大象传媒

Cyffro darlithydd wrth baratoi i dorri tir newydd

  • Cyhoeddwyd
Paul TaylorFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd mynychu ei seremon茂au graddio yn ei r么l newydd yn brofiad "ardderchog", medd Paul Taylor

Fel miloedd o ddarlithwyr ar draws y DU mae Paul Taylor yn treulio'i benwythnos yn paratoi i ddysgu.

Ond mae Paul yn unigryw ym myd academaidd Prydain - y darlithydd er anrhydedd cyntaf gydag anabledd deallusol.

Cafodd ei benodi i'r r么l ym mis Rhagfyr gan Brifysgol Bangor, a ddydd Llun fe fydd yn cynnal ei ddarlith gyntaf dan ei deitl newydd.

"Rwy'n gyffrous iawn i gael cynnal fy narlith gyntaf fel darlithydd er anrhydedd," meddai.

"Dwi'n wirioneddol yn gwerthfawrogi cael y cyfle yn y lle cyntaf i siarad 芒 myfyrwyr am fy mhrofiadau. Mae cael y teitl ar ben hynny yn arbennig."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul Taylor (chwith) hefyd yn athletwr - roedd yn rhan o garfan p锚l-droed Cymru yn y Gemau Olympaidd Arbennig yng Nghaerfaddon yn 2013

Yn wahanol i ddarlithwyr eraill, mae Paul yn dysgu'n benodol trwy drafod ei brofiadau fel rhywun sy'n byw ag anabledd deallusol ac awtistiaeth.

"Dwi'n siarad am fy mhrofiadau yn yr ysbyty fel claf, fy mhrofiadau ym myd chwaraeon, a fy mhrofiad yn delio gydag iechyd meddwl," dywedodd.

"Fel rhywun ag anabledd ddeallusol ac awtistiaeth mae'r ffordd dwi'n teimlo ac yn ymateb i bethau bob dydd yn wahanol ac felly dwi'n ceisio rhoi syniad o hynny i'r myfyrwyr.

Ychwanegodd: "Un diwrnod hoffwn drafod fy mhrofiad o Covid."

'Helpu eraill yn teimlo'n dda'

Mae Paul yn gobeithio parhau i weithio gyda myfyrwyr.

"Rwy'n mwynhau darlithio'n fawr oherwydd rwy'n hoffi cyfarfod 芒 phobl newydd ac rwy'n teimlo ei fod yn rhoi cyfle i mi helpu nyrsys i ddeall yn well pan fyddant yn gweithio gyda chleifion yn yr ysbyty neu yn y gymuned.

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n dda o wybod y gallant ddeall yn well sut mai helpu eraill fel fi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul yn gwirfoddoli mewn siop elusen unwaith yr wythnos

Cysylltodd Paul gyda Phrifysgol Bangor bedair blynedd yn 么l yn gofyn am y cyfle i rannu ei brofiadau o fyw ag anabledd dysgu gyda myfyrwyr nyrsio.

Dr Ruth Wyn Williams, darlithydd Nyrsio Anabledd Dysgu yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y brifysgol a'i atebodd, gan gymeradwyo'r syniad. Mae hi'n parhau i weithio'n agos gyda Paul.聽

"Mae Paul yn rhan fawr o'n t卯m academaidd yma," dywedodd. "Yn ogystal 芒 rhoi darlithoedd i fyfyrwyr, bydd yn mynychu cynadleddau ac yn helpu i gyflwyno papurau academaidd.

"Mae hefyd wedi bod ar baneli cyfweld ar gyfer myfyrwyr newydd, ac wedi helpu gyda diwrnodau agored.

"Mae gwrando ar Paul yn brofiad dysgu hynod bwysig i'r myfyrwyr oherwydd mae angen i bob un ohonom ym maes nyrsio anabledd dysgu ddysgu gwrando ar y bobl rydym yn gweithio gyda nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwrando ar ddarlithoedd Paul Taylor wedi gwella dealltwriaeth Sara Kineni o fywyd gyda gwahanol gyflyrau

Un sydd wedi elwa o wrando ar ddarlithoedd Paul ydy Sara Kineni - nyrs sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu yn y gymuned.

"Roedd gwrando a dysgu oddi wrth Paul yn brofiad hynod o dda," meddai. "Roedd o'n dda gael clywed profiad pobl gydag iechyd meddwl o safbwynt yr unigolyn yn lle cael rhywun arall yn dysgu ni.

"Gwnaeth Paul s么n am ei brofiad o'i iechyd meddwl a sut oedd pethau fel y cyfnodau clo a Covid wedi effeithio arno.

"Mae clywed y pethau yma gan berson gydag anabledd dysgu yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i fi a mwy o barch am sut mae eraill gyda chyflwr tebyg yn meddwl ac yn teimlo.

"Mae'n help anferth i mi wrth weithio gyda chleifion o ddydd i ddydd."

Pynciau cysylltiedig