大象传媒

Dawnsio 'cheer' yn rhyddhad i ferch ifanc

  • Cyhoeddwyd
Libby Andrews

"Mae cheerleading yn meddwl y byd i fi - dwi'n methu dychmygu fy mywyd hebddo, mae'n rhan mor fawr o 'mywyd i ac wedi'i wreiddio'n ddwfn ynda'i nawr."

Fel aelod o sgwad dawnsio cheer (cheerleading) lleol sy' hefyd wedi cynrychioli Cymru ym mhencampwriaethau dawnsio cheer y byd, mae Libby Andrews yn angerddol am fuddion y disgyblaeth.

Mae'r ferch 17 oed o Bontypridd wedi profi cryn lwyddiant yn y maes fel rhan o D卯m Cymru ar gyfer Dawnsio Cheer a Addaswyd i Bob Gallu. Enillodd y sgwad y wobr aur yng nghategori Gallu Addasol (Adaptive Abilities) ym mhencampwriaethau dawnsio cheer y byd yn 2022.

Ac mae Libby'n taeru fod y ddisgyblaeth wedi bod o fudd mawr iddi pan gollodd ei mam a'i mamgu i Covid yn y cyfnod clo.

Meddai Libby: "Roedd cheerleading yn bendant wedi helpu fi drwyddo - dw i ddim yn meddwl byddwn i wedi gallu ymdopi 芒'r galar a fy iechyd meddwl hebddo.

"Roedd mynd yn 么l i cheerleading yn gyflym ar 么l i bopeth ddigwydd - dwi'n meddwl os na fyddwn i wedi gwneud hynny byddwn i mewn lle gwahanol iawn i lle ydw i nawr.

Prosesu'r galar

"Helpodd fi i brosesu pethau, helpodd fi i ddelio 芒'r holl alar ro'n i'n teimlo achos oedd e fel rhyddhad. Os o'n i'n cael diwrnod gwael, o'n i'n gwybod allwn i fynd i'r gampfa a theimlo lot yn well wedyn.

"Roedd aelodau'r t卯m yn bendant yn help mawr, bydden nhw'n gofalu amdana'i ac yn helpu fi drwyddo ac roedd hwnnw'n system ychwanegol o gefnogaeth. Roedd yn help mawr.

"Tra 'oedd Mam yn yr ysbyty symudais i mewn gyda fy anti a'n wncl a 'dw i nawr yma'n barhaol ac maen nhw'n gefnogaeth anhygoel hefyd."

Ffynhonnell y llun, Libby Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Libby gyda'i anti a'i wncwl, Claire a Richard

Cynrychioli ei gwlad

Ac mae'r holl ymroddiad wedi talu'r ffordd gyda'r sgwad yn mynd o nerth i nerth. Roedd perfformio dros Gymru yn uchafbwynt i Libby, yn enwedig gan fod y pencampwriaethau byd yn Florida yn 2022.

Mae rhaglen newydd ar 大象传媒 Three, Blood, Sweat and Tears, yn dangos taith y t卯m, dan arweiniad Sabrina Mountjoy, i bencampwriaethau'r byd lle maen nhw'n curo America i gipio'r wobr aur. Mae T卯m Cymru yn ymarfer yn Tredegar ond mae'r aelodau'n dod o sgwadiau dawnsio cheer ar draws y wlad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o aelodau'r sgwad gyda Libby yn penglinio a'r hyfforddwraig Sabrina Mountjoy yn y canol

Meddai Libby: "Roedd yn anhygoel - do'n i ddim wedi disgwyl y bydden ni'n ennill.

"Pan ddechreuon ni agos谩u at y fedal aur o'n i'n methu credu'r peth a phan wnaethon ni ennill, roedd e'n deimlad dwi'n methu esbonio, roedd allan o'r byd hwn.

America

"Mae'r gystadleuaeth yn Disney, oedd yn anhygoel achos yr holl lefydd lle chi'n cystadlu. Mae 'na arena enfawr ac mae 'na bobl o bob rhan o'r byd yno a thimau gorau'r byd. Roedd yn anhygoel."

Mae buddiannau'r ddisgyblaeth hefyd wedi helpu mewn ffyrdd eraill, meddai Libby: "Ro'n i wrth fy modd gyda cheerleading yn syth - dechreuais pan o'n i'n 8 neu 9 a dwi'n cofio mynd i mewn i'r dosbarth bach yma, yn teimlo'n nerfus iawn.

"Cyn gynted a ddechreuais i fe gymerodd drosta'i a dwi heb edrych yn 么l.

"Dwi'n meddwl dylai pawb ac unrhyw un roi cynnig ar cheerleading - gallwch fod bron yn unrhyw oedran, does dim ots a ydych chi wedi gwneud e o'r blaen. Mae gan wahanol dimau lefelau gwahanol.

"Mae'n ffordd o gadw'n heini ac yn iach - a datblygu sgiliau newydd ond hefyd cwrdd 芒 ffrindiau. Dwi'n meddwl ei fod yn beth anhygoel i'w wneud."

Amrywiaeth

Mae pawb yn T卯m Cymru ar gyfer Dawnsio Cheer a Addaswyd i Bob Gallu yn cael cyfle cyfartal i chwarae eu rhan yn y sgwad. Mae gan rai aelodau anableddau gweledig a rhai anableddau anweledig - mae'r t卯m yn addasu er mwyn defnyddio cryfderau pawb.

Mae perthynas clos y sgwad yn amlwg yn y rhaglen, fel mae Libby yn s么n: "Dwi'n meddwl oherwydd bod cymaint o wahanol bobl ac mae gan bawb gefndiroedd gwahanol, fe wnaethon ni ddysgu oddi wrth ein gilydd.

"Oherwydd bod ni mor agos at ein gilydd roeddem yn gwybod sut i helpu ein gilydd rywsut ac 'oedden ni'n gallu dysgu oddi wrth ein gilydd.

"Mae sawl aelod o'r sgwad wedi helpu fi - rydyn ni i gyd yn agos, fel teulu bach.

"Maen nhw wir yn fy ffrindiau gorau."

Ffynhonnell y llun, Libby Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Libby a'i chefnither Meghan

Cryfder

Mae cadw'n heini a datblygu cryfder yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer symudiadau fel y pyramid wnaeth helpu'r sgwad i ennill yn Florida.

Meddai Libby: "Mae angen bod yn gryf ar gyfer y pyramid - ni yn d卯m felly pan weithion ni gyda'n gilydd aeth e'n berffaith (yn y pencampwriaethau byd)."

Cydbwysedd

Un o'r heriau wnaeth Libby wynebu cyn mynd i America oedd ymdopi gyda gwaith ysgol gan ei bod yn eistedd arholiadau TGAU tra'n paratoi ar gyfer y pencampwriaethau.

Meddai: "Pan oedden ni'n mynd allan i Bencampwriaethau'r Byd roeddwn i'n gwneud TGAU ac roedden ni'n hyfforddi llawer ac yn teithio felly o'n i'n ceisio ffeindio amser ar gyfer ymarfer a fy arholiadau.

"Roedd yn anodd iawn ond llwyddais i wneud hynny rywsut... dwi'n cofio gwneud rhywfaint o fy adolygu ger y pwll yn America!"

Mae Libby erbyn hyn yn y coleg yn astudio i wneud ffilm a theledu - ond wrth gwrs mae hefyd yn ffeindio amser bob wythnos i ymarfer dawnsio cheer gyda'i sgwad lleol.

Ffynhonnell y llun, Libby Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Libby gyda'i wncwl a'i anti a'i chefnither Meghan

Gwyliwch Blood, Sweat and Cheer ar 大象传媒 iplayer

Pynciau cysylltiedig