Nifer o ysgolion ynghau wrth i athrawon streicio eto

Disgrifiad o'r llun, Staff ar linell biced yn Ysgol y Deri, Penarth fore Iau
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru

Mae athrawon yng Nghymru ar streic ddydd Iau am yr eildro wedi i undeb yr NEU wrthod cynnig cyflog newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae miloedd o ddisgyblion yn gorfod aros adref a nifer o ysgolion yn cau yn sgil y gweithredu.

Cafodd streic ei gohirio fis diwetha' i ystyried cynnig newydd gan weinidogion, ond dywedodd swyddogion yr undeb nad oedd yn ddigon da i atal gweithredu pellach.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaid dod i gytundeb cyn canol mis Mawrth os yw athrawon am fanteisio ar gynnig "cryf".

Mae hynny'n cynnwys cynnydd cyflog o 1.5% ar ben y 5% sydd eisoes wedi ei rhoi eleni, yn ogystal 芒 1.5% fel taliad un tro.

Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys mesurau i ddod i'r afael 芒 phwysau gwaith.

Ond dywedodd yr NEU nad oedd yn ateb y cynnydd mewn costau byw, chwyddiant a'r "niwed" i gyflogau ers 2010, ac y byddai'r streic oedd i fod i ddigwydd ar 14 Chwefror yn mynd yn ei blaen ar 2 Mawrth.

Mae dwy streic arall wedi eu trefnu ar gyfer 15 a 16 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynnig i athrawon yn cynnwys cynnydd cyflog o 1.5% ar ben y 5% sydd eisoes wedi ei rhoi eleni, yn ogystal 芒 1.5% fel taliad un tro

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio o fewn "rhwystrau ariannol heriol".

"Rydyn ni'n credu bod cynnig sy'n cyfateb i godiad cyflog o 8%, gyda 6.5% yn rhan o gyflog craidd, yn un cryf yng nghyd-destun cyllideb Gymreig sy'n crebachu," meddai llefarydd.

"Er mwyn i athrawon allu elwa o godiad cyflog ychwanegol wedi ei 么l-ddyddio ar gyfer 2022-23 bydd angen cytundeb erbyn canol Mawrth."

Beth yw'r sefyllfa ledled Cymru?

Unwaith eto mae cannoedd o ysgolion ledled Cymru ar gau, gyda nifer tebyg ar agor yn rhannol.

Er na allai awdurdodau lleol yrru ffigyrau cyflawn, mae Caerdydd, cyngor mwyaf Cymru, yn dweud y bydd 49 o ysgolion yn cau yn gyfan gwbl, gyda 46 arall yn rhannol agored. Bydd 34 yn parhau ar agor yn llawn.

Ar Ynys M么n bydd 19 o ysgolion yn cau, gyda chwech arall yn rhannol ar agor, tra yn Sir Gaerfyrddin mae llai na hanner yr ysgolion yn cael eu heffeithio - 15 wedi cau yn llwyr, gyda 28 yn rhannol ar gau.

Mae awgrym y bydd nifer yr ysgolion sydd ar gau yn gostwng o'i gymharu 芒 diwrnod y streic gyntaf, gan fod gan benaethiaid gwell syniad o nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr dosbarth sy'n gweithredu, a sut y gallant liniaru'r effaith ar ddisgyblion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dydd Iau fydd yr eildro i athrawon undeb yr NEU streicio yng Nghymru

Dywedodd Cyngor Wrecsam eu bod yn "gweithio gydag ysgolion" i leihau'r tarfu ar deuluoedd gymaint 芒 phosib.

Yn 么l y Cynghorydd Phil Wynn, sy'n gyfrifol dros addysg yn y sir: "Mae penaethiaid yn paratoi asesiadau risg yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddynt, er mwyn eu cynorthwyo i wneud penderfyniad ynghylch cau, cau yn rhannol neu aros ar agor ai peidio."

Fel llawer o gynghorau eraill, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd na fyddai effaith lawn y gweithredu diwydiannol yn glir tan y diwrnod ei hun.

"Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r undebau i ddatrys yr anghydfod hwn, ac i sicrhau bod unrhyw weithredu yn tarfu cyn lleied 芒 phosib ar ddarpariaeth addysg yn y sir," meddai llefarydd.

Undeb penaethiaid hefyd yn gweithredu

Mae undeb penaethiaid yr NAHT hefyd yn parhau gyda gweithredu diwydiannol, sy'n golygu bod aelodau yn gwrthod gwneud rhai tasgau ond ddim yn streicio.

Fe wnaeth yr undeb ohirio pleidlais ymhlith aelodau ar gynnig Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod angen mwy o eglurder ar gyllid ysgolion a mesurau i leihau llwyth gwaith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ysgrifennu at undebau ddydd Gwener gyda "chynnig cynhwysfawr ar lwyth gwaith".

Roedd tua 40% o'r 1,500 o ysgolion yng Nghymru wedi cau a channoedd yn fwy yn rhannol agored o ganlyniad i streic gyntaf yr NEU ar 1 Chwefror.

Disgrifiad o'r fideo, Owain Gethin Davies, pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, yn trafod effaith y streiciau

Yn Llanrwst, bydd Ysgol Dyffryn Conwy ar agor i flynyddoedd 7, 12 a 13 yn unig ddydd Iau oherwydd diffyg staff.

"Mae yna effaith ar ddisgyblion Blwyddyn 10 i 13, sydd yn colli dyddiau pwysig yn paratoi at asesiadau ac arholiadau," meddai'r pennaeth, Owain Gethin Davies.

"Mae'r amser yn brin o ran arholiadau ac mae hyn yn amlwg yn rhoi pwysau arnom fel ysgol, a phryderon yn codi ymysg rhieni.

"Rydyn ni wedi gorfod gohirio llawer o gyfarfodydd a hyfforddiant ar gyfer staff amrywiol.

"Mae'n golygu newid trefniant o ran cyrsiau coleg allanol, gohirio gweithgareddau ac ail-drefnu siaradwyr gwadd a newid trefniadau cinio a gohirio darpariaeth."