Prif sgoriwr, Helen Ward yn ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae prif sgoriwr Cymru, Helen Ward, wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol.
Fe wnaeth ymosodwraig Watford, sydd bellach yn 36, chwarae 105 o gemau i Gymru gan sgorio 44 g么l - y nifer fwyaf erioed yn hanes y t卯m cenedlaethol.
Bydd hi'n rhoi'r gorau i chwarae dros ei chlwb ar ddiwedd y tymor.
Gan wneud ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yn 2008 - g锚m y bu iddi hefyd sgorio ynddi - mae ei gyrfa wedi pontio cyfnod amateur a phroffesiynol camp y merched.
Ei hymgyrch olaf oedd methiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2023, er iddyn nhw ddod yn agos mewn ymgyrch ragbrofol ysbrydoledig.
Clwb anrhydeddus
"Mae'n torri fy nghalon na wnes i gyrraedd twrnament rhyngwladol gyda'r t卯m yma, nad oeddwn i ar fy ngorau ar yr un pryd 芒 chymaint o'r chwaraewyr nawr," meddai mewn neges ar Twitter.
"Ond dwi'n gwybod y byddan nhw'n cyrraedd yno'n fuan, a serennu ar y llwyfan mwyaf, ac alla i ddim aros i'w gweiddi nhw ymlaen pan fydd hynny'n digwydd."
Cafodd Ward ei geni yn Llundain, ond roedd yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd ei thaid.
Yn ei neges o ymddeoliad, dywedodd ei bod yn teimlo'r "balchder" bob tro roedd hi'n clywed yr anthem genedlaethol, a bod chwarae dros Gymru wedi dod yn "bwrpas" iddi.
"Dyna pam nes i gadw fynd a cheisio gwella; y rheswm nes i ddod yn 么l ar 么l cael plant; pan nes i ddim gadael i Covid fod yn ddiwedd ar bethau," meddai.
"Dyna pam nes i sylwi mai nid lle 'dych chi'n cael eich geni sy'n cyfrif, ond lle 'dych chi'n teimlo 'dych chi'n perthyn, a dwi erioed wedi bod mor gartrefol 芒 phan oeddwn i gyda fy nh卯m, yng Nghymru."
Yn ogystal 芒 bod yn brif sgoriwr Cymru, mae Ward yn un o ddim ond naw sydd wedi cynrychioli Cymru 100 o weithiau.
Mae'r clwb anrhydeddus hefyd yn cynnwys Jess Fishlock, Lauren Dykes, Sophie Ingle, Natasha Harding ac Angharad James o d卯m y merched, a Chris Gunter, Gareth Bale a Wayne Hennessey dros y dynion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022