Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jonny Williams yn ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Jonny Williams, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol yn 29 oed.
Bu'n rhan o garfan Cymru ers 10 mlynedd, gan ennill 33 o gapiau a sgorio dwy g么l.
Roedd yn cael ei adnabod fel Joniesta gan gefnogwyr oherwydd y tebygrwydd rhwng ei g锚m yntau a g锚m seren Barcelona a Sbaen am flynyddoedd lawer, Andr茅s Iniesta.
Roedd yn rhan o'r garfan a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016, ac roedd hefyd yno ar gyfer twrnamentau Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Williams yw'r pedwerydd o hoelion wyth y garfan i ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd, wedi i Gareth Bale ymddeol yn llwyr, a Joe Allen a Chris Gunter hefyd ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol.
Mae'n chwarae i Swindon yn Adran Dau ar hyn o bryd.
"Ers yn 15 oed mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd gwisgo'r Ddraig Goch ar fy nghrys," meddai.
"Rydw i wedi cael y pleser o chwarae gyda chymaint o chwaraewyr a phobl gr锚t dros y blynyddoedd.
"Gyda'r awyrgylch rhwng chwaraewyr, staff a chefnogwyr, fe gron ni un teulu mawr a chyflawni llwyddiant anhygoel.
"Roedd mynd i Bencampwriaeth Ewrop ddwywaith a Chwpan y Byd tu hwnt i fy mreuddwydion, ond fe wnaed hynny'n bosib gyda'n gilydd."
Ychwanegodd: "Fe fydda i'n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd a ges i gan Osian Roberts a Brian Flynn yn y timau ieuenctid, ac i Gary Speed, Chris Coleman, Ryan Giggs a Rob Page gyda'r t卯m cyntaf.
"Yn olaf, diolch i chi gefnogwyr Cymru am aros gyda mi o'r dechrau.
"Fe wnaethoch chi fy nghroesawu i'r teulu ac ry'n ni wedi rhannu cymaint o atgofion arbennig ers hynny.
"Roedd clywed fy enw yn cael ei ganu gan gymaint o gefnogwyr Cymru yn golygu popeth i mi."