Cynnig taliad untro i athrawon 'ddim yn ddigon'
- Cyhoeddwyd
Cafodd taliad untro ei gynnig i athrawon a phenaethiaid ysgol mewn cyfarfod gyda gweinidog addysg Llywodraeth Cymru fore Iau.
Dywedodd ffynonellau wrth 大象传媒 Cymru fod y cynnig yn debyg i'r hyn a wnaed i weithwyr iechyd yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe awgrymodd uwch swyddogion mewn dau undeb nad oedd y cynnig yn mynd yn ddigon pell.
Daw cyn pedwar diwrnod o streiciau gan aelodau'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Bydd yn rhaid i "nifer fawr" o ysgolion Cymru gau pan fydd athrawon yn gweithredu, yn 么l cynrychiolydd NEU Mairead Canavan.
Mae undebau addysg yn gofyn am godiad cyflog sy'n cwrdd 芒 phrisiau cynyddol, neu chwyddiant.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, fod y cyfarfod yn un "adeiladol" a bod bwriad cyfarfod eto cyn y streiciau.
Pa undebau sy'n streicio?
Fe wnaeth athrawon y NEU gefnogi streic ddydd Llun. Dywedodd cynrychiolydd NEU, Mairead Canavan, wrth y 大象传媒 y bydd yr undeb yn "annog pob ysgol" yng Nghymru i gael llinell biced pan fydd ei haelodau'n cerdded allan ar 1 a 14 Chwefror, a 15 a 16 Mawrth.
Mae NAHT Cymru wedi cyhoeddi gweithredu yn brin o streic, felly bydd aelodau, er enghraifft, yn cyfyngu ar argaeledd i dderbyn neu ymateb i alwadau ac e-byst cyn 9am neu ar 么l 3pm, ac yn ymatal rhag mynychu cyfarfodydd ar 么l 5pm.
Fe wnaeth undeb arall - NASUWT - gynnal pleidlais hefyd, ond ni fyddan nhw'n gweithredu am fod llai na 50% o aelodau wedi cymryd rhan.
Ni fydd aelodau UCAC yn mynd ar streic chwaith ar 么l i lai na hanner yr aelodau bleidleisio.
Bu cynrychiolwyr yn cyfarfod 芒 Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod ar-lein fore Iau.
Cadarnhaodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru yr NEU, fod undebau wedi cael cynnig "taliad anghyfunol untro".
Ond dywedodd "nad yw'n mynd yn agos at fodloni ein gofynion ni a'r undebau eraill".
Dywedodd fod trafodaeth hefyd ar leddfu llwyth gwaith athrawon.
Pwysodd undebau am adolygiad brys o adroddiad diweddaraf y corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, a fyddai'n ymarferol yn golygu ailedrych ar y codiad cyflog ar gyfer y flwyddyn nesaf sydd wedi'i osod ar hyn o bryd ar 3.5%.
Roedd y trafodaethau yn "ddechrau ond does dim byd wedi'i ddatrys", ychwanegodd Mr Evans.
Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb penaethiaid ysgolion NAHT Cymru, nad oedd yn ddigon i ohirio gweithredu diwydiannol yn ei hundeb.
Dywedodd Ms Doel fod ei hundeb wedi cychwyn "trafodaethau ystyrlon" gyda Llywodraeth Cymru, a galwodd y sgyrsiau yn "gynhyrchiol".
Dywedodd fod trafodaethau hefyd am lwyth gwaith, recriwtio a chadw staff, a chyllid.
Cadarnhaodd fod taliad untro wedi'i drafod, ond gwrthododd roi manylion am yr hyn a gynigiwyd.
"Yn sicr ddim yn ddigon" oedd asesiad Neil Butler o NASUWT i'r cynnig, ond dywedodd ei fod yn galonogol bod y "gweinidog wedi dod gyda chynnig - daeth i drafod".
Dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Rydyn ni'n croesawu'r cyfarfod adeiladol iawn, ac yn edrych ymlaen at barhau'r trafodaethau."
Roedd sylw i lwyth gwaith athrawon hefyd i'w groesawi, meddai.
'Dechrau'r drafodaeth'
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Heddiw rwyf wedi cwrdd 芒 chynrychiolwyr o undebau dysgu a phenaethiaid, ochr yn ochr 芒 CLlLC [Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru], i drafod canlyniadau'r pleidleisiau streicio.
"Roedd yn gyfarfod adeiladol ac rydym wedi cytuno y byddwn yn siarad eto cyn unrhyw streiciau arfaethedig.
"Rwyf am sicrhau'r gweithlu addysg fy mod yn gwrando ar eich pryderon ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag undebau ac awdurdodau lleol i geisio datrysiad. Fel llywodraeth credwn y dylid datrys anghydfodau drwy drafod.
"Yn ystod y cyfarfod fe wnaethom drafod taliad arian parod untro yn ychwanegol at ddyfarniad cyflog 2022-23, a chyfres o faterion nad ydynt yn ymwneud 芒 th芒l, gan gynnwys ymrwymiad i fynd i'r afael 芒 materion yn ymwneud 芒'r llwyth gwaith.
"Dechrau'r drafodaeth oedd y cyfarfod heddiw ac mae trafodaethau pellach ar y gweill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022