大象传媒

Mwy o lawdriniaethau un dydd er mwyn lleihau rhestrau aros?

  • Cyhoeddwyd
LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae meddygon yn dweud y gallai ffyrdd newydd o weithio haneru rhestrau aros am ben-gliniau a chluniau newydd mewn un ysbyty o fewn blwyddyn.

Mae newidiadau i lawdriniaethau ar y cymalau hynny ym Mhen-y-bont wedi golygu fod mwy o gleifion yn gallu cael eu gyrru adref y diwrnod hwnnw.

Oherwydd hynny, dyw diffyg gwelyau o fewn yr ysbyty ddim yn gymaint o rwystr.

Fel arfer, mae cael pen-glin neu glun newydd yn golygu aros yn yr ysbyty am rai dyddiau.

Ond gyda llai a llai o welyau rhydd ar gyfer cleifion, mae t卯m yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi newid eu ffordd o weithio.

Mae newidiadau bychan yn y theatrau yn golygu fod modd i gleifion gael eu gyrru adref ar yr un diwrnod yn fwy aml, gan osgoi'r angen am wely yn llwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pam aros yn yr ysbyty os nag ydw i'n wael?" meddai Cheron White

Cafodd Cheron White, 68 o Borthcawl, ei chyfeirio am ben-glin newydd yn wreiddiol bedair blynedd yn 么l.

Roedd hi'n arfer rhedeg tafarn a mynd allan i ddawnsio, ond bellach dyw hi ddim hyd yn oed yn gallu cerdded ei chi.

Dywedodd fod y boen weithiau'n achosi iddi lefain, "gan wybod fod yfory'n mynd i fod yr un mor wael".

Ond yn ddiweddar roedd hi'n un o'r rheiny i gael budd o'r system newydd - cafodd ben-glin newydd a'i gyrru adref yr un diwrnod.

"Mae'n rhyddhau gwely i'r rheiny sydd wir ei angen," meddai Ms White.

"Llawdriniaeth yw e. Dydw i ddim yn wael. Pam aros yn yr ysbyty os nag ydw i'n wael?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Gyda thriniaethau un dydd, dydyn ni ddim yn cael ein rhwystro gan faint o welyau sydd ar gael," medd Keshav Singhal

Mae'r llawfeddyg ymgynghorol Keshav Singhal yn amcangyfrif y gallai'r drefn newydd haneru'r rhestr aros o fewn blwyddyn.

Gyda dros 37,000 o gleifion orthopedig yng Nghymru wedi disgwyl am dros flwyddyn am lawdriniaeth, dywedodd y gallai wneud gwahaniaeth enfawr pe bai'r drefn yma'n cael ei mabwysiadu ar draws y wlad.

"Gyda thriniaethau un dydd, dydyn ni ddim yn cael ein rhwystro gan faint o welyau sydd ar gael - does dim gwelyau yma," meddai.

Eglurodd fod yn rhaid i gleifion fodloni rhai gofynion cyn eu bod yn gymwys am driniaeth un dydd, sef eu bod yn rhesymol iach, bod ganddynt gefnogaeth gan deulu neu ffrindiau, a'u bod 芒'r awydd i wneud yr ymarfer corff sydd ei angen er mwyn adfer.

'Tolc mawr yn y rhestrau aros'

Dywedodd Mr Singhal fod sawl "m芒n newid" wedi'i wneud er mwyn lleihau salwch 么l-driniaeth a rheoli lefelau poen, ond bod "rheiny gyda'i gilydd wedi cael effaith enfawr".

Ond mae hi wastad yn bosib cadw'r claf yn yr ysbyty os oes unrhyw bryderon.

"Pe byddai pawb yn mabwysiadu'r drefn yma, does bosib y bydden ni'n gwneud tolc mawr yn y rhestrau aros yng Nghymru a'r DU," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cheron White bellach yn cryfhau gartref ar 么l ei llawdriniaeth un dydd

Yn dilyn ei llawdriniaeth hi dywedodd Cheron White mai'r ffordd orau o ddiolch i'r ysbyty a'r llawfeddygon ydy parhau i symud er mwyn cyflymu ei hadferiad.

"Rydw i eisiau symud cymaint 芒 phosib, er mwyn diolch i'r ysbyty mewn ffordd. Maen nhw wedi rhoi'r cyfle yma i mi symud yn fwy," meddai.

"Roedd hi'n ofnadwy, eistedd yno yn mynd yn hen a gallu gwneud dim - roedd hynny'n gwneud i mi deimlo'n hen, ond yn fy mhen dydw i ddim."