LHDTC+ a'r Gymraeg: Ydy hi'n anodd perthyn i'r ddwy gymuned?
- Cyhoeddwyd
Beth yw profiad pobl o'r gymuned LHDTC+ sydd yn siarad Cymraeg?
Yn 么l ymchwil sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Birmingham City, mae diffyg cynrychiolaeth mewn diwylliant Cymraeg yn parhau i fod yn rhwystr i bobl deimlo eu bod yn 'perthyn'. Ynghyd 芒 hynny, mae rhai yn teimlo ei bod hi'n anodd cyfleu eu hunaniaeth LHDTC+ drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yma, mae Dr Jon Morris a Dr Sam Parker yn egluro cefndir y prosiect, a rhai o'u canfyddiadau am sut mae'r ddwy hunaniaeth yn cydblethu.
Cafodd ei gyhoeddi ar 7 Chwefror 2023. Mae'r cynllun yn anelu at 'sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+' ac yn cynnwys nifer o dargedau i geisio gwneud yn si诺r bod siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg yn teimlo eu bod nhw'n perthyn yn ein cymunedau a rhwydweithiau Cymraeg.
Yn fras, mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hyn drwy ddarparu rhagor o wasanaethau i bobl LHDTC+ yn Gymraeg, deall anghenion pobl LHDTC+ mewn cymunedau dros Gymru, a helpu sicrhau bod cynrychiolaeth i bobl LHDTC+ mewn gweithgareddau diwylliannol.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn gwneud ymchwil i brofiadau siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg ac wedi canolbwyntio'n benodol ar hunaniaethau.
Er bod ymchwil i hunaniaethau LHDTC+ yn gyffredinol, does dim llawer o waith ar brofiadau siaradwyr y Gymraeg ac i ba raddau mae'r ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned LHDTC+ a chymuned o siaradwyr Cymraeg yn cydblethu.
Mae'r cydblethiad hwn yn gallu bod yn bwysig i bobl sy'n rhan o grwpiau lleiafrifol ac yn gallu effeithio ar eu teimladau tuag at berthyn yn eu cymunedau ehangach a'r cyfraniadau y maen nhw'n eu gwneud i'r cymunedau hynny.
'Gwerthoedd traddodiadol' yn rhwystr?
Thema amlwg oedd y teimlad bod gwerthoedd traddodiadol Cymraeg yn gallu bod yn rhwystr i deimladau o berthyn ymhlith pobl LHDTC+.
Soniodd Morgan (ffugenw), er enghraifft, am ddiffyg cynrychiolaeth yn y Gymru Gymraeg yn yr wythdegau a'r canfyddiad bod materion LHDTC+ yn rhywbeth estron i ddiwylliant y Gymraeg.
"Doedd dim profiadau hoyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Ychydig iawn o s么n am bobl hoyw oedd ar S4C yn yr wythdege. Rhywbeth tu hwnt i Gymru oedd e. Rhywbeth o'dd yn Saesneg, ddim yn perthyn i ddiwylliant Cymru."
Dywedodd pobl eraill fod y teimladau o beidio 芒 pherthyn i ddiwylliant y Gymraeg yn parhau i raddau gwahanol.
"Yn anaml dw i'n ymwneud 芒 diwylliant traddodiadol Cymreig," meddai Mali, er ei bod yn teimlo bod "Cymreictod yn eiddo i fi hyd yn oed fy mod i ddim yn gwneud y pethau yna".
Iaith LHDTC+
Thema arall oedd bod trafod materion LHDTC+ yn y Gymraeg yn gallu bod yn anoddach nag yn y Saesneg.
Er bod termau cynhwysol yn bodoli yn yr iaith ers blynyddoedd, roedd hi'n glir bod termau Saesneg yn fwy amlwg a bod hynny'n gallu rhwystro siaradwyr rhag cyfleu agweddau ar eu hunaniaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Eirian fod trafod materion LHDTC+ yn fwy normal yn Saesneg:
"Bysen ni'n dechrau yn Gymraeg ond newid i'r Saesneg achos mae'n fwy hawdd i drafod y pethau fel hwnna yn Saesneg [...] achos ni 'di dysgu am y pethau 'ma drwy gyfrwng y Saesneg."
Dangosa'r thema hon fod diwylliant LHDTC+ yn parhau i fod yn gysylltiedig 芒'r Saesneg. Dydy hynny ddim yn rhywbeth sy'n effeithio ar siaradwyr Cymraeg yn unig ac mae gwaith ar ieithoedd eraill (gan gynnwys ieithoedd fel yr Almaeneg) yn dangos thema debyg.
O ganlyniad, gall pobl deimlo bod y termau Saesneg yn ffitio'n well:
"Ond byswn i'n gwylio stwff fel teledu, caneuon, ti'n gwybod, y cultural influences, mae'r gair gay yn... teimlo'n lot mwy socialised o fewn e [...]. So mae dweud y gair hoyw yn teimlo mor swreal 'falle, oedd e'n teimlo sort of yn alien." (Ianto)
Cynrychiolaeth yn bwysig
Yn y prosiect hwn, roedd hi'n glir iawn bod y syniad o gynrychiolaeth yn bwysig i'r teimlad o berthyn.
Roedd ambell un yn gofyn y cwestiwn 'ble mae'r gynrychiolaeth?' yn niwylliant y Gymraeg ac roedden nhw am weld mwy o'u profiadau nhw mewn llyfrau, ar y llwyfan ac yn y cyfryngau:
"Chi'n gwybod, lle [mae] cynrychioliad o pobl, neu experience fi, neu experience rhywun arall yn y cymuned?" (Rhian)
Soniodd pobl eraill am faint mae diwylliant a chymunedau Cymraeg wedi newid ac awgrymon nhw fod pobl LHDTC+ yn fwy gweladwy. Roedd hyn yn ffactor pwysig a hwylusodd gydblethu rhwng hunaniaethau ieithyddol a hunaniaethau LHDTC+ siaradwyr Cymraeg.
"Ry'n ni'n llawer mwy gweladwy oherwydd S4C, a'r cyfryngau eraill wrth gwrs. Mae'r newidiad hynny... efallai fod cymdeithas wedi dod yn llawer mwy goddefgar ond dw i'n meddwl ein bod ni'n llawer mwy gweladwy." (Morgan)
'Angen rhagor o ymchwil'
Mae'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn pwysleisio bod angen rhagor o ymchwil i brofiadau pobl LHDTC+ mewn ardaloedd dros Gymru. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn fan cychwyn yn ogystal 芒 ffordd o ddeall profiadau pobl LHDTC+ sy'n siarad y Gymraeg.
Yn sicr, rydyn ni wedi gweld bod gwrthdaro rhwng y ddwy hunaniaeth oherwydd canfyddiadau traddodiadol o'n diwylliant a'n cymunedau.
Yn ogystal 芒 hyn, bydd y cysylltiad amlwg rhwng y Saesneg a diwylliant LHDTC+ yn parhau i fod yn her ond, er hyn, y teimlad o gynrychiolaeth sy'n cyfoethogi bywydau pobl LHDTC+.
Fel y dywedodd Dylan:
"Mae cael y dau peth yna yn intertwine-o efo'i gilydd yn really kind of diffinio fi fel person [鈥. Hwn ydw i, I am a Welsh homosexual."
Hefyd o ddiddordeb: