Cynllun i greu perllan gymunedol yng Nghwm Penmachno
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith yn dechrau ar blannu perllan gymunedol ar Fferm y Foel yng Nghwm Penmachno sy'n berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y nod yw y bydd y berllan yn lle i bobl leol gael mynd i gerdded ac ymlacio, a bydd unigolion lleol yn gofalu amdani.
Mae Cwm Penmachno yn hen bentref chwarelyddol, llai na 10 milltir o Fetws-y-coed.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisoes wedi bod yn plannu metrau o wrychoedd ar y fferm, a pherllan yw'r cynllun nesaf sydd ar y gweill.
Ardal i 'ymlacio a mwynhau'
Mae tir wedi cael ei glustnodi ar gyfer y prosiect ac mae llwybrau wedi'u creu.
Y gobaith ydy plannu 35 o goed yno, er budd cymuned a natur yr ardal, gan gynnwys coed afalau Enlli, Cox Cymreig, damsyns ac eirin Abergwyngregyn yn ogystal 芒 choed eirin Dinbych.
Dywedodd rheolwr Fferm y Foel, Wil Bigwood: "Mi fydd hwn yn rhywle i bobl gael dod i ymlacio a mwynhau yr awyr agored, a hefyd i gyfrannu mewn datblygu'r berllan 'ma a'i chynnal a'i chadw hi hefyd.
"Mae'r berllan i'r gymuned, ac mi fyddan nhw'n defnyddio'r ffrwythau i wneud beth bynnag fyddan nhw ffansi ei wneud - seidr, jam, jeli - beth bynnag ma' nhw isio. Bydd lot yn mwynhau hynny."
Bydd gwaith yn mynd ymlaen yng Nghwm Penmachno ddydd Mawrth, ac mae croeso i bobl fynd yno i ddysgu am blannu a garddio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2020