Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arlunydd graffiti yn 'goleuo y corneli mwyaf tywyll'
Mae'r artist graffiti Steve Jenkins o Lanelli newydd gwblhau cyfres o furluniau ym mhentref Llangennech. Wedi eu comisiynu gan gyn-gynghorydd, Gwyneth Thomas, mae'r darluniau lliwgar yn cyfleu stori'r pentref yn y gorffennol a'r presennol ac yn cynnwys glofeydd Morlais, y capel lleol a'r cyflwynydd newyddion a mab y pentref Huw Edwards.
Dywedodd yr arlunydd: "Mae cael y cyfle i wneud gwaith cyhoeddus fel hyn yn wych achos mae'r gymuned gyfan yn gallu elwa o weld y darluniau, dwi'n credu fod nhw'n gallu goleuo y corneli mwyaf tywyll neu'r waliau mwyaf budr a chodi calon."
Roedd y cyfnod clo wedi arwain at newid byd i Steve, oedd wedi gweithio fel trydanwr am 25 mlynedd cyn cael cyfle yn ystod y pandemig i fynd allan i beintio murluniau yn dangos gwerthfawrogiad o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ers hynny mae peintio graffiti wedi bod yn yrfa newydd i Steve gyda'i waith i'w weld mewn nifer o lefydd yn ne Cymru.
Mae wedi bod yn gweithio ar brosiect Llangennech ers rhyw flwyddyn ac yn dweud ei fod wedi mwynhau cyfarfod y bobl leol tra'n peintio yn y tanffordd.
Meddai am lun Huw Edwards: "Mae'n fachgen lleol sy' dal i ddod n么l a mlaen i weld ei fam ac i fynd i ddigwyddiadau lleol. Mae'r pentref yn falch iawn ohono felly 'oedd rhaid i fi gael y teybygolrwydd yn iawn neu fyddai lot o gwynion!
"Mae lot o bobl wedi dweud fod y gwaith yn dal ysbryd y gymuned, sy'n wych achos dyma oedd y nod o'r dechrau."
"Digwyddodd y murlun o'r gl玫wr am mod i'n ymchwilio i hanes glofeydd Morlais a welais i lun o l玫wr ar ddiwedd ei shift, ei ddillad a'i wyneb yn frwnt ac yn edrych i fyny fel petai'n edrych am olau dydd. Gobeithio fod y murlun gyda'r glofeydd wrth ei ochr yn edrych fel gl玫wr ar ddiwedd shifft yn edrych ymlaen at weld golau dydd ar ei ffordd adre.
"Mae llawer o bobl leol wedi stopio i siarad ac wedi s么n fod e'n atgoffa nhw o berthnasau oedd yn gweithio yn y glofeydd ac wedi marw'n ifanc felly mae'n lun emosiynol iawn i nifer o bobl y pentref."
Gwaith arall
Mae gwaith JenksArt hefyd i'w weld mewn llefydd eraill yng Nghymru:
Meddai Steve: "Mae'r murlun yn dangos gl玫wr nesa' i lun o'r chwyldro ym Merthyr tu allan i dafarn y Castle. Mae'r portread o Dic yn ei ddangos yn edrych i'r nef gyda'i eiriau olaf: "O Arglwydd dyma gamwedd."
Meddai Steve: "Y briff oedd murlun am y glofeydd felly mae'r llun yn dangos gl玫wr ar ddiwedd ei shift gyda llwch drosto, yn edrych yn 么l at y glofeydd tra'n dal lamp wrth i eraill aros i gychwyn gwaith."