Undeb athrawon yn canslo streic wedi cynnig newydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae undeb yr NEU wedi canslo streiciau oedd wedi'u trefnu ar gyfer 15 a 16 Mawrth

Mae undeb athrawon yr NEU wedi canslo deuddydd o streicio oedd wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf yn dilyn cynnig t芒l newydd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd yr undeb y daw'r penderfyniad yn dilyn "trafodaethau arwyddocaol" gyda'r llywodraeth.

Yn wreiddiol, roedd yr NEU wedi trefnu deuddydd o weithredu diwydiannol ar gyfer 15 a 16 Mawrth - dydd Mercher a dydd Iau yr wythnos nesaf.

Ond nawr bydd yr undeb yn cynnal pleidlais ymysg aelodau ar y cynnig newydd, ac oherwydd hynny mae'r deuddydd o streic wedi'i ganslo.

Dywedodd yr undeb y bydd trafodaethau yn parhau ar faterion fel ariannu ysgolion, pwysau gwaith athrawon, a'r pwysau sy'n cael ei roi gan y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Beth yw cefndir y cynnig newydd?

Yn flaenorol roedd y llywodraeth wedi dweud wrth undebau athrawon y byddai angen cytuno ar gynnig erbyn 17 Mawrth er mwyn i aelodau gael codiad cyflog eleni.

Ond mewn llythyr at undebau ddydd Gwener dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles, y byddai'n cynyddu cyflogau athrawon wrth i drafodaethau barhau, gan alw am "saib" yn y streicio llawn tan o leiaf diwedd y flwyddyn academaidd.

Dywedodd y byddai'r cynnig - sy'n 8% o gynnydd ar gyfer 2022-23 - yn golygu cymorth ariannol i athrawon yn ogystal 芒 helpu disgyblion, yn enwedig y rheiny sy'n sefyll arholiadau.

Disgrifiad o'r llun, Athrawon ar linell biced yn Llanisien, Caerdydd, fis diwethaf

Roedd Jeremy Miles wedi dweud ei bod yn "hanfodol nad oes pwysau ychwanegol ar ddisgyblion, yn enwedig y rhai sy'n paratoi ar gyfer sefyll arholiadau, drwy golli rhagor o ddiwrnodau ysgol".

Dywedodd ysgrifennydd Cymru ar gyfer yr NEU, David Evans, eu bod wedi cael "eglurder" gan Lywodraeth Cymru "oedd ddim yno ychydig wythnosau yn 么l".

"Bydd y ffaith fod y cynnig hwn wedi'i ariannu yn llawn yn rhyddhad i'n aelodau," meddai.

"Ry'n ni'n dal yn siomedig nad yw'r gweindigo wedi gallu gwneud cynnig ariannol i staff cefnogol, ond o leiaf nawr mae'n cydnabod yr heriau o ran llwyth gwaith."

Yn dilyn cyhoeddiad yr undeb ddydd Gwener dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "croesawu'r penderfyniad i oedi ar y streicio".

"Mae hyn yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni a'r proffesiwn," meddai llefarydd.

"Gyda'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud o ran cael pecyn o fesurau mewn lle i leihau llwyth gwaith, ry'n ni'n credu fod hwn yn cynnig t芒l da, a gobeithiwn y gall aelodau ei gefnogi."

Beth am undebau eraill?

Mae aelodau undeb NAHT Cymru, sy'n cynrychioli penaethiaid, yng nghanol cyfnod o weithredu diwydiannol hefyd, ond dydyn nhw ddim yn streicio.

Dywedon nhw eu bod yn croesawu cynnig newydd y llywodraeth ond eu bod yn dal i "bryderu" am rannau o'r cynnig gwreiddiol, ac felly'n parhau i gynnal trafodaethau.

Mae undeb NASUWT wedi gwrthod y cynnig hefyd, gyda disgwyl iddyn nhw ofyn am farn aelodau ar weithredu ai peidio.

Ond yn ymateb i'r cynnig diweddaraf dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb y "dylai olygu y bydd athrawon yn cael mwy o arian heddiw, yn hytrach nag addewidion gwag yfory".

Yn ogystal 芒'r cynnig presennol, mae'r gweinidog wedi cyflwyno cynnig gwell o 5% ar gyfer 2023-24 - sy'n uwch na'r 3.5% gwreiddiol.