Solfach: Bwrdd iechyd i redeg meddygfa wrth i'r unig feddyg ymddeol
- Cyhoeddwyd
Bydd meddygfa yn Sir Benfro yn cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd lleol am flwyddyn wedi i'r gymuned wynebu bod heb feddyg teulu o fis Mawrth.
Roedd pryderon y byddai cleifion yn gorfod teithio o Solfach i Abergwaun neu Hwlffordd ar gyfer triniaeth.
Mae'r unig feddyg teulu sydd yn Solfach ar hyn o bryd yn ymddeol ddiwedd Mawrth.
Disgrifiodd un aelod o'r gymuned y posibilrwydd o fod heb feddygfa leol fel "clatsien fawr" i'r ardal.
Mae 'na 2,400 o gleifion yn perthyn i'r feddygfa, a chleifion oedrannus y pentref glan m么r wedi pryderu am orfod teithio ar hyd ffyrdd gwledig am eu gofal.
Fe wnaeth y Panel Practis Gwag ystyried opsiwn arall o anfon cleifion i feddygfeydd eraill yn Abergwaun, Hwlffordd a Thyddewi.
Ond Bwrdd Iechyd Hywel Dda fydd yn gyfrifol am redeg y feddygfa o ddydd i ddydd a'r ddarpariaeth feddygol o 1 Ebrill am 12 mis.
Hon fydd y chweched feddygfa i gael ei rheoli'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Bydd gr诺p yn cael ei sefydlu a fydd yn cynnwys grwpiau cymunedol lleol a phartneriaid eraill i ddod o hyd i ddatrysiad hir dymor ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cynaliadwy yn yr ardal.
'Ddim dros y gwaethaf'
Mae pobl leol wedi galw am sefydlu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol yn y feddygfa i helpu gydag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio yn y pentref.
"Ry'n ni wedi aros yn eiddgar am y pwynt yma yn y broses," dywedodd Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Ifor Thomas.
"Wrth gwrs, dy'n ni ddim dros y gwaethaf eto ond ry'n ni'n croesawu penderfyniad y bwrdd iechyd i gydweithio gyda ni i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i gadw'r gwasanaeth gwerthfawr yn ein cymunedau."
Dywedodd Sue Denman, sy'n gadeirydd ar y gweithgor lleol: "Rwy'n teimlo'n galonogol wedi cyfarfod heddiw gyda'r Bwrdd Iechyd a'r penderfyniad i weithio'n agos gyda ni i gael ateb o ran cadw ein gwasanaeth.
"Fe wnaeth y Bwrdd hefyd gydnabod bod angen ailwampio'r strategaeth gofal sylfaenol rhanbarthol gan fod rhai cymunedau gwledig eraill yn debygol o wynebu sefyllfa debyg i Solfach.
"Rwy'n bositif y gwnawn ni lwyddo i gadw ein meddygfaa datblygu, mewn partneriaeth, wasanaeth integredig a all fod yn batrwm i bob cymuned wledig sy'n wynebu heriau tebyg i ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023