大象传媒

Cofio llongddrylliadau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Olion llongddrylliad ar draeth Cefn SidanFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Olion llongddrylliad ar draeth Cefn Sidan

Yn ymestyn tros wyth can milltir, mae arfordir Cymru wedi gweld nifer sylweddol o longddrylliadau dros y canrifoedd.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes rhai o longddrylliadau trychinebus Cymru.

Colli cant o fywydau ger Maen y Bugail, Ynys M么n

Ar 26 Mawrth 1823 wrth hwylio o Howth yn Iwerddon i Gilgwri aeth pacedlong Alert ar y creigiau ger Maen y Bugail - ynys fechan ryw gilomedr i'r gogledd-orllewin oddi ar arfordir Ynys M么n. Suddodd mewn byr o dro ac fe gollwyd o leiaf cant o fywydau. Yn gwylio'r trychineb gerllaw oedd rheithor newydd Llanfair-yng-nghornwy, y Parchedig James Williams a'i wraig Frances.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eglwys Parch James Williams - Eglwys y Santes Fair, Llanfair-yng-nghornwy

Cafodd Frances a James eu brawychu gan y digwyddiad; penderfynodd y ddau bod angen gwneud rhywbeth i sicrhau na fyddai'r fath drychineb yn digwydd eto. Erbyn 1828 roedd y ddau wedi casglu digon o arian i sefydlu bad achub yng Nghemlyn. James Williams oedd llywiwr cyntaf y bad gyda Frances yn gwirfoddoli'n rheolaidd. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, sefydlwyd cangen o'r Royal National Institute for the Preservation of Life from Shipwreck ar yr ynys hefyd.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofeb Frances a James Williams

Trychineb y Royal Charter

Ar 25-26 Tachwedd 1859 trawyd arfordir ynysoedd Prydain gan un o stormydd garwaf y ganrif. Mewn deuddydd, lladdwyd 800 o bobl gyda 133 o longau yn cael eu dryllio. Yr enwocaf yn eu plith oedd y Royal Charter, llong hwylio st锚m a oedd yn dychwelyd o Melbourne i Lerpwl pan aeth i drybini ar arfordir dwyreiniol Ynys M么n ger pentref Moelfre.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun artist o Y Royal Charter

Fe gollwyd y rhestr teithwyr pan ddrylliwyd y llong felly nid ydym yn gwybod yr union nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn gymaint 芒 459. Roedd nifer o'r teithwyr yn dychwelyd i Brydain gyda symiau mawr o aur yn dilyn mentrau llwyddiannus yn y rhuthrau aur yn Awstralia. Golchwyd peth o'r aur ar y lan ym Moelfre ac mae'n debyg i sawl teulu lleol ddod yn gyfoethog dros nos!

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eglwys Llanallgo - lle claddwyd nifer o'r rheiny a gollodd eu bywydau pan ddrylliwyd Royal Charter

Arwriaeth Richard 'Dic' Evans

Ganrif yn ddiweddarach ar 27 Hydref 1959 roedd llong cargo fechan - Hindlea - yn brwydro yn erbyn gwyntoedd o gan milltir yr awr ym Mae Moelfre. Diolch i ymdrechion y Bad Achub lleol llwyddwyd i achub y criw i gyd. Am ei ddewrder y diwrnod hwnnw, enillodd y Cocsyn Richard 'Dic' Evans Fedal Aur y Sefydliad Bad Achub Brenhinol. Yn 1966, enillodd Evans Fedal Aur arall; camp ryfeddol o ystyried mai dim ond 150 ohonynt sydd wedi'u gwobrwyo ers 1824.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofeb Dic Evans, Moelfre

Ar lawr gwlad, roedd trigolion cymunedau'r glannau yn credu bod ganddynt hawl i gipio unrhyw nwyddau oedd yn cael eu golchi i'r lan. Yn anffodus, nid oedd yr awdurdodau o'r un farn. Pan suddodd Charming Nancy oddi ar arfordir M么n ym 1773, cafwyd John Parry a g诺r o'r enw Roberts yn euog '[of] plundering the wreck'; crogwyd Parry yn Amwythig yn fuan wedyn.

Llongddrylliad llong o'r Carib卯 yn Sir Benfro

Gwelwyd golygfeydd arswydus pan aeth trigolion lleol ati i ysbeilio The Increase - llong a ddrylliwyd ym Mae Sain Ffraid ar arfordir Sir Benfro ym 1791. Roedd y llong yn dychwelyd i Lerpwl o St Kitts yn y Carib卯 gyda chargo o bowdr du a mysgedi wedi'u condemnio.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bae San Ffraid, 1794

Ar gyrraedd glan, taflwyd nifer o gasgenni o bowdr du ar y creigiau gerllaw a dechreuodd torf o ysbeilwyr eu chwalu'n deilchion. Cipiodd un o'r ysbeilwyr fwsged a rhywsut fe drawyd y mwsged yn erbyn craig gan greu sbarc a achosodd i'r powdr du ffrwydro. Llosgwyd dros drigain o bobl, lladdwyd un ddynes yn y fan a'r lle a bu farw saith arall ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Gw欧r y Bwyelli Bach

Mewn rhai ardaloedd mae'n debyg y byddai criwiau yn ceisio suddo llongau ar bwrpas - a hynny er mwyn dwyn eu cargo a rheibio'u cyfoeth. Yn ardal Cefn Sidan a Phen-bre yn Sir Gaerfyrddin arferai gr诺p lleol o'r enw Gw欧r y Bwyelli Bach gynnau coelcerthi ar ben Mynydd Pen-bre er mwyn denu llongau at y creigiau. Unwaith y byddai llong mewn trafferthion byddai'r gw欧r yn rhuthro i lawr i'r traeth ac yn dwyn unrhywbeth oedd o werth.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Olion llongddrylliadau Cefn Sidan

'Gw欧r y Bwyelli Bach' oedd eu henwau gan eu bod - yn 么l bob s么n - yn arfer torri bysedd y trueniaid a oedd wedi boddi er mwyn dwyn eu gemwaith! Credir bod dros 300 o longddrylliadau wedi digwydd o amgylch ardal Cefn Sidan, ond does neb yn gwybod faint gafodd eu hachosi gan W欧r y Bwyelli Bach.

Cysylltiad Napoleon a llongddrylliad traeth Cefn Sidan

Ar 21 Tachwedd 1828 wrth hwylio o Martinique yn y Carib卯 i Le Havre yn Ffrainc aeth La Jeune Emma yn sownd ar draeth Cefn Sidan wedi'r capten gamlywio. Roedd y llong yn cludo ambell deithiwr adnabyddus; yn eu plith 'oedd Cyrnol Colquelin a'i ferch deuddeg oed, Adeline - nith i'r Ymerodres Jos茅phine, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Wrth i'r tonnau ruthro dros fwrdd La Jeune Emma ysgubwyd Adeline a'i thad i'r m么r. Daethpwyd o hyd i'w cyrff yn fuan wedyn ac fe gladdwyd y ddau gerllaw ym mynwent Sant Illtyd ym Mhen-bre.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Napoleon Bonaparte

Roedd llawer o gargo gwerthfawr ar fwrdd La Jeune Emma gan gynnwys llwyth o rym, siwgr, sbeisys, coffi, cotwm a sinsir. Yn 么l gohebydd y Carmarthen Journal roedd yn rhaid anfon Milisia Caerfyrddin i warchod y llong rhag y trigolion lleol '[who] robbed and ill-treated the helpless and perishing.'

Diolch byth bod ein moroedd mawr a'n traethau bellach yn llawer mwy diogel nag oedden nhw yn y dyddiau a fu!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig