大象传媒

Cyhuddo tri ph锚l-droediwr wedi 'anhrefn' yn ystod g锚m Rhyl a Bangor

  • Cyhoeddwyd
Belle VueFfynhonnell y llun, Kevin Barnes - CameraSport
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes Belle Vue, cartref clwb Y Rhyl 1879

Mae tri chwaraewr wedi cael eu cyhuddo o achosi cythrwfl ar y cae yn ystod g锚m rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 y llynedd.

Mae chwaraewyr Y Rhyl, Alex Jones, 28, a Leon Atkins, 21, sy'n dod o'r dref, a chwaraewr Bangor, Shaun Lock, 30, o Fangor, wedi eu cyhuddo o achosi cythrwfl (affray).

Mae Jones hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod ar chwaraewr arall yn dilyn y digwyddiad ar faes Belle Vue, Y Rhyl ar 22 Hydref.

Derbyniodd chwaraewr arall rybudd gan Heddlu'r Gogledd.

Dywedodd y ditectif gwnstabl Kieran Davies fod y ddau glwb a Chymdeithas B锚l-droed Cymru wedi bod yn "awyddus i gydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu" yn dilyn yr "anrhefn".

Bydd y tri yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 29 Mawrth.