大象传媒

Defnyddio celf i annog sgyrsiau am anabledd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jack Moyse: Ffotograffiaeth yn fy ngalluogi i ddeall fy nheimladau

Roedd Jack Moyse yn yr ysgol uwchradd pan ddechreuodd sylwi ar newidiadau i'w gorff.

Roedd ei wersi chwaraeon yn anoddach, a'i ffrindiau yn datblygu yn gyflymach yn gorfforol.

"O'n i ddim eisiau cydnabod fod rhywbeth o'i le," meddai.

Yn 17 oed, fe gafodd Jack wybod fod ganddo nychdod cyhyrol fasioscapwlohwmerol (FSHD muscular dystrophy).

Mae'n gyflwr sy'n achosi i'w gyhyrau wanhau yn gyflymach nag eraill. Weithiau mae cwblhau tasgau dyddiol yn anodd iawn iddo.

Er gwaetha'r heriau corfforol a meddyliol, mae Jack yn defnyddio ei gyflwr a'i ddiagnosis fel ysbrydoliaeth i'w waith fel artist aml-blatfform.

Ffynhonnell y llun, Jack Moyse
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jack yn ceisio ysgogi sgyrsiau am anabledd wrth ddangos ei waith i bobl sydd ddim yn deall ei gyflwr

"Mae ffotograffiaeth a'r broses o gymryd llun yn fy ngalluogi i ystyried a deall fy nheimladau," meddai.

Mae Jack, sydd bellach yn 27 oed ac yn byw yn Abertawe, yn benderfynol o ddefnyddio ei waith fel ffordd o ddechrau sgyrsiau pwysig am sut brofiad yw bod yn anabl yng Nghymru.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae fy nghyflwr wedi gwaethygu a dwi wedi wynebu gwahaniaethu gan leiafrif."

Celf fel 'catharsis'

Yn y blynyddoedd ar 么l ei ddiagnosis, roedd Jack wedi dioddef gyda heriau iechyd meddwl. Mae'n siarad yn agored am ei iselder a'i orbryder.

Yn 么l yr elusen Anableddau Cymru, maen nhw'n clywed gan gannoedd, os nad miloedd o bobl yn flynyddol sy'n dweud bod yna ddiffyg cefnogaeth iechyd meddwl ar 么l i rywun gael diagnosis sydd yn newid eu bywyd.

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall cyflyrau hir-dymor fod yn anodd i ymdopi 芒 nhw ac fe allan nhw gael effaith andwyol ar iechyd meddwl pobl. Gall iechyd meddwl gwael yn ei dro ei gwneud hi'n anodd i reoli cyflwr iechyd corfforol.

"Mae anghenion pobl yn wahanol - mae'n bosib y bydd rhai angen cefnogaeth gyffredinol tra bod eraill angen gofal seicolegol arbenigol. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gofal gynnwys mynediad at gymorth seicolegol pan fo hynny'n briodol.

"Mae gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar gael i bobl sydd angen cefnogaeth mwy arbenigol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jack yn dweud ei fod yn mynd 芒'i gamera gydag ef i bobman

Ffrind agos oedd yn gyfrifol am awgrymu fod Jack yn troi at ei waith celf fel ffordd o brosesu ei gyflwr.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Jack wedi bod yn datblygu gwaith sydd yn edrych yn benodol ar ei anabledd.

Teitl y prosiect ydy 'What it's Like Being Me'.

"Dwi'n tynnu lluniau o bron popeth," meddai. "Dwi wastad gyda chamera arna'i."

Ffynhonnell y llun, Jack Moyse

Yn ystod haf 2022 fe aeth Jack i Ffrainc fel rhan o brosiect celf. Yno fe benderfynodd gynnal perfformiad byw mewn marchnad.

Fe safodd yng nghanol y farchnad brysur gyda'r geiriau 'Fy enw ydy Jack. Dwi'n anabl. Sut mae hwnna'n gwneud i ti deimlo?' wedi ysgrifennu ar ei frest.

Wrth i Jack sefyll yn y farchnad, fe benderfynodd recordio ymatebion pobl i'w berfformiad.

"Dwi'n gweld lot o sylwadau creulon ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.

"Mae lot o bobl yn rhannu eu meddyliau am anableddau a mae nifer ohonyn nhw yn negyddol.

"Felly o'n i mo'yn gweld os oedd pobl yn ddigon 'dewr' i rannu y meddyliau yna ym mywyd go iawn."

Ffynhonnell y llun, Jack Moyse
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Jack gynnal perfformiad byw mewn marchnad yn Ffrainc a recordio'r ymateb

Roedd Jack wedi synnu gan yr ymateb.

"O'n i ddim o reidrwydd wedi meddwl o'n i'n mynd i gael y fath sylwadau ges i. Ges i amrywiaeth o sylwadau. Roedd rhai yn bositif iawn."

Defnyddiodd Jack y lluniau a fideo i greu darn o waith ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Rhannodd ei waith gyda'r capsiwn: "Dwi wastad wedi ymddiddori yn sut mae pobl yn meddwl am fy anabledd, am sut mae fy anabledd yn gwneud i bobl arall deimlo."

Bwriad Jack ydy ysgogi sgyrsiau o'r newydd am anableddau wrth ddangos ei waith i bobl sydd ddim yn deall ei gyflwr.