Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gael arwyddair newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei newid yn 2024, yn sgil pryderon am gamddehongli'r geiriau 'byd gwyn'.
Mae'r arwyddair 'Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo' gan y bardd T. Gwynn Jones wedi bodoli ers dros 75 mlynedd.
Ond mewn ymgynghoriad diweddar ar foderneiddio'r 诺yl, fe ddaeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth iddyn nhw gael eu cyfieithu.
Cafodd yr arwyddair ei gyfieithu o'r dechrau gan y bardd T Gwynn Jones i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.
Ond roedd cyfieithiad llythrennol 'Byd Gwyn' yn poeni rhai, sef 'White World', gyda phryder ei bod yn bosib ei gam-ddehongli.
Yn dilyn cyfarfod o fwrdd yr eisteddfod nos Fercher, daeth cadarnhad bod penderfyniad wedi cael ei wneud i gomisiynu bardd i greu arwyddair newydd.
'Ystyr ddim yn ddigon clir'
Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi "ymchwilio ac ymgynghori" ar y mater gyda nifer o sefydliadau a siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, gan gynnwys arbenigwyr ar yr iaith a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n rhoi cyllid i'r 诺yl.
"Eu cyngor unfrydol oedd bod yr arwyddair yn brydferth o'i ddarllen gyda dealltwriaeth o'r Gymraeg, ond i'r di-Gymraeg a chenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd ac yn wir rhai Cymry Cymraeg, nid yw'r ystyr a fwriadwyd yn ddigon clir," meddai.
"Mae geiriau T. Gwynn Jones wedi teithio o Langollen o amgylch y byd, gan ledaenu'r neges Gymreig o heddwch, ac mae ein harwyddair wedi ein gwasanaethu'n aruthrol o dda ers 75 mlynedd; rydym yn gwbl falch ohono yn ei ystyr a'i gyfieithiad gwreiddiol.
"Wrth i Eisteddfod Llangollen barhau ar lwybr pwysig o adnewyddu ein pwrpas mewn byd modern, mae'r Bwrdd wedi cytuno bod hyn yn rhoi cyfle creadigol cyfoethog i ystyried y Gymraeg fel iaith fyw ac esblygol."
Bydd arwyddair presennol a tharian adnabyddus yr eisteddfod yn parhau i fod yn rhan o'r 诺yl yn 2023, a bydd y bwrdd yn treulio'r pum mis nesaf yn ymgynghori yngl欧n 芒'r ffordd orau o gomisiynu arwyddair newydd, i'w ddadorchuddio yn 2024.
Mae'r eisteddfod hefyd yn pwysleisio nad ydyn nhw wedi awgrymu unrhyw hiliaeth ar unrhyw adeg, gan ddweud nad ydy mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn darllen y geiriau 'byd gwyn' yng nghyd-destun yr arwyddair fel unrhyw beth heblaw 'blessed'.
Yn 么l bwrdd yr eisteddfod, mater o gyfieithu yw hyn drwy'r dull "sydd fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio" gan gynulleidfaoedd di-Gymraeg ledled y byd.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yr eisteddfod yn parhau i arddel ystyr y geiriau fel roedden nhw wedi cael eu bwriadu gan T. Gwynn Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022