大象传媒

Cau pwll nofio Harlech oherwydd costau 'anghynaladwy'

  • Cyhoeddwyd
Pwll Harlech
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llai o bobl wedi bod yn defnyddio'r pwll oherwydd costau byw cynyddol

Bydd pwll nofio Harlech yn cau erbyn diwedd mis Mawrth oherwydd costau ynni "anghynaladwy".

Mewn datganiad, dywedodd Harlech ac Ardudwy Leisure (HAL) eu bod yn wynebu trafferthion arian sylweddol ac wedi cyrraedd "pwynt argyfwng".

Dywedodd y bwrdd bod y penderfyniad i gau'r pwll yn un "anodd ond angenrheidiol".

Yn 么l HAL mae eu costau ynni wedi treblu o tua 拢4,000 y mis i hyd at 拢12,000 y mis.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r ffigwr yma cynyddu pan ddaw Cynllun Cefnogi Ynni'r Llywodraeth i ben.

Yn ogystal mae HAL wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio'u pwll nofio o ganlyniad i gostau byw cynyddol.

Angen 拢5,000 i agor y pwll tan ddiwedd y mis

Cafodd y penderfyniad i gau'r pwll ei wneud mewn cyfarfod brys gan fwrdd y cyfarwyddwyr ar 7 Mawrth.

Er bod y pwll yn debygol o gau ar ddiwedd y mis, y gobaith yw cadw'r caffi a'r wal ddringo ar agor am ychydig hirach yn y tymor byr.

Ond nid yw'n bendant chwaith y bydd y pwll yn medru parhau ar agor tan ddiwedd y mis.

Mae Triathlon Harlech i fod i gael ei gynnal ar 26 Mawrth, ac yn eu datganiad dywedodd HAL eu bod yn "cydnabod pa mor bwysig yw'r digwyddiad i'r economi leol a threfnwyr y digwyddiad".

Ond maen nhw'n rhybuddio bod angen codi o leiaf 拢5,000 er mwyn gwneud hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galw am fwy o wirfoddolwyr er mwyn ymestyn dyfodol y pwll

O ganlyniad maen nhw'n annog y gymuned leol i ddefnyddio'r pwll yn amlach.

Dywedodd HAL: "Mae'n bwysicach nag erioed fod y ganolfan yn cael ei defnyddio gan y gymuned leol dros yr wythnosau nesaf i gynhyrchu cymaint o incwm 芒 phosib i geisio ymestyn dyddiad cau'r pwll nofio.

"Os gallwn aros ar agor tan ddiwedd mis Mawrth, yna byddwn yn gallu gorffen y gwersi nofio tymor ysgol ynghyd 芒 gwersi nofio preifat."

Trafod dyfodol yr adeilad

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Chyngor Gwynedd, sydd wedi cytuno helpu'r bwrdd gyda'u dyled, ac maen nhw hefyd yn gobeithio cael busnesau lleol i'w noddi.

Er nad oes modd cadw'r pwll ar agor yn y tymor hir, y gobaith yw y bydd rhoddion yn caniat谩u cadw staff am gyfnod penodol gan eu galluogi i drafod dyfodol yr adeilad.

Dywedodd bwrdd HAL: "Y peth olaf mae unrhyw un ei eisiau yw i'r adeilad gael ei gau a dod yn adeilad gwag arall yn Harlech."

Gwirfoddolwyr yn gadael

Gwirfoddolwyr sydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr, ac maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi derbyn cryn dipyn o feirniadaeth annheg ynghylch y ffordd mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg.

Dywedodd y bwrdd: "Bu llawer o sibrydion ffug yn cylchredeg yn ddiweddar ynghyd 芒 gohebiaeth ac adborth i'r Bwrdd yn cwestiynu eu dull proffesiynol a moeseg o redeg y Ganolfan.

O ganlyniad i "don o vendetta lleol" mae'r bwrdd yn dweud bod pum aelod nawr wedi ymddiswyddo, ac yn rhybuddio bod eraill hefyd yn ystyried gadael gan beryglu'r ganolfan gyfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae hyn yn gadael HAL mewn sefyllfa ansicr bellach, gan fod hwn yn nifer annigonol o gyfarwyddwyr i redeg y ganolfan.

"Oni bai bod bwrdd newydd yn cael ei sefydlu, ni fydd y ganolfan yn gallu gweithredu gan adael y gymuned heb ased a staff presennol heb waith."

Mi fydd dau gyfarfod cymunedol yn cael ei gynnal mis Mawrth er mwyn ceisio dod o hyd i aelodau newydd i'r bwrdd.

"Os yw'r gymuned leol eisiau i HAL gadw pwll nofio gweithredol, caffi a wal ddringo yna mae angen i'r gymuned leol fod yn rhan weithredol o'r ateb," meddai'r datganiad.

"Byddem unwaith eto yn estyn allan i'r gymuned leol ar gyfer gwirfoddolwyr i helpu mewn unrhyw faes o'r ganolfan neu drwy ymuno 芒 Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

"Wrth symud ymlaen, gall costau ynni leihau yn y tymor hir gyda buddsoddiad grant posibl a ariennir mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy (e.e. paneli solar), a gall planhigion a pheiriannau mwy effeithlon ddarparu atebion posibl.

"Fodd bynnag, mae'r costau ynni presennol yn anghynaladwy fel y maent yn sefyll."

Pynciau cysylltiedig