大象传媒

Galw am ddychwelyd gweddillion yr Arglwyddes Goch i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Arglwyddes Goch PavilandFfynhonnell y llun, Prifysgol Rhydychen/Amgueddfa Astudiaethau Natur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweddillion Arglwyddes Goch Paviland - sy'n ddyn - yn deillio o gyfnod mwy na 30,000 mlynedd yn 么l

Mae yna alw ar i weddillion Arglwyddes Goch Paviland gael eu dychwelyd i Gymru - a hynny 200 mlynedd wedi i wyddonwyr ddod o hyd iddyn nhw mewn ogof ar Benrhyn G诺yr.

William Buckland, gweinidog ac athro daeareg cyntaf Prifysgol Rhydychen, ddaeth o hyd i'r gweddillion - sydd o gorff dyn mewn gwirionedd - ar 18 Ionawr 1823.

Yn syth fe'u cludwyd i amgueddfa ym Mhrifysgol Rhydychen ac ers hynny mae yna alw wedi bod ar i'r gweddillion gael eu dychwelyd i Gymru.

Am ganrif wedi'r darganfyddiad doedd neb yn si诺r iawn beth oedd wedi'i ganfod.

Gyda'r sgerbwd wedi'i orchuddio mewn ocr coch, neu haearn ocsid roedd Buckland yn credu bod yr Arglwyddes Goch yn butain Rufeinig neu'n wrach.

Ond fe wnaeth ymchwiliadau pellach ar hyd y canrifoedd ddatgelu bod y gweddillion yn rhai gwrywaidd ac yn deillio o gyfnod rhwng 33,000 a 34,000 o flynyddoedd yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd hyd i weddillion Arglwyddes Goch Paviland mewn ogof yng Ng诺yr bron yn union 200 mlynedd yn 么l

Yn 1912, cafwyd mwy o wybodaeth am y canfyddiadau a hynny wedi i'r archaeolegydd William Solace ail-ymweld 芒'r ogof yn Paviland.

Wedi iddo ddod o hyd i bicelli ac offer o garreg daeth i'r casgliad bod y gweddillion yn perthyn i heliwr yn ystod cyfnod sy'n cael ei adnabod fel yr Oes I芒 ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Rhydychen/Amgueddfa Astudiaethau Natur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sgerbwd i'w weld yn Amgueddfa Astudiaeth Natur Prifysgol Rhydychen er bod galwadau wedi bod i'w dychwelyd i Gymru

Mae Byron Davies cyn-AS G诺yr, sydd bellach yn Arglwydd G诺yr, wedi bod yn galw ers tro am i weddillion yr Arglwyddes Goch gael eu dychwelyd i Gymru.

"Rwy' wedi cael fy magu ym Mhorth Einon ger Paviland a wastad wedi bod 芒 diddordeb yn y gweddillion," meddai.

"Fel gwleidydd dechreuais fod 芒 rhan mewn ymgyrch i ddod 芒 gweddillion yr Arglwyddes Goch yn 么l i Gymru.

"Ond o ystyried pa mor fregus yw'r gweddillion a'r gost o ddod o hyd i gartref parhaol iddyn nhw, dwi ddim yn siwr a fyddan nhw'n dychwelyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Byron Davies, bod ei freuddwyd o ddychwelyd y gweddillion i Gymru yn parhau

Mae'r Arglwydd Davies yn cyfaddef y dylai materion pwysicach na dychwelyd y gweddillion hawlio arian cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n dweud nad yw ei freuddwyd ar ben.

Ond mae'n rhaid cael gwared 芒'r gyfriniaeth Gymreig sydd wedi'i chreu o gwmpas gweddillion yr Arglwyddes Goch, medd yr Athro George Nash o Lerpwl a Phrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal.

"Mae rhai wedi dweud bod y gweddillion yn perthyn i un o gyn-dadau'r Cymry ond ffwlbri yw hynny.

"Y tebyg yw eu bod o dras Affricanaidd neu Arabaidd - a bod y dyn yn ceisio dianc rhag ryw gythrwfl neu orboblogi yn ei famwlad.

"Ond er nad yw'r dyn yn rhan o'n llinach mae'r darganfyddiad yn allweddol yn hanes Cymru.

"Os oes unrhyw ffordd o ddychwelyd y gweddillion i Gymru yn ddiogel - ac mae yn 'os' mawr - rwy'n credu'n bendant mai dyna'r peth iawn i'w wneud."

Pynciau cysylltiedig