'Dylai ASau golli cyflog' yn sgil canslo gwaith y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr wedi annog aelodau o'r Senedd Llafur a Phlaid Cymru i ildio diwrnod o gyflog wrth i drafodion gael eu canslo oherwydd streicio.
Cafodd busnes yn y siambr a phwyllgorau ddydd Mercher eu symud mewn ymateb i streic gan undeb gwasanaeth sifil y PCS.
Roedd yn dilyn pleidlais ym Mhwyllgor Busnes trawsbleidiol y Senedd.
Dywedodd arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y dylai'r pleidiau eraill fod ym Mae Caerdydd yn "gweithio i ddod 芒'r streiciau i ben" nid yn "cymryd diwrnod i ffwrdd".
'Ni fydd unrhyw fusnes yn cael ei golli'
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd: "Oherwydd streicio ar 1 Chwefror, pleidleisiodd y Pwyllgor Busnes o blaid aildrefnu busnes y Senedd.
"Bydd eitemau ar yr agenda yn cael eu hailddyrannu i gyfarfodydd eraill ac felly ni fydd unrhyw fusnes yn cael ei golli."
Dywedodd ffynhonnell Plaid Cymru fod y blaid yn "falch a diamwys yn ein cefnogaeth i'r holl weithwyr sy'n streicio heddiw a thrwy gydol y gaeaf hwn fel dewis olaf, oherwydd blynyddoedd o doriadau Tor茂aidd a chostau cynyddol mewn chwyddiant".
'Dadlau a chraffu'
Pwysleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw ym Mae Caerdydd heddiw.
Roedd Mr Davies yn rhagweld na fydd pobl yng Nghymru "yn cael eu plesio gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru yn rhoi'r gorau i weithio ar gyfer y diwrnod pan mae angen dirfawr i roi sylw i'r GIG, y system addysg a'r economi yng Nghymru".
"Dylai aelodau o'r Senedd fod yn dadlau a chraffu - yn lle hynny mae'r pleidiau hyn yn cymryd diwrnod i ffwrdd pan ddylen nhw fod yn gweithio i ddatrys y streiciau, y mae ganddyn nhw'r grym i wneud hynny ," meddai.
"Dylai Llafur a Phlaid ildio'u cyflog am y diwrnod - fel arall ble mae'r undod y maent yn ei hawlio pan fydd gweithwyr ar eu colled ar eu cyflog?"
'Chwalu'r economi'
Fe wfftiodd ffynhonnell Plaid Cymru y feirniadaeth.
"Mae'r Tor茂aid gyda'u toriadau a'u hanrhefn wedi chwalu'r economi, a Chymry sy'n gweithio'n galed sy'n talu'r pris.
"Bydd Plaid Cymru yn parhau i sefyll dros weithwyr ym mhobman drwy alw ar lywodraethau Cymru a San Steffan fel ei gilydd i dalu gweithwyr yn deg a dod 芒'r anghydfodau i ben."
Mae Llafur Cymru hefyd wedi cael cais i ymateb i sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023