大象传媒

Pen Ll欧n: 'Pryder garw' am gynllun unedau gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Bentref MynythoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bwriad i godi'r datblygiad drws nesaf i Neuadd Bentref Mynytho

Mae cais i ddatblygu unedau gwyliau yn pryderu rhai trigolion mewn pentref ym Mhen Ll欧n.

Bwriad datblygwyr yw codi 16 uned wyliau, pum t欧 marchnad agored, tafarn a th欧 bwyta ym Mynytho.

Yn 么l John Fifield, sydd wedi cyflwyno'r cais cynllunio, byddai'n dod 芒 buddion economaidd i'r ardal.

Ond mae'r cynghorydd lleol yn dweud fod 'na wrthwynebiad chwyrn a bod ei "ff么n heb stopio" ers i'r cynllun ddod yn hysbys.

'Mae'n or-ddatblygiad'

Y bwriad yw codi'r datblygiad drws nesaf i'r neuadd bentref ar safle t欧 a garej masnachol ym Mynytho.

Y g诺r tu 么l i'r cynllun ydy John Fifield, yn etholiadau lleol y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad yw codi 16 uned wyliau, pump o dai, tafarn a th欧 bwyta ger y neuadd bentref bresennol

Yn 么l Mr Fifield, mae wedi siarad gyda rhai pobl leol sy'n gefnogol o'r cynllun, a dywedodd fod datblygiadau o'r fath yn helpu i gadw ysgolion a chyfleusterau lleol yn hyfyw.

Ond dywedodd Angela Russell, sy'n cynrychioli ward Llanbedrog a Mynytho ar Gyngor Gwynedd, fod 'na eisoes wrthwynebiad cryf yn lleol.

"Dydi'r ff么n heb stopio. Mae pobl y pryderu'n arw," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae o'n or-ddatblygiad, tu allan i'r ffin datblygu, a ti'n gorfod cwestiynu os oes 'na alw am y math yma o ddatblygiad.

"'Dan ni'm angen mwy o dafarndai a thai bwyta. Mae'r rhai sydd ganddon ni yn stryglo fel ma'i.

"Mae Mynytho yn barod yn cael ei adnabod fel Upper Abersoch a Llanbedrog fel Lower Abersoch. Mae 'na dai wedi'u hadeiladu dros y ffordd yn ddiweddar ond dydi'r rheiny i gyd ddim yn llawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynghorydd sir, Angela Russell, yn dweud iddi dderbyn sawl galwad ff么n gan bobl yn bryderus am y cynlluniau

Ychwanegodd y Cynghorydd Russell, sy'n arwain gwrthblaid annibynnol Cyngor Gwynedd: "Mae'r syniad o dai marchnad leol yn swnio'n dda ar bapur, ond go iawn mae pobl yn stryglo i dalu.

"Gwaith o safon 'dan ni angen yma, dim swyddi tymhorol.

"Ar ddiwedd y dydd faint mwy o holiday lets 'dan ni angen? Dwi'n teimlo fod ni'n over-saturated fel ma'i.

"Dwi'n teimlo fod 'na lai o alw ers i'r ffiniau ailagor a pobl yn gallu hedfan dramor eto."

'Darparu swyddi da i bobl leol'

Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais amlinellol dros y misoedd nesaf, ond cyn gallu dechrau ar unrhyw adeiladu byddai hefyd angen caniat芒d mwy manwl yr awdurdod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mynytho rhyw ddwy filltir o Abersoch, sy'n gyrchfan wyliau poblogaidd

Dywedodd yr ymgeisydd, John Fifield: "Does 'na ddim tafarn na th欧 bwyty ym Mynytho, a bydd ein cynnig o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Does dim amheuaeth bod galw gan weithredwyr a chwsmeriaid am rywbeth addas ym Mynytho ac nid ydym yn derbyn bod siopau presennol yn yr ardal yn ei chael hi'n anodd - ceisiwch archebu bwrdd yn unrhyw le.

"Nid ydym ychwaith yn derbyn bod yr ardal yn dioddef dirywiad mewn twristiaeth oherwydd bod pobl yn gallu mynd dramor eto, nac ychwaith fod swyddi yn y sector hamdden mor dymhorol 芒 hynny."

Gan ychwanegu fod y cysyniad o bobl ond yn ymweld 芒 Phen Ll欧n ym mis Awst yn "gwbl hen ffasiwn", mae Mr Fifield o osod premiwm treth cyngor ar berchnogion ail gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Delwedd o sut y byddai'r datblygiad gorffenedig yn edrych

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae galw am y llety gwyliau a byddant yn darparu swyddi da i bobl leol.

"Pwynt gwerthu Pen Ll欧n yw twristiaeth a dylai cynrychiolwyr lleol fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w hyrwyddo.

"Dyna'r ffordd o helpu pobl leol i ddod o hyd i swyddi sy'n talu'n dda, fel y gallant aros yn yr ardal a magu eu teuluoedd - gan gadw ysgolion chyfleusterau lleol eraill yn hyfyw."

Pynciau cysylltiedig