Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Wladfa: Galw eto am athrawon wedi 'her' recriwtio
- Awdur, Meleri Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae'n "siomedig" ac yn "bryder" fod yn rhaid ailagor ceisiadau ar gyfer swyddi i athrawon o Gymru yn y Wladfa, yn 么l y Cydlynydd Dysgu Cymraeg yno.
Mae'r Cyngor Prydeinig wedi gweithredu cynllun ers dros 20 mlynedd i anfon tri o athrawon o Gymru i weithio mewn ysgolion yno.
Yn yr hydref y llynedd fe gafodd hysbyseb ei rhannu ar gyfer swyddi eleni - am gyfnod o fis Mawrth tan Rhagfyr 2023.
Ond, dywedodd y cyngor nad ydyn nhw wedi gallu penodi tri athro, a'u bod yn wynebu "heriau recriwtio" ers y pandemig.
Yn 么l Clare Vaughan, y Cydlynydd Dysgu Cymraeg yn y Wladfa, dydyn nhw erioed wedi bod mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw wedi gallu llenwi'r tair swydd.
Dywedodd eu bod wedi cael "cryn ddiddordeb", ond bod prinder ceisiadau gan bobl oedd yn gymwys a nifer wedi "tynnu 'n么l" cyn y cyfweliadau.
"'Dan ni angen tiwtoriaid efo'r sgiliau dysgu maen nhw'n gallu rhannu efo'r bobl yma sydd yn gweithio gyda'r iaith.
"'Dan ni'n siomedig iawn wrth gwrs achos falle' bod pobl ddim yn sylweddoli pa mor bwysig ydy mewnbwn Cymru yn hyn.
"Mae 'na dair ysgol ddwyieithog - 'dan ni'n s么n am 150 o blant ymhob un - ac maen nhw angen person sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, person sydd yn gw'bod sydd i ddysgu iaith.
"'Dw i ddim yn meddwl bo' ni wedi cael blwyddyn lle 'dan ni ddim wedi gallu dewis tri.
"Yn sicr, dydy'r pandemig ddim 'di helpu o gwbl... 'dan ni ddim yn gallu deall, really, pam fod pob ddim yn ymgeisio."
'Cyflog teg a chyfle da'
Mae Clare yn amau fod sefyllfa'r economi yng Nghymru a'r Ariannin yn ffactorau posib, ond fe bwysleisiodd fod y cyflog o 拢750 y mis sy'n cael ei gynnig "yn deg" i'r Ariannin.
Dywedodd fod costau teithio a llety am ddim hefyd, a'i fod yn "gyfle da i unrhyw un sydd isio' antur ac isio' teithio".
I Beth Owen o Lannerch-y-medd, fuodd ar y cynllun y llynedd am gyfnod, gyda'i phrofiad o ddysgu Cymraeg i oedolion, roedd y cyfle'n "werthfawr dros ben".
"Pedwar mis gora', a bythgofiadwy. O'dd y profiad o ddysgu'n wahanol iawn i yma yng Nghymru," meddai.
"Mae'n gyfle gwych i drio allan a dysgu be' ti isio' 'neud, mae'n gyfle gwych i ddysgu amdanat ti dy hun, datblygiad personol, ond hefyd mae'r gymuned mor ddiolchgar o'n cael ni yno, mae'r bobl 'dw i 'di cwrdd 芒 - ma' nhw jyst mor werthfawrogol.
"Mae'r athrawon mor ddiolchgar bo' ni'n rhannu adnoddau. Mae'r adnoddau yna'n brin - does 'na ddim llawer o dechnoleg yna.
"Ma' jyst y sgyrsiau ti'n cael rhwng gwersi neu amser chwarae neu amser te mor werthfawr iddyn nhw gael ymarfer eu Cymraeg nhw a jyst dysgu o'i gilydd."
Mae Helen Mair Green yn 18 ac o'r Gaiman ym Mhatagonia, ac wedi elwa o gael gwersi gan athrawon o Gymru dros y blynyddoedd.
Yn ystod ei hymweliad 芒 Chymru yn ddiweddar, dywedodd: "Pan o'n i'n fach o'n i'n siarad Cymraeg yn y t欧 gyda Mam a Dad ac mae fy mrawd hefyd yn siarad Cymraeg.
"'Dw i'n meddwl bod o'n bwysig iawn achos mae'n bwysig clywed acen wahanol sydd ddim o Batagonia i ni gael gwybod bod ni'n deall. achos mae plantos bach yn arfer 芒'r Gymraeg ym Mhatagonia.
"Mae'n bwysig iddyn nhw i wrando ac mae'n bwysig iddyn nhw i ddefnyddio Cymraeg efo pobl dy'n nhw ddim yn 'nabod hefyd."
Ychwanegodd fod athrawon o Gymru'n gallu rhannu sgiliau newydd hefyd - fel cerddoriaeth a chwaraeon.
"'Dan ni'n hoffi bod hefo pobl o Gymru, mynd i gael bwyd allan, neu gael amser neis yn yfed 尘补迟茅!"
'Cyfle unigryw'
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor Prydeinig, sy'n gweithredu'r cynllun: "Tra na allwn rannu manylion ynghylch y ceisiadau ry'n ni wedi eu derbyn hyd yma, mae recriwtio ar gyfer y rhaglen wedi bod yn heriol ers y pandemig.
"Ry'n ni wedi derbyn nifer o geisiadau yn y rownd ddiweddaraf ond doedd pob un ohonyn nhw ddim yn cwrdd 芒'r gofynion ar gyfer y swydd, gan gynnwys cymhwyster dysgu.
"Ry'n ni'n dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglen a byddem yn croesawu diddordeb gan athrawon iaith Gymraeg ar gyfer y cyfle unigryw hwn."