大象传媒

Pryder am ddyfodol Eisteddfod M么n heb gymorth cymunedau

  • Cyhoeddwyd
Ellis Wyn Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trefnydd Eisteddfod M么n 2023, Ellis Wyn Roberts, yn poeni am ddyfodol yr 诺yl.

Mae pryder y bydd Eisteddfod M么n yn wynebu cyfnod caled yn y 10 mlynedd nesaf oherwydd prinder ardaloedd i fod yn gyfrifol amdani.

Un o eisteddfodwyr mwyaf pybyr M么n - Ellis Wyn Roberts o Fodffordd - sy'n darogan hynny, mewn cyfweliad gyda'r Post Prynhawn.

Ers sefydlu Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol M么n yn 1906, bu'r 诺yl yn symud o gwmpas cymunedau'r ynys.

Cafodd ei chynnal yn ardal y Gaerwen y llynedd, ond eleni doedd dim un ardal wedi mynegi diddordeb i'w chynnal.

Felly penderfynodd Mr Roberts - sy'n un o lywyddion anrhydeddus Llys Eisteddfod M么n, ac yn enillydd medal goffa Syr T.H. Parry Williams - i ofalu amdani.

Mae ganddo gysylltiad 芒'r 诺yl ers dros 70 mlynedd - fel adroddwr, hyfforddwr ac fel ysgrifennydd yr eisteddfod fwy nag unwaith, gan gynnwys yn ystod ei chanmlwyddiant yn 2006.

'Cymdeithas wedi newid'

Er mwyn cynnal yr eisteddfod eleni mae wedi cael cymorth nifer o aelodau'r Mudiad Ffermwyr Ifanc lleol i fod yn ysgrifenyddion y gwahanol adrannau.

Ond mae Mr Roberts yn pryderu am ddyfodol yr eisteddfod yn y blynyddoedd sydd i ddod.

"Dwi'n gobeithio y cawn ni eisteddfod lwyddiannus - ond mae hi'n fwy anodd", meddai.

"Dwi yn deall bod yr eisteddfod yn mynd i Fro Alaw yn 2024 ac mae 'na ryw s么n y gall hi fynd i Landegfan yn 2025. Ond dwi ddim yn si诺r am wedyn - a dwi'n bryderus am hynny."

Mae'n cofio pan roedd 40 o eisteddfodau bach ar yr ynys - nifer ohonynt yn cael eu trefnu gan gapeli. Ond mae cymdeithas wedi newid wrth i gapeli gau, meddai, ac mae yna lai o wirfoddolwyr ar gael i drefnu eisteddfodau.

"Dwi ddim isio gweld Eisteddfod M么n - os ydy hi'n bosib - yn peidio 芒 bod ond mae gen i ofn yn ystod y 10 mlynedd nesa' y byddwn ni'n wynebu cyfnod caled", meddai ar 大象传媒 Radio Cymru.

"Mae hi yn fwy anodd bellach. Mae hi wedi mynd yn anodd oherwydd does 'na ddim cymaint o bobl yn barod i 'neud... does 'na ddim cymaint o gorau, corau plant ac yn y blaen."

Roedd o hefyd yn cydnabod fod cost i gymunedau ynghlwm 芒 threfnu Eisteddfod M么n - a bod arian yn fwy prin.

Ymgais i ddenu cystadleuwyr

Mae Mr Roberts hefyd o'r farn bod rhaid ystyried newid rhai cystadlaethau er mwyn ceisio denu cystadleuwyr o'r newydd - ac eleni mae tair cystadleuaeth yn gyfyngedig i F么n yn y testunau yn ogystal 芒 dwy ysgoloriaeth.

"Mae 'na ddwy ysgoloriaeth i bobl ifanc o dan 26 oed sydd yn werth 拢500 yr un", meddai. "Un yn yr adran gerdd a'r llall ar gyfer dwy fonolog yn yr adran llefaru.

"Ac ar ben y 拢500 mae 'na dlws er cof am Myrddin Jones [oedd yn cael ei adnabod fel Mei Jones] - sef Wali Thomas wrth gwrs - yn rhoddedig gan John Pierce Jones sef Arthur Picton."

"Wedi trio 'ngorau i wneud ydw i beth bynnag, a dwi'n gwybod y cai gefnogaeth dwi'n si诺r ar draws yr ynys."

Bydd eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Llangefni ar 20 Mai 2023.

Pynciau cysylltiedig