Gwirfoddolwyr yn clirio '10 tunnell o sbwriel' o Afon Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr wedi glanhau dros 10 tunnell o sbwriel o Afon Teifi ger Llandysul, gan ddweud fod y rheiny sy'n gyfrifol am ei adael yn "gwbl anghyfrifol".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "brawychus".
Dywedodd gr诺p caiacio Llandysul Paddlers yng Ngheredigion fod dwsinau o wirfoddolwyr wedi gweithio dros gyfnod o dri penwythnos i dacluso 5km o'r afon, ar 么l i sbwriel gael ei ollwng yno.
Yn ogystal 芒'r sbwriel, sy'n cynnwys 欧d mewn bagiau plastig amaethyddol, roedd yna hefyd o leiaf chwech o gyrff defaid marw yn yr afon, meddai un o reolwr y clwb.
"Oedd o'n beth trist i weld," meddai Gareth Bryant. "Mae'n amlwg fod o wedi digwydd rhwng diwedd Rhagfyr a nawr.
"Mae rhywfaint o sbwriel amaethyddol yn digwydd o bryd i'w gilydd, yn enwedig ar 么l llifogydd. 'Dyn ni wedi ei weld e o'r blaen.
"Ond mae hyn yn rhywbeth hollol wahanol."
Dywedodd fod gwirfoddolwyr wedi bod wrthi am gyfanswm o 400 awr yn clirio 5km o'r afon, a hynny ar dri achlysur dros benwythnosau diweddar.
"Mae hwn yn ofnadwy o beth," meddai. "Mae'n ofid meddwl faint o niwed mae e wedi ei wneud i fywyd gwyllt fel pysgod.
"Naethon ni allu achub rhai o'r pysgod oedd yn sownd, ond pwy sy'n gwybod faint oedd wedi marw cyn i ni ddod i glirio'r llanast."
Dywedodd Carol Fielding, arweinydd t卯m amgylchedd CNC yng Ngheredigion fod y gwastraff gafodd ei dynnu o'r afon yn "frawychus", gan ychwanegu fod y gymuned leol wedi gwneud "gwaith ardderchog i'w dynnu allan".
"Fe dderbynion ni adroddiad o lygredd ar 么l i'r gymuned lanhau'r afon, oedd yn pwysleisio faint o ddeunyddiau amaethyddol gafodd eu casglu," meddai.
"Rydym yn ymchwilio i'r adroddiad ar hyn o bryd.
"Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae er mwyn sicrhau bod gwastraff neu ddeunyddiau eraill ddim yn cyrraedd ein hafonydd yn y pen draw.
"Rydym yn annog pawb i adrodd unrhyw achos o lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol i'n llinell gymorth digwyddiad 24 awr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019