大象传媒

Costau byw yn 'bygwth argyfwng' i bobl digartref

  • Cyhoeddwyd
Gisda Anya
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Anya fod Gisda wedi bod yn gymorth mawr wrth helpu iddi fyw yn annibynnol

Mae gwasanaethau digartrefedd ar drothwy argyfwng yn sgil costau uwch a diffyg arian, yn 么l elusen yn y maes.

Yn 么l Cymorth Cymru, fe allai cynnydd mewn costau rhent a biliau ynni, heb gynnydd mewn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, fod yn ddinistriol i'r sector.

Torri gwasanaethau neu swyddi fydd yn digwydd yn y pen draw, yn 么l yr elusen, os na welan nhw gynnydd yn y Grant Cymorth Tai.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n wynebu "storm berffaith o bwysau ariannol".

Mae tua 9,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, y lefel uchaf erioed, yn 么l yr ystadegau diweddaraf. 聽

Y Grant Cymorth Tai yw prif ffynhonnell ariannol elusen Gisda, sy'n cefnogi pobl ifanc fregus yn y gogledd, ers 37 o flynyddoedd.

'Helpu efo bob dim'

Mae Anya yn 16, ac yn byw yn hostel Gisda ym Mlaenau Ffestiniog.聽

"Ma' [Gisda] jyst yn helpu efo bob dim rili, hefo cael bwyd a gwneud biliau a petha hefo Universal Credit," meddai.

"Ma' nhw 'di helpu hefo fel petha' mental hefyd, ma' nhw'n dda i siarad i, os mae gynnai unrhyw [le i] boeni dwi'n jyst mynd at key worker a dwi'n gallu deud wrthi hi, a fydd hi'n trio helpu fi yn unrhyw way ma' hi'n gallu."

Mae'n dechrau teimlo'n hapus eto, meddai, ar 么l cyfnod anodd.

"Mae'n road slow ond dwi'n dechra fo, a dwi'n teimlo'n well yn byw yn fflat fi fy hun a cael independence."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Si芒n Elen Tomos mae hi'n bwysig fod Gisda yn gallu ymateb i'r her sy'n wynebu pobl fregus

Yn 么l Si芒n Elen Tomos, prif weithredwr Gisda, mae cynnydd mewn costau wedi effeithio arnyn nhw fel elusen.

"Ma' bob peth wedi mynd i fyny," meddai.

"Ma' gynnon ni geir sydd yn defnyddio tanwydd, ma' costa' bob peth 'di mynd i fyny, costa' staff 'di mynd i fyny. Felly mae o'n her i ni fel elusen."

Fe fyddai cynnydd yn y Grant Cymorth Tai yn gwneud gwahaniaeth i ateb y galw, meddai.

"Dwi yn teimlo y dylsa bod 'na gynnydd, yn arbennig lefel chwyddiant, i'n prif ffynhonnell incwm ni, sef Grant Cymorth Tai.

"A dwi'n deall bod 'na heriau sylweddol gan y llywodraeth, ma' pawb isio mwy o bres i gyd-fynd efo'r galw am wasanaeth.

"Ond dwi yn teimlo efo pobl bregus a digartref, yn arbennig pobl ifanc, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaeth o ansawdd, a'n bod ni yn gallu ymateb i'r heriau a'r galw sy 'na ar hyn o bryd."

'Gwegian'

Wrth i'r esgid wasgu i elusennau digartrefedd, mae Heddyr Gregory o Shelter Cymru yn cytuno gyda Gisda bod y llwyth gwaith yn cynyddu.

"Gyda'r cynnydd sydd yn y galwadau, y'n ni yn gwegian o ran y gwasanaethau," meddai.

Ond oherwydd bod arian yn brin ymhlith y cyhoedd, mae wedi effeithio ar gyfraniadau i'r elusen.

"Unwaith aeth biliau ynni lan 'n么l ym mis Ebrill dwetha, fe gollon ni 10% o'n hincwm, pobl oedd yn rhoi i ni'n rheolaidd.

"Dyw e' ddim yn flaenoriaeth bellach yn amlwg i roi i elusen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie Dalton: "Mae angen buddsoddi yn y maes"

Mae Gisda a Shelter Cymru'n aelodau o gr诺p Cymorth Cymru, corff sy'n cynrychioli gwasanaethau digartrefedd a thai.

Yn 么l eu prif weithredwr Katie Dalton mae angen buddsoddi yn y maes.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad am sut mae'n blaenoriaethu digartrefedd, a sut mae eisiau dod 芒 digartrefedd i ben," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod bod buddsoddi mewn gwasanaethau cefnogi tai yn arwain at atal hyn, yn nhermau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol, felly mae'n gwneud synnwyr ariannol i fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn.

"Os yw digartrefedd am fod yn flaenoriaeth, ry'n ni angen sicrhau bod gwasanaethau Grant Cymorth Tai yno i helpu pobol mas o ddigartrefedd."

Diogelu gwasanaethau

Ond mae'n "storm berffaith o bwysau ariannol gan gynnwys lefel chwyddiant uwch nac erioed", meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Bydd ein cyllideb hyd at 拢1 biliwn yn llai mewn realiti."

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen".

Maen nhw'n dadlau eu bod wedi cadw'r Grant Cymorth tai yn 拢166.76m oherwydd hyn, gan ychwanegu eu bod wedi cynyddu "buddsoddiad i wasanaethau digartrefedd a chymorth tai, i dros 拢207 miliwn flwyddyn nesaf".

Yn 么l ym Mlaenau Ffestiniog, all Anya ddim gorbwysleisio pwysigrwydd yr help mae'n ei gael yno.

"Os oedd Gisda ddim yma, ddim yn neud yn dda yn ysgol, ddim yn gwneud yn dda mentally, dwi'm yn meddwl o'n i'n gallu byw 辫谤辞辫别谤濒测听os oedd Gisda ddim yma."

Mae'r dyfodol yn llawn gobaith iddi bellach a bydd yn mynd i'r coleg i astudio coginio a'i golwg ar fod yn gogydd.

I Gisda mae'r diolch, meddai hi.

"Ma' nhw'n cefnogi fi, yn dweud 'ti yn gallu neud pethau. Maen nhw'n rhoi hyder i fi. Ma' Gisda di helpu efo coleg hefyd a jyst rhoi dyfodol i fi rili."