大象传媒

Pryder am 'ofal diogel' yn adran frys Ysbyty Maelor

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor, Wrecsam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth yr arolygwyr weld cleifion yn aros yn hir, ac ardaloedd aros oedd yn orlawn

Dyw cleifion yn adran frys Ysbyty Maelor yn Wrecsam ddim bob amser wedi derbyn gofal diogel, yn 么l adroddiad.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi darganfod tystiolaeth o oedi hir ac ardaloedd aros sy'n orlawn.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Arolygiaeth bod angen i'r gwasanaeth fynd i'r afael 芒'r materion "ar fyrder".

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn derbyn argymhellion yr adroddiad, a'u bod eisoes wedi cyflwyno gwelliannau.

'Trafferth ymdopi 芒'r galw'

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ymweld ag Ysbyty Maelor ym mis Awst 2022, gan ddarganfod bod y pwysau ar yr adran frys yno wedi arwain at fwy o risg i gleifion.

Yn 么l arolygwyr roedd yna "nifer uchel o gleifion, a diffyg lle mewn ardaloedd aros oedd yn llawn iawn".

Dywedodd Prif Weithredwr yr Arolygiaeth, Alun Jones bod y straen ar y GIG yn "eithriadol o uchel".

Fe ychwanegodd bod arolygwyr wedi gweld, fel mewn rhannau eraill o Gymru, "dystiolaeth o wasanaeth oedd yn cael trafferth ymdopi 芒'r galw tra'n ceisio sicrhau diogelwch cleifion".

Fe wnaethon nhw gofnodi bod rhai cleifion wedi aros dros 16 awr i weld meddyg, ac nad oedd pob claf oedd 芒'u cyflwr yn dirywio wedi cael eu hadnabod a'u trin yn ddigon sydyn.

Roedd hyn yn cynnwys claf oedd yn dangos arwyddion o sepsis wnaeth aros am ddwy awr cyn gweld meddyg, er bod yr adroddiad yn nodi iddyn nhw gael triniaeth gyflym ar 么l iddyn nhw gael eu gweld.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddywedodd arolygwyr hefyd bod yr adran yn l芒n, a staff yn gyfeillgar a phroffesiynol

Fe nododd arolygwyr hefyd bod yna "ymdrech ar y cyd" i asesu cleifion mewn ambiwlansys i geisio sicrhau eu bod yn symud drwy'r ysbyty ynghynt.

Dywedodd yr adroddiad bod yna "ddibyniaeth uchel ar staff asiantaeth" oherwydd salwch ac ynysu yn sgil Covid-19, a bod recriwtio i lenwi swyddi yn "parhau i fod yn heriol" oherwydd prinder staff yn genedlaethol.

Mewn arolwg staff i gyd-fynd 芒'r archwiliad, dim ond hanner yr 20 wnaeth ymateb, a ddywedodd eu bod yn "fodlon" gyda safon y gofal yn yr adran frys.

Ond fe wnaeth arolygwyr ddarganfod bod yr adran yn l芒n, a bod y staff yn gyfeillgar a phroffesiynol.

Mae Arolygiaeth Iechyd Cymru yn dweud bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ers yr archwiliad yn Ysbyty Maelor wedi 'cynhyrchu cynllun cynhwysfawr ar sut i gyflwyno gwelliannau.'

Ehangu'r adran a mwy o staff

Dywedodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydyn ni'n falch bod yr arolygwyr wedi canmol staff am fod yn gyfeillgar, proffesiynol ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion, a'u bod tra roedden nhw o dan bwysau sylweddol wedi trin cleifion a'u perthnasau yn gwrtais, proffesiynol ac mewn modd urddasol.

"Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r pwysau ar yr adran frys, sydd wedi arwain at amseroedd aros llawer hirach nag y bydden ni'n ei ddymuno, er gwaetha ymdrechion y staff.

"Ers ymweliad yr arolygwyr, rydyn ni wedi ehangu'r adran i greu mwy o ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth i gleifion, ac rydyn ni yn ehangu gweithlu'r adran gyda tua 40 o staff llawn-amser ychwanegol, ac yn parhau i recriwtio i gefnogi'r adran.

"Er gwaetha'r pwysau, fe wnaeth arolygwyr ddarganfod bod y rhan fwyaf o gleifion yn cael hasesu'n ddigonol wrth iddyn nhw gyrraedd, a bod yna fesurau effeithiol ar y cyfan ar gyfer asesu, monitro a symud ynghynt mewn achosion pan oedd cyflwr claf yn dirywio.

"Rydyn ni wedi derbyn argymhellion Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac wedi cynhyrchu cynllun cynhwysfawr a manwl ar sut i gyflwyno gwelliannau."