Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad menyw yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed wedi cyfaddef lladd menyw 65 oed yn Rhondda Cynon Taf yn 2021.
Yn siarad drwy gyswllt fideo o ysbyty sydd 芒 diogelwch llym, o flaen Llys y Goron Abertawe plediodd Luke Deeley yn euog i ddynladdiad June Fox-Roberts ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Fe blediodd yn ddieuog i gyhuddiad o'i llofruddio.
Fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ei ble, a bydd Deeley yn cael ei ddedfrydu ar 28 Ebrill.
Cafwyd hyd i gorff Ms Fox-Roberts yn ei chartref yn Llanilltud Faerdref, Rhondda Cynon Taf, ar 21 Tachwedd 2021.
Roedd ei theulu wedi ei disgrifio fel "gwraig garedig, hael na fu erioed yn hapusach na phan oedd gyda theulu a ffrindiau o'i chwmpas".
Dywedon nhw eu bod yn "dorcalonnus" yn sgil ei marwolaeth.
'Salwch meddwl yn amharu'n sylweddol'
Dywedodd bargyfreithiwr dros yr erlyniad, John Hipkin KC, fod tri seiciatrydd wedi dod i'r casgliad fod Deeley yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd pan laddodd Ms Fox-Roberts.
Gofynnodd y barnwr, Mr Ustus Griffiths, i'r erlyniad a oedd hynny'n golygu "ar adeg y farwolaeth drasig, roedd salwch meddwl y diffynnydd yn amharu'n sylweddol ar ei allu i ddeall natur ei ymddygiad" ac oedd hin "briodol derbyn cyhuddiad o ddynladdiad yn hytrach na llofruddiaeth?".
Cytunodd Mr Hipkin, gan ddweud ei fod wedi ymgynghori 芒 theulu Ms Fox Robert ac wedi myfyrio dros yr adroddiadau meddygol.
"Rydym wedi rhoi cryn ystyriaeth ac yn derbyn y ple hwnnw yn seiliedig ar farn tri seiciatrydd amlwg sydd i gyd o'r farn honno," meddai.
Ychwanegodd Mr Hipkin "yn anffodus mae lladd Ms Fox-Roberts a chyflwr seiciatrig y diffynnydd yn gysylltiedig".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021