大象传媒

Galw am gynyddu y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o 拢30 i 拢55

  • Cyhoeddwyd
Keira
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Keira ei bod yn aml yn talu o'i phoced ei hun i gael yr hanfodion sydd eu hangen arni ar gyfer y dosbarth

Dywed myfyrwraig coleg ei bod yn derbyn yr un faint o arian i gefnogi ei hastudiaethau ag y cafodd ei brawd bron i 20 mlynedd yn 么l.

Dywedodd Keira, 16, ei bod yn rhy aml yn gorfod defnyddio ei harian ei hun i gyrraedd yr ysgol a phrynu deunyddiau celf angenrheidiol.

Mae galwadau i godi'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg o 拢30 i 拢55 yr wythnos yn sgil pwysau costau byw uchel.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i ddysgwyr.

Prisiau heddiw 'mor ddrud'

Mae'r ar gael i fyfyrwyr 16 i 19 oed mewn addysg amser llawn sydd ag incwm blynyddol yn y cartref o lai na 拢25,000.

Dywedodd Keira - myfyriwr celf o Fethesda, Gwynedd- fod y lwfans wedi aros yr un fath ers i'w brawd 31 oed fod yn yr ysgol yn 2004.

"Roedd yn iawn achos doedd y prisiau ddim yr un peth bryd hynny, nawr bod prisiau mor ddrud, fe fyddwch chi'n defnyddio talpiau mawr o'ch arian dim ond i gyrraedd llefydd," meddai.

"Mae'n anodd iawn cadw at y gyllideb honno. Yn y pen draw, rydyn ni'n defnyddio ein harian ein hunain llawer o'r amser."

Fel 60,000 o fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth yng Nghymru, mae'n cael lwfans 拢30 yr wythnos i helpu i dalu costau addysgol.

Ond dywedodd nad yw'r arian yn talu am bopeth sydd ei angen arni i astudio, gyda chyflenwadau celf a theithio yn brif gostau iddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r myfyrwyr coleg Rosie a Carys yn meddwl y dylai mwy o bobl allu hawlio'r lwfans oherwydd ei fod yn rhoi annibyniaeth ariannol

"Bob tair wythnos mae angen i mi gael mwy o gyflenwadau, oherwydd yn amlwg ni all coleg roi popeth i ni ac mae cymaint o wahanol adnoddau ar gyfer celf.

"Mae pennau ysgrifennu acrylig yn cymryd fy ngwariant am yr wythnos gyfan, hynny yw tua 拢30 ar gyfer pennau acrylig gwirioneddol dda."

Ar ben hynny, mae'n rhaid i Keira wario 拢5 neu 拢6 am docyn oedolyn i fynd i unrhyw le ar fws y tu allan i oriau coleg.

Mae hi ar fwrdd elusen leol sy'n cefnogi pobl ifanc ddigartref a dywedodd: "Dwi'n meddwl eu bod nhw, yn fwy na neb, yn medru tystio faint mae'r arian yma yn helpu, ond dyw e ddim yn ddigon."

Mae Rosie, 17 a Carys, 16, yn astudio gofal plant mewn coleg yn ne Cymru ac mae'r ddwy yn defnyddio'r lwfans i dalu am eu biliau ff么n, cludiant a hanfodion.

"Pe na bai gen i'r lwfans dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i'n ei wneud, mae'n debyg y byddwn i'n dibynnu ar deulu ac yn teimlo'n ofnadwy am y peth gan eu bod yn talu biliau mawr," meddai Rosie.

"Yn 2004 roedd costau byw yn isel iawn, ddim mor uchel ag y maen nhw nawr, ac fe ddylem ni gael ychydig o godiad i helpu."

I Carys, mae'r lwfans yn bwysig oherwydd mae'n golygu y gall fynd i'r coleg a chynnal ei hun.

"Nid oes gan bawb arian. Rwy'n meddwl y byddai [y cynnydd] yn helpu pawb gan fod costau'n cynyddu a gallant fod yn fwy annibynnol."

Mae Luke Fletcher, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, a gafodd gefnogaeth gan y Lwfans Cynhaliaeth Addysg pan oedd yn yr ysgol, eisiau ei weld yn cynyddu 拢25, yn unol 芒 chwyddiant.

Codwyd y mater hefyd yn y Senedd ddydd Mawrth gan yr AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges a alwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i godi'r lwfans i helpu i frwydro yn erbyn tlodi.

'Gwarchod'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Yn wahanol i Loegr lle cafodd ei ddileu, mae Cymru wedi parhau i warchod y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

"Ochr yn ochr 芒'r taliad, rydym yn darparu cymorth ar gyfer costau cludiant a gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn helpu dysgwyr cymwys mewn coleg addysg bellach yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau ariannol."

Maen nhw hefyd yn annog dysgwyr i ofyn i'w colegau pa gymorth sydd ar gael.

Gallwch wylio 大象传媒 Wales Live ar 大象传媒 One Wales ddydd Mercher neu ar iPlayer.