大象传媒

Y warws sy'n 'rhoi pobl ag anableddau yn ganolog'

  • Cyhoeddwyd
warwsFfynhonnell y llun, Warws Werdd

Yn ddiweddar fe wnaeth cyflwynydd 大象传媒 Radio Cymru, Aled Hughes, a'i d卯m ymweld 芒'r Warws Werdd, sy'n rhan o Antur Waunfawr.

Sefydlwyd y Warws Werdd yn 2004, gyda'r pwrpas o werthu dodrefn, nwyddau gwyn a dillad ail-law.

Mae'n fenter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.

Dyma argraffiadau Aled o'i ymweliad 芒'r Warws.

"Dwi wedi bod 芒 soffa i Bethel," meddai Llion wrtha i'n gwenu fel gi芒t. Mae o wrth ei fodd yn crwydro ac yn siarad tra'n gwneud hynny. Ar 么l esbonio mod i'n cael fy nhalu i siarad - mae o'n gofyn "faint" cyn chwerthin o'i fol.

Mewn fawr ddim o dro dwi'n dod i wybod fod Llion wrth ei fodd yn canu - Dafydd Iwan ac Yma O Hyd ar y carioci yn ffefryn, ac am ychydig eiliadau mi rydan ni'n cyd-ganu.

Un o dros 70 o bobl sydd ag anableddau dysgu sy'n cael cyflog, cyfle a chefnogaeth gan Antur Waunfawr ydi Llion.

Ac ynghanol mis Ionawr tywyll, llwyd, gwlyb a gwyntog mae chwerthiniad heintus Llion fel yr haul yn torri trwy'r cymylau.

Ar y fan, yn sgwrsio ac yn canu mae o hapusaf - ac mae'r gwaith mae o'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar lawr gwlad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aled yn cwrdd 芒 Llion, un o'r gweithwyr ar y safle.

"Bob dim 'da ni neud mae'n gorfod rhoid y person efo anabledd dysgu yn ganolog."

Dwi bellach yn cael paned efo un o uwch-reolwyr yr Antur, Haydn Jones, a hynny ar safle Warws Werdd, y cwmni ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon. Mae angerdd Haydn am waith y Warws, y criw sy'n gweithio yno a'r Antur yn ysbrydoli rhywun.

"Soffas, cadeiriau a dodrefn gwely sydd ganddo ni fan hyn," meddai Haydn wrth esbonio yr hyn mae nhw'n wneud yn y Warws Werdd. Yn syml iawn mae Llion a'r criw yn casglu hen ddodrefn o ar draws y gogledd-orllewin.

Y Gofod Ffiws

Os oes angen trwsio, rhoi ychydig o gariad - neu hyd yn oed brintio darn o rhyw ddodrefnyn o'r newydd ar brinter 3-D - mae gweithwyr yr Antur yn gwneud hynny yn y Gofod Ffiws (ystafell gynnal a chadw yn syml iawn).

Ar 么l hynny mae'r dodrefn yn cael ei ail-werthu ac mae'r cylch o'r gymuned yn helpu'r gymuned yn gyflawn. Ond nid dodrefn yn unig sy'n cael ei ailgylchu yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r unigolion sy'n gweithio a chael chefnogaeth gan Antur Waunfawr.

Erbyn hyn, dwi'n sefyll mewn ystafell sy'n llawn dillad. Dillad sydd fel newydd ac yn barod i bobl ddod i'w brynu neu'i archebu ar y we.

"Ar hyn o bryd, 'da ni'n casglu ac yn prosesu deg tunnell yr wythnos," meddai Haydn.

Stopiwch ddarllen am funud - a meddyliwch am hynny. Dillad. 10 tunnell. Yr wythnos. Y dillad i gyd o'r gogledd-orllewin. Ffaith chwalu pen. Beth bynnag sy'n ddigon da i'w werthu ar 么l bod yn y Gofod Ffiws, mae'n cael ei werthu, ac mae gweddill y brethyn wedyn yn cael ei brynu gan gwmni o Lerpwl.

"Pedair blynedd gorau mywyd i - heblaw am chwarae i Gymru!" meddai un o'r rhai sy'n gyfrifol am gasglu'r 10 tunnell o ddillad yn wythnosol. Mae'r mwynhad y mae Malcolm Allen yn ei gael, bedair blynedd ers iddo gael ei gyflogi, yn amlwg: "'Da ni'n mynd o Gaergybi yr holl ffordd i lawr at Machynlleth jest yn hel dillad - ma hynny ond yn un project - ond yn sicr maen nhw wrth eu bodd ac yn edrych ymlaen i ddod hefyd."

Storfa newydd

Ar 么l i Llion, pwy bynnag arall ar rota'r dydd, Malcolm a'r criw ddychwelyd i Cibyn, dyna pryd y mae'r gwaith yn dechrau i Iolo: "Dwi'n gweithio yma ers tair blynedd yn sortio'r dillad - ac mae yna LOT yn cyrraedd!"

"Rhoi dillad yn y bag a mynd i'r swyddfa i weld Ifan Rhys," ydi'r diwrnod sydd o flaen Guto.

Oherwydd y galw, yr ehangu a'r profiadau sy'n wynebu'r Antur mae yna estyniad newydd yn mynd i fod yn agor yn fuan, Y Storfa Werdd.

Fel yr eglura Haydn: "Yn y b么n, estyniad ydi o i'r warws fel bod ni'n gallu casglu mwy, prosesu mwy a gallu gwerthu mwy. Felly mae'r warws ei hun yn mynd yn ofod man-werthu yn gyfan gwbl."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aled ac Haydn yn sefyll o flaen estyniad i'r adeilad sy'n cael ei godi ar hyn o bryd.

Mae Haydn yn parhau: "Dwi'n gyffrous bod cwmni fel Antur yn gallu chwarae rhan o gyrraedd nod (ailgylchu) cenedlaethol a dwi mor prowd o'r cymunedau yng Ngwynedd a'r mentrau cymunedol sydd ganddo ni drwy'r sir yn gallu cyfrannu at Gymru newydd - pam ddim? Pam fedrwn ni ddim newid meddylfryd a gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru?"

Ffynhonnell y llun, Warwswerdd

A dyna'r union fath o wahaniaeth mae'r Antur wedi ei wneud, busnes sydd bellach yn trosi 拢3.2miliwn yn flynyddol ac yn cyflogi dros 100 o staff, gan gynnwys Haydn: "Dwi wedi dod yn 么l adra i Gymru (o America), dwi 'di gallu sefydlu nheulu yma a mae hynny lawr i Antur Waunfawr - dwi'n ddiolchgar dros ben o be' ma Antur 'di gallu helpu fi i gynnal fy nheulu."

Cyfleoedd i bobl efo anabledd dysgu ers 1984, ailgylchu ac ail-ddefnyddio er lles mawr yr amgylchedd a chyflogi pobl leol yn eu bro. Wrth adael y Warws Werdd doedd Ionawr bellach ddim mor llwm a hynny.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig