大象传媒

Cyhoeddi Aaron Ramsey fel capten newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aaron Ramsey bellach yn chwarae ei b锚l-droed ym mhrif adran Ffrainc

Mae Aaron Ramsey wedi ei benodi'n gapten y t卯m p锚l-droed cenedlaethol am yr eildro.

Roedd chwaraewr Nice yn gapten ar ei wlad rhwng 2011 a 2012 cyn pasio'r awenau i Ashley Williams.

Ond ddydd Mawrth, yn dilyn cyhoeddi'r garfan i wynebu Croatia a Latfia, cadarnhaodd Robert Page mai Ramsey fydd yn arwain y t卯m yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale.

Bellach yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan, mae'r siaradwr Cymraeg 32 oed wedi ennill 78 cap.

Er trafferthion gydag anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gwneud 21 ymddangosiad dros ei glwb yn Ligue 1 y tymor hwn.

Mae Cymro Cymraeg arall, Ben Davies, wedi ei gadarnhau fel is-gapten y garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Aaron Ramsey eisoes yn gapten ar ei wlad rhwng 2011 a 2012

Meddai Page: "Roedd Aaron yn is-gapten y tu 么l i Gareth ac i mi dyna'r dilyniant naturiol.

"Tra bod gennym ni rywun o'i safon yn y garfan o hyd, roedd yn benderfyniad naturiol.

"Fe gymerodd Aaron Gwpan y Byd yn galed, fel y gwnaethon ni i gyd.

"Ond doedd dim amheuaeth o gwbl am ei ddyfodol ac eisiau chwarae i Gymru."

Ychwanegodd Page ei fod yn benderfyniad anodd rhwng penodi Ramsey ac amddiffynnwr Tottenham.

"Rwy'n gweld Ben Davies fel capten y dyfodol a bydd ei r么l yn debyg i r么l Gareth ac Aaron," meddai.

Bydd Ramsey yn arwain y t卯m oddi cartref yn Croatia ar 25 Mawrth ac yna Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 28 Mawrth.