda bach."

Pan ofynnwyd a ydy pobl ifanc yn cael eu denu i weithio yn y chwareli y dyddia yma? "Na" meddai, "does dim llawer o bobl ifanc eisiau gweithio yn y chwarel bellach - mae'n ormod o waith caled!"

Bydd gweithrediadau chwarel Penrhyn yn parhau tan 2035, gyda gwaith pellach i adfer y safle yn parhau tan 2037.

Pynciau cysylltiedig