Diwedd cyfnod i'r barbwr o Lambed
- Cyhoeddwyd
Mae Alan Williams yn wyneb cyfarwydd yn nhref Llambed, yn enwedig i'r dynion sydd wedi bod yn mynd i'w siop farbwr dros y pum degawd diwethaf.
Ond roedd rhywbeth anghyffredin am siop drin gwallt Alan Williams... roedd o yn ystafell ffrynt ei d欧.
Mae Alan wedi dewis rhoi'r gorau i drin gwallt o'r siop, ac fe siaradodd ar Bore Cothi ar 大象传媒 Radio Cymru am y penderfyniad ar 8 Chwefror.
Hanner canrif fel barbwr.... "52 mlynedd a hanner", meddai Alan wrth Shan Cothi i fod yn fanwl gywir.
Ond dydy Alan heb ymddeol yn llwyr; "Mae'r siop wedi stopio'n gyfan gwbl ond dwi'n gwneud tipyn bach o hyd, ond dwi dal i gadw at yr hen, hen ffrindie, yr hen gwsmeriaid - y rhai sydd wedi mynd i oedran debyg i fi, a dwi'n torri gwallt rhai o rheiny adref."
Stafell ffrynt y t欧
Dechreuodd y fenter yn y t欧 n么l yn y 1970au, fel esboniai Alan; "Stafell ffrynt y t欧 oedd hi, a brynon ni'r t欧 yn 1976. Nathon ni drosglwyddo'r stafell ffrynt mewn i siop farbwr. Ond o'n i yn torri gwallt yn Llambed mewn siop wedi'w rhentu am saith mlynedd cyn hynny.
"Dechreues i yn Llambed mis Mehefin 1970, ar 么l bod ym Mae Colwyn yn hyfforddi am ddwy flynedd, a gweithies i am flwyddyn arall yno yn y coleg trin gwallt yn Llandrillo."
Alan oedd yr unig fachgen ar y cwrs, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae wedi dysgu sut i wrando ar y cwsmeriaid a phwysigrwydd cadw'r sgyrsiau yn breifat.
"Mae pawb yn gorfod dysgu eu crefft, ond y grefft fwya yw peidio cwmpo mas a gwrando ar beth mae'r person moyn. Nhw yw'r bos - nhw sy'n dweud beth mae nhw moyn ac fi sy'n gorfod gwrando, ac rhaid cadw cyfrinachau sy'n cael ei rannu yn yr adeilad.
Sleidio lawr i'r gwaith
"Nath un ddynes ddod fewn gyda survey ar geir, a dyma hi'n holi fi pa gar odd gen i ac os o'n i'n teithio i gwaith. Nes i ddweud wrth 'yes I slide down the banister!'... wel ath hi'n grac. Dwedes hi 'put it this way, I live on the premises -I sleep upstairs and slide down the banister to work'.
Yn ystod ei yrfa mae Alan yn dweud bod pob gair yn holl bwysig pan yn disgrifio'r hyn rydych eisiau gan farbwr.
"Dwi'n cofio stiwdant efo gwallt hir at ei 'sgwydde o goleg Llambed yn dod ata i rhyw fore oer - 'take it down to half an inch', medda fe. O'n i'n meddwl bod e bach yn oer am hynny ond na fe roedd e'n si诺r.
"Nes i ddechrau lawr y canol yn torri yn fyr iawn lawr y canol, ac ma fe'n pipo... 'I meant BY half an inch!'
"Dwedes i wrtho fe bod e'n rhy hwyr, ac fod e nawr ar 么l pedair mlynedd yng Ngholeg Llambed yn gwybod y gwahaniaeth rhwng 'by' and 'to'. Chware teg fe gadwodd e'r gwallt yn hir tan diwedd yr haf, yn torri bob mis; 'it suits me' medde fe."
Y peth mwya od?
"Dwy ferch odd yn stiwdants yn coleg Llambed rhyw wech mlynedd yn 么l. Gofynnodd un 'can you cut my friend's hair?' nes i ddwed wrth nhw bod sawl salon i ferched yn y dref. Doedd y siopa erill ddim am wneud, felly dwedes i byswn i'n gwneud ar fy awr ginio.
"Roedd hi moyn fi shafo hanner ei phen hi a gadael yr hanner arall fel odd e, felly fe wnes i e ac odden nhw mor hapus, yn bownsio yn gadael y lle.
"Mae gymaint o straeon da fi, ond dwi'n credu fod e'n bwysig cadw nhw rhwng fi a'r cwsmer a phedair wal y siop."
Hefyd o ddiddordeb: