Undeb rygbi 'wedi'i rybuddio' am gydraddoldeb menywod
- Cyhoeddwyd
Cafodd rheolwyr rygbi eu rhybuddio am broblemau mawr o safbwynt cydraddoldeb ac amrywiaeth cyn i honiadau gael eu gwneud o ddiwylliant o ragfarn rhyw o fewn Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru, Charlotte Wathan iddi ystyried lladd ei hun oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd fel "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC.
Nawr mae wedi dod i'r amlwg bod dynes fusnes flaenllaw fu'n gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru wedi rhybuddio URC bod ganddo broblem.
Dywedodd URC ei bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Ymylu ar 'sarhau menywod'
Dywedodd Amanda Blanc, sydd bellach yn brif weithredwr cwmni yswiriant Aviva, wrth URC fod ganddo broblem diwylliant ac ymddygiad "wedi'i wreiddio'n ddwfn" a bod adolygiad oedd wedi'i gomisiynu gan URC i g锚m y menywod "tu hwnt i siomedig" ac yn ymylu ar "sarhau menywod".
Yn ei haraith wrth adael URC dywedodd Ms Blanc, oedd ar restr Forbes o fenywod mwya' dylanwadol y byd yn 2021, iddi gael ei chwestiynu os oedd ganddi "brofiad busnes digonol" i fod yn gadeirydd bwrdd proffesiynol URC.
Rhoddodd Ms Blanc, fu hefyd yn Berson Busnes y Flwyddyn y Sunday Times, y gorau i fod yn gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru fis Tachwedd 2021 oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arni a bod angen i URC "foderneiddio".
Yn ei haraith wrth adael, mae'n cyfeirio at "drafodaeth hynod sarhaus" yngl欧n 芒 lleihau sancsiynau ar gyfer aelod etholedig o URC ar 么l iddo wneud sylwadau misogynistaidd yn gyhoeddus, gan gynnwys mai "dynion yw'r brif hil" ac y dylai menywod "barhau 芒'r smwddio".
"Roedd gorfod eistedd mewn ystafell a gwrando ar rai ohonoch chi'n dweud y byddai cymryd gormod o docynnau am ddim oddi ar y dyn yma yn gwbl annheg, tu hwnt i sarhaus," meddai.
Ychwanegodd: "Mi faswn i'n dweud fod angen i rai ohonoch chi eistedd lawr, cymryd saib ac adlewyrchu ar yr ateb y byddech chi'n ei roi i'r Pwyllgor Dethol pe bai'r dystiolaeth yma yn cael ei roi o'ch blaen.
"Beth fyddech chi'n ddweud wrth y genedl pan fyddai Aelod Seneddol yn gofyn, 'ydy URC yn parchu menywod?'"
Disgrifiodd Ms Blanc, oedd yn gadeirydd annibynnol bwrdd proffesiynol Cymru gydag URC a phedwar rhanbarth Cymru, ei phrofiad personol hithau, gan ddweud iddi godi materion ymddygiad o'r blaen.
'Addewidion gwag'
Mae URC hefyd wedi gwrthod galwadau i gyhoeddi ei adolygiad o g锚m y menywod yng Nghymru o 2021, ond mae rhannau ohono wedi cael eu gweld gan d卯m 大象传媒 Wales Investigates.
Ynddo mae chwaraewyr benywaidd ar y pryd yn disgrifio fod y diwylliant yn eu blino'n feddyliol ac yn tanseilio'u hyder, tra bod rhai uwch aelodau o staff yn dweud ei fod yn cael ei danariannu.
Roedd iechyd meddwl rhai yn dioddef ac yn yr adolygiad, fe wnaeth cyn-chwaraewyr ddisgrifio diwylliant rygbi Cymru ar y pryd fel gwenwynig, ac fe ddywedon nhw eu bod am roi diwedd ar "anghydraddoldeb" ac "addewidion gwag".
Rhybuddiodd yr adolygiad hefyd am risgiau i enw da a chyllid Undeb Rygbi Cymru os na fyddai'n mynd i'r afael 芒'i amharodrwydd tybiedig i ymrwymo'n llawn i rygbi menywod.
Daw manylion sylwadau Ms Blanc i'r wyneb ar 么l i gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru ddweud i gydweithiwr gwrywaidd ddweud wrthi ei fod eisiau ei "threisio".
Mae hi'n dweud i hynny ddigwydd o flaen pobl eraill.
Mae Charlotte Wathan a dynes arall oedd yn gweithio i'r undeb yn dweud iddyn nhw ystyried lladd eu hunain oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw yn y sefydliad.
Yn 么l URC bu ymchwiliad i'r ddau achos gan ddilyn y drefn gywir.
Galw am 'greu dyfodol gwell'
Mae un Aelod Seneddol, sy'n gyn-chwaraewr, wedi rhybuddio fod yr honiadau gyfystyr 芒 sgandal hiliaeth Clwb Criced Sir Efrog.
Mae Tonia Antoniazzi wedi ysgrifennu at y Tywysog William i ofyn am gyfarfod i "greu dyfodol gwell i ferched yn y g锚m yng Nghymru".
Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud eu bod yn edifar clywed sut mae'r unigolion yn rhaglen 大象传媒 Wales Investigates yn teimlo, ac yn dweud y bydd yn parhau i weithio gyda staff i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae URC eisoes wedi siarad am eu hymrwymiad i g锚m y menywod, a'r llynedd fe wnaethon nhw gyflwyno cytundebau proffesiynol i fenywod am y tro cyntaf.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan 大象传媒 Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2023