Sut mae helpu adar yr ardd?
- Cyhoeddwyd
A hithau'n benwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2023 yr RSPB rhwng 27-29 Ionawr, pam y dylen ni gymryd yr amser i fwynhau gwylio adar yr ardd? A sut mae eu denu nhw yno tybed? Yr adarwr Gethin Jenkins-Jones sy'n ein rhoi ni ar ben ffordd.
I mi, un o'r pethe gorau am wylio adar yw ei fod mor gynwysedig. Mae adar o'n cwmpas le bynnag inni, felly gallwn eu mwynhau ar unrhyw adeg.
Ac os oes gennych ardd, mae gennych hefyd y cyfle i ddenu mwy o adar i'ch ardal ac i helpu gynnal poblogaethau lleol. Mae gwylio adar yr ardd yn barod o ddiddordeb mawr i lawer yn y wlad - pob blwyddyn mae Prydeinwyr yn talu tua 拢250 miliwn am fwyd iddynt.
Ond pe bai pawb yn gwybod mwy am adar, hyd yn oed y rhai cyffredin oll, nid oes amheuaeth gennyf i y byddai pawb yn eu gwerthfawrogi ac eisiau trio eu helpu, yn enwedig yn ystod misoedd caled y gaeaf.
Felly beth sydd mor sbesial am adar yr ardd a sut mae denu nhw?
Un o'r pethau mwyaf diddorol amdanynt (ac adar yn gyffredinol) yw eu hecoleg, pa bynnag rhywogaeth.
Dodwy ei bwysau ei hun mewn 10 diwrnod
Gad i ni ffocysu ar un o'n hadar mwyaf cyfarwydd - Titw Tomos Las. Gyda phwysau o ond 11g (fel darn arian 拢2) mae'r titw yn medru dodwy mwy na'i phwysau ei hun mewn cyn lleied 芒 10 diwrnod yn y gwanwyn, wrth ddodwy un wy 1.1g yn ddyddiol yn y nyth.
Dychmygwch famau dynol yn rhoi genedigaeth i fabi pob diwrnod am 15-20 diwrnod yn olynol ac mae'r ffaith yma yn sicr yn un trawiadol! Ac ar 么l i'r wyau ddeor, mae rhaid iddi fwydo pob cyw tua chant lindys bach neu bry' yn ddyddiol am 20 diwrnod er mwyn iddynt oroesi'n ddigon hir i adael y nyth. Dwi'n si诺r bydd rhan fwyaf o famau yn dweud bod un plentyn yn fwy na'n ddigon!
Mae edrych ar adar yr ardd hefyd yn dda i'n hiechyd meddwl. Heb sgrin i edrych arno, gall eu joio am ychydig ddod a llawer o lonyddwch meddwl i ni, a'n gwneud yn fwy cynhyrchiol am weddill y dydd.
Ac yn y byd sydd ohoni heddiw, nid oes amheuaeth bod cael ddiddordeb o'r fath i ddianc o weddill y byd yn hynod o fuddiol.
Cyfrinachau a dirgelion adar
Peth arall sy'n gwneud adar yr ardd mor ddiddorol yw'r cyfrinachau a dirgelion maent yn gadw o hyd. Er enghraifft, daeth y Turtur Dorchog (Eurasian collared dove) - rhywogaeth sy'n gyffredin iawn yn ein gerddi i Brydain ond yn 1955 ar 么l lledaeniad anferth y boblogaeth yn ne-ddwyrain Ewrop o'r 1930au. Beth achosodd y twf? Does neb yn gwybod yn sicr.
Enghraifft arall yw'r drudwy, sy'n ymgasglu mewn heidiau anferth yn y gaeaf yn y gwyll cyn clwydo. Beth yw pwrpas y hedfan diangen am sbel yn ystod oerfel caled y gaeaf? Eto does neb wir yn si诺r.
Dwi'n si诺r bydd darganfyddiadau anhygoel am ein hadar cyfarwydd yn y blynyddoedd i ddod, ond dwi'n si诺r hefyd ni fyddwn erioed yn gwybod popeth.
Felly sut mae helpu adar yr ardd?
Y peth cyntaf byddai'n argymell yw rhoi bwyd allan iddynt, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
I ddenu pincod, beth am brynu hadau blodau'r haul. Bydd y rhain yn debygol o ddenu'r adar mwyaf pert, fel y nico (goldfinch) a'r llinos werdd (European greenfinch).
I rywogaethau'r titw ac adar y to, peth ychwanegol sy'n aml yn llwyddiannus yw blociau neu beli o fraster suet. Bydd y rhain yn eu helpu rhoi braster er mwyn goroesi tymereddau isel nosweithiau'r gaeaf.
Os ydych yn hoff o fronfreithod (song thrush), bydd hi'n syniad hefyd rhoi afalau ar y llawr yn agos at loches llwyni.
Os bydd y tywydd yn troi'n oerach 'to, efallai byddwch hefyd yn denu coch dan-adain (redwing) - 'deryn syn treulio'r haf yn Sgandanafia a Rwsia.
Gallwch hefyd helpu adar gan nodi beth rydych yn gweld ac yn eu rhoi ar-lein. Yr arolwg blynyddol mwyaf adnabyddus yw , sy'n digwydd eleni rhwng 27-29 Ionawr.
Cofrestrwch am ddim ar-lein a nodwch beth ydych yn ei weld yn eich gardd am gyfnod o un awr. Mae bron miliwn o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn, ac mae'n gyfle da i weld sut mae poblogaethau ein hadar yn newid.
Gobeithio byddwch yn ymuno a chael hwyl yn ogystal 芒 theimlo gwerthfawrogiad pellach am yr adar rydym yn ei weld bob dydd. Maent i gyd yn sbesial iawn.
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma fis Ionawr, 2022.
Hefyd o ddiddordeb: