大象传媒

Diwrnod nodedig wrth ailadeiladu 'jig-so' Llong Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Llong Casnewydd yn y mwd yn 2022
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma ddaeth adeiladwyr ar ei draws wrth adeiladu theatr newydd yng Nghasnewydd yn 2002

Sut mae rhoi jig-so 25 tunnell, tri dimensiwn, 550 o flynyddoedd oed 'n么l at ei gilydd heb gyfarwyddiadau?

Dyna'r dasg sy'n wynebu archeolegwyr yng Nghasnewydd sydd am ail-adeiladu corff llong o'r 15fed Ganrif gafodd ei darganfod 20 mlynedd yn 么l mewn gwely afon.

Ers i'r llong gael ei darganfod ar ddamwain yn 2002, mae tua 拢8m wedi ei wario ar sychu ac adfer y pren, gan gynnwys eu rhew-sychu yn amgueddfa'r Mary Rose yn Portsmouth.

Ddydd Iau mae'r gwaith yn cyrraedd carreg filltir nodedig wrth i'r darnau olaf ddychwelyd oddi yno i Gasnewydd.

'Moment gyffrous'

Bellach mae'r holl ddarnau pren - dros 2,500 ohonyn nhw - wedi eu trin ac yn 么l gyda'i gilydd yng Nghasnewydd am y tro cyntaf mewn blynyddoedd lawer.

Cam nesa'r prosiect uchelgeisiol fydd cynllunio ymdrech fwya'r byd i ail-osod llong archeolegol.

Gobaith y t卯m sy'n gyfrifol am Long Casnewydd yw y bydd modd ei hail-adeiladu a'i harddangos erbyn 2028.

Mae 'na awgrym y gallai'r llong ddenu hyd at 150,000 o ymwelwyr yn flynyddol i'r ddinas, gan ddod 芒 拢7m o incwm ychwanegol i economi'r de-ddwyrain.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Casnewydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sut y gallai Llong Casnewydd fod wedi edrych wrth ddocio yn Afon Wysg yn y 15fed ganrif

Mae 'criw presennol' y llong wedi gorfod aros yn amyneddgar am ddau ddegawd i alluogi adfer a rhew-sychu'r coed hynafol.

Dyma broses y mae un o'r tywyswyr Jeff Grosvenor, sy'n hebrwng pobl o amgylch yr arddangosfa bresennol, yn hoff o alw'n "shiver me timbers".

Mae'n ddywediad sy'n mynd 'n么l i oes y m么r-ladron, meddai.

"Mae hon yn foment gyffrous, ar 么l aros gymaint o amser mae'r gwaith cadwraeth ar ben a nawr gall y gwaith o ailadeiladu'r llong ddechrau," meddai Mr Grosvenor.

'O ddiddordeb i'r byd'

Mae arbenigwyr o'r farn bod y llong fasnach Ganol Oesol hon yn drysor morwrol, mor hynod yn hanesyddol 芒 darganfod llong Harri'r VIII, y Mary Rose yn Portsmouth.

Ond mae hon ganrif yn h欧n eto a does mo'i thebyg yn unman.

"Mae'r llong o arwyddoc芒d a diddordeb i'r byd yn grwn," meddai'r hanesydd teledu, Dan Snow.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Casnewydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y 2,500 o ddarnau pren o Long Casnewydd eu cadw mewn cwyr am bedair blynedd fel rhan o'r broses adfer

"Llong mewn flat pack anferth" yw disgrifiad y curadur Dr Toby Jones, ac mae'n cyfaddef y bydd yna gryn dipyn o waith i'w rhoi at ei gilydd.

"Mae 'na longau archeolegol i'w gweld o gylch y byd," meddai Dr Jones, "ond does yna'r un o'r 15fed Ganrif felly mae hon yn nodedig ac arbennig.

"Mae ganddom long o'r Canol Oesoedd sy'n gwbl unigryw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae hon yn foment gyffrous," meddai Jeff Grosvenor

Llong Casnewydd yw'r unig longddrylliad o'r cyfnod yma i'w darganfod yn Ewrop.

Drwy hynny, medd haneswyr, mae modd agor cil y drws ar fywyd yn y 1400au - popeth o ddull adeiladu llongau i fasnach ryngwladol.

Dywed cyn-gadeirydd Cymdeithas Hanes Casnewydd, Martin Culliford: "Cafodd arteffactau eu darganfod yng nghorff y llong, gafodd eu hadeiladu yng Ngwlad y Basg, o Bortiwgal a'r Almaen a Bryste, sy'n brawf o'r fasnach oedd yn digwydd rhwng y llefydd yma.

"Mae gemau roedd y criw yn chwarae hefyd, pethau milwrol a 'sgidiau... olion masnach gwin a brandi a halen."

Sut cafwyd hyd i'r llong?

Gwaith adeiladu theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd arweiniodd at ddarganfod y trysor.

Mae haneswyr o'r farn i'r llong fasnach gael ei hadeiladu yng Ngwlad y Basg tua 1449, gan gael ei defnyddio i gludo gwin rhwng Portiwgal, Sbaen, Ffrainc a'r Deyrnas Unedig.

Gallai gario tua 100 casgen ar y tro. Mae cylchoedd twf y coed yn dyddio'r pren fel 么l bys.

Mae 'na le i gredu bod y llong yn 30 metr o hyd, 400 tunnell, ac yn cael ei thrwsio mewn cilfach o Afon Wysg tua 1468-69 pan dorrodd ei hangorfa a syrthio i'r mwd. Roedd newydd gludo gwin o benrhyn Iberia i Fryste.

Cafodd cryn dipyn o'r pren a'r haearn gwreiddiol eu cymryd, cyn i'r llanw ddwyn y gweddill a'i suddo i'w bedd tanddwr am bum canrif.

Ond cafodd corff y llong ei warchod yn ofalus gan fwd y Wysg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Allan Cook yn un o'r tywyswyr sy'n hebrwng pobl o amgylch yr arddangosfa bresennol

Un arall o'r tywyswyr yw Allan Cook.

"Mae dros 2,500 o ddarnau o bren, bach a mawr, yn barod nawr i'w rhoi at ei gilydd," meddai.

"Cafodd y llong ei chodi'n y dull Llychlynaidd gyda phlanciau'n cael ei rhoi at ei gilydd i greu corff neu 'hull' y llong.

"Yna roedd crefftwyr yn creu ac yn gosod ffram tu fewn i gryfhau'r cyfan - pob darn yn cael ei wneud gyda llaw, coed yn cael ei dewis yn arbennig ar gyfer y pwrpas."

Ble fydd cartref y llong?

Ond yn gynta', mae'n rhaid dod o hyd i gartre' addas newydd ar gyfer y llong.

"Does dim modd ei hail-adeiladu ac yna ei symud," meddai Toby Jones. "Allwch chi ond ei chodi yn y fan a'r lle a'i gadael yno yn sefydlog am byth."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Mary Rose
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prennau Llong Casnewydd wedi'u rhewi'n sych yn y peiriant yma yn Amgueddfa Mary Rose, Portsmouth

Cyngor Casnewydd sy'n arwain y gwaith cadwraeth. Y dasg fawr nesa' i'r awdurdod yw dod o hyd i gartre' addas ar gyfer eu trysor hanesyddol diweddaraf.

"Ry'n ni'n awyddus i ddod o hyd i le sydd yn hygyrch i bawb er mwyn arddangos a rhannu'r trysor arbennig yma," meddai arweinydd y cyngor Jane Mudd.

"Mae Llong Casnewydd yn cryfhau'n treftadaeth gyfoethog ni yma, treftadaeth sy'n cynnwys olion Rhufeinig nodedig, sy'n dangos bod pobl ar hyd yr oesoedd wedi dod i Gasnewydd i fasnachu ac ymgartrefu - ac ry'n ni am ddathlu hyn.

"Ac mae'r potential i elwa'n economaidd yn bwysig hefyd."

Arian gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y cyngor sir ac ymdrechion gwirfoddolwyr 'Cyfeillion Llong Casnewydd', sydd wedi galluogi gwireddu'r freuddwyd o warchod y crair pwysig yma.

Ar 么l pum canrif a hanner mewn bedd llaid, mae Llong Casnewydd gam yn nes at arddangos ei chyfrinachau i'r byd.

Pynciau cysylltiedig