Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-bel-droediwr yn 'aros yn bositif' wedi diagnosis MND
Ffynhonnell y llun, Jason Bowen
Mae'r cyn-b锚l-droediwr rhyngwladol Jason Bowen wedi bod yn s么n am yr angen i gadw'n bositif ar 么l iddo gael gwybod bod ganddo Glefyd Motor Niwron (MND).
Roedd ei deulu yn torri'u calonnau, meddai Bowen, sy'n 50 oed.
"Roedd 'na lot o ddagrau, a lot o siarad, a jest ceisio aros yn bositif."
Cafodd y cyn-ymosodwr, a enillodd ddau gap i Gymru, wybod bod ganddo'r cyflwr niwrolegol ar 么l sylwi bod rhywbeth o'i le ddwy flynedd yn 么l.
"Roeddwn i yn y t欧 gyda fy ngwraig ac roedd y cyhyrau ar fy ochr chwith yn gwingo, a fy llaw wedi mynd yn wannach," meddai.
"Dywedodd hi wrtha i 'cer at y doctor', ac o fewn pum wythnos roeddwn i wedi cael diagnosis o MND."
Ffynhonnell y llun, Jason Bowen
Mae'n llawn canmoliaeth i'w wraig Hayley, gan ddweud ei bod hi wedi bod "yn wych o'r dechrau".
"Mae hi'n edrych ar y we am wybodaeth. Mae hi'n anhygoel, mae hi'n fy ngwthio'r holl ffordd," meddai.
Bu Bowen yn chwarae dros nifer o glybiau yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.
Roedd yn gweithio fel peiriannydd rheilffordd ar 么l rhoi'r gorau i b锚l-droed yn 2013, ac yntau'n 40 oed.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae clefyd MND yn gyflwr sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau.
Mae'n achosi i rannau o'r corff wanhau, sy'n gwaethygu dros amser.
Does dim gwella, ond mae triniaethau gwahanol ar gael.
Yn bennaf, pobl yn eu 60au a 70au sy'n cael eu taro gan y clefyd, ond mae'n gallu effeithio ar oedolion o bob oed.
Ffynhonnell y llun, Jason Bowen
Dros y misoedd diwetha' mae Bowen wedi bod yn mynd i glinig Morrello yng Nghasnewydd, sy'n arbenigo mewn triniaethau adfer i bobl sydd 芒 chyflyrau niwrolegol.
Dywedodd Jakko Brouwers, y cyfarwyddwr clinigol yno: "Yn y lle cyntaf, y peth oedd angen gwneud oedd darganfod sut mae e'n teimlo.
"Fe fuon ni'n mesur ei lefelau ffitrwydd, a darganfod ble mae ganddo wendidau oherwydd y cyflwr.
"Ar y cyfan, mae Jason yn ymateb yn dda iawn. Dwi'n credu bod hynny oherwydd ei gefndir proffesiynol.
"Mae'n gwybod yn iawn beth mae ei gorff yn ei wneud."
Yn 么l Bowen mae'r holl brofiad yn y clinig wedi bod yn bositif - yn feddyliol yn ogystal 芒 chorfforol.
O ran y dyfodol, mae'n dweud nad yw'n awyddus i edrych ymlaen yn ormodol.
"Dwi jyst eisiau byw yn y presennol," meddai.
"Dros y blynyddoedd diwetha', dim ond fy llaw sydd wedi bod yn gwaethygu.
"Dwi'n cael trafferth gyda phethe bach fel botymau, gwregysau a lasys, ond dwi'n dal yn gallu gwneud tipyn o bethau.
"Dwi'n gwybod yn y pen draw mae'n bosib y bydd pethau'n mynd bach yn fwy anodd i fi, ond fe ddelia i 芒 hynny ar y pryd, a gwneud y gorau ohoni."