大象传媒

Non Parry: Diagnosis awtistiaeth yn 'rhyddhad'

  • Cyhoeddwyd
Non ParryFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Non Parry yn adnabyddus fel aelod o gr诺p pop Eden, ac mae'r triawd yn parhau i berfformio

Mae'r gantores Non Parry wedi dweud ei bod hi'n teimlo "rhyddhad mawr" ar 么l cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.

Dywedodd yr aelod o gr诺p pop Eden, sy'n 50 oed, bod hynny'n esbonio tipyn am y problemau iechyd meddwl mae hi wedi eu profi yn y gorffennol.

Serch hynny, mae hi'n poeni bod merched yn llawer iawn mwy tebygol o guddio eu symptomau awtistiaeth na bechgyn, ac mae hi'n annog mwy o bobl i gael eu profi.

Cafodd Non brawf ar 么l i'w merch 14 oed, Kitty, gael diagnosis ddwy flynedd yn 么l, ac fe sylweddolodd y gantoes ei bod hi'n rhannu nifer o'r un anawsterau 芒'i merch.

'Merched yn fwy distaw'

"Un noson, o'n i'n siarad efo Kitty am rywbeth oedd hi'n ffeindio'n anodd iawn yn yr ysgol," meddai.

"Naeth hi ddweud, 'Mam, dwi'n meddwl falle dylet ti gael prawf i weld a oes awtistiaeth gyda ti, achos ti'n siarad fel dwi'n meddwl.'"

Ar 么l derbyn ei diagnosis, fe sylweddolodd Non bod hynny'n "esbonio lot o'r rhesymau" tu 么l i'w hiechyd meddwl.

"Y teimlad bod fi'n wahanol yn y byd, bod fi'n wrong, wedi torri," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Non Parry mai sgwrs gyda'i merch wnaeth ei hannog i gael prawf am awtistiaeth

Yn 么l data gan elusen NAS Cymru, mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod awtistig yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach mewn bywyd na dynion - neu beidio cael diagnosis o gwbl.

Cadarnhau hynny mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Abertawe, sy'n dangos ei bod hi'n cymryd chwe blynedd yn fwy ar gyfartaledd i ferched gael diagnosis awtistiaeth na bechgyn.

"Dydy awtistiaeth mewn merched ddim yn tueddu i gael ei bigo fyny yn yr ysgol gynradd," meddai Sioned Thomas, sy'n swyddog datblygu awtistiaeth cenedlaethol.

Mae hi'n awgrymu mai un rheswm am hyn yw bod merched "yn fwy distaw a llai disruptive", ac felly nad ydyn nhw'n cael eu hannog i gael prawf.

'Rhywbeth positif'

Dywedodd Non Parry fod hynny'n gyson gyda'i phrofiad hi hefyd.

"Mae o jyst mor typical bod ni fel merched jyst eisiau plesio, jyst eisiau ffitio mewn, edrych yn normal, bihafio fel pawb arall," meddai.

"Ac mae'n rhaid i hynna newid r诺an."

Mae hi hefyd am i bobl o bob oed a rhywedd wybod nad ydy'r diagnosis yn beth "negatif".

"Mae o'n rhywbeth rili positif," meddai. "'Di o ddim yn golygu bod ni wedi torri na bod chi ddim yn gallu gweithio.

"'Dan ni yn gallu llwyddo."

Pynciau cysylltiedig