大象传媒

Aled Glynne Davies: Agor cwest cyn-olygydd Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aled Glynne DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Aled Glynne Davies, 65, ar goll Nos Galan

Mae cwest i farwolaeth Aled Glynne Davies wedi clywed i'w gorff gael ei ganfod yn y d诺r ger Canolfan Hwylio Caerdydd yn y Bae.

Cafwyd hyd i'w gorff am 09:40 fore Mercher, 4 Ionawr, a'i adnabod yn ffurfiol gan ei wraig drannoeth.

Roedd cyn-olygydd Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar 么l cael ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar 13 Ionawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Eglurodd crwner cynorthwyol Canol De Cymru bod yn rhaid cynnal cwest os ydy rhywun wedi marw mewn modd treisgar, annaturiol neu os nad ydy achos y farwolaeth yn eglur.

Ychwanegodd Dr Sarah Richards fod y farwolaeth yn un roedd angen ymchwilio ymhellach iddi.

Cafodd y cwest ei ohirio tan i ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Mr Davies gael ei gwblhau.

'Dyn doeth, llawn hiwmor'

Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd 大象传媒 Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Bu'n gweithio hefyd ar wasanaeth Newyddion y 大象传媒 ar S4C, ac arwain y t卯m sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y 大象传媒, Cymru'r Byd.

Yn fwy diweddar fe sefydlodd y cwmni cynhyrchu, Goriad, gyda'i wraig Afryl, gan weithio ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys y rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio fel "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru" a "dyn doeth, hawddgar, llawn hiwmor".

Pynciau cysylltiedig