大象传媒

Costau byw: Gofalwyr di-d芒l yn methu fforddio hanfodion

  • Cyhoeddwyd
Tegan, ei modryb, ewythrod a'i thaidFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tegan (chwith) yn helpu i ofalu am aelodau anabl o'r teulu

Mae gofalwyr di-d芒l yn dweud bod pwysau ariannol cynyddol yn golygu na allan nhw fforddio prynu hyd yn oed yr eitemau mwyaf hanfodol, a'u bod yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio.

Yn 么l gofalwraig ifanc sy'n cefnogi tri o oedolion anabl, tydi ei theulu ddim yn gallu fforddio torri gwallt na phrynu dillad isaf.

Gall y rhai sydd yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos hawlio 拢65.25 yr wythnos, ond does dim t芒l ychwanegol am ofalu am fwy nag un person.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi gofalwyr di-d芒l.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tegan yn helpu i ofalu am ei modryb Scarlett

Mae Tegan Godden, 19, o Gasnewydd, yn byw gyda'i mam-gu a thad-cu, ei dau ewythr, modryb a'i brawd.

Ei mam-gu yw'r prif ofalwr am dri aelod anabl o'r teulu, sef tad-cu Tegan, un o'i hewythrod a'i modryb.

Mae Tegan yn helpu ei mam-gu drwy fynd 芒'i pherthnasau am ddiwrnod allan neu i apwyntiadau ysbyty, rhoi meddyginiaeth, ymolchi ei modryb a helpu o gwmpas y t欧, tra'n cynnal ei busnes cacennau a bwyd poeth ei hun yn llawn amser.

Mae'n dweud bod ei theulu yn cael trafferth cynnal eu hunain yn ariannol, gyda chyfrifoldebau gofalu ei mam-gu yn golygu na all hi weithio.

Dim ond ar gyfer un o'r bobl y mae'n hi'n gofalu amdano y gall hi hawlio lwfans gofalwr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mam-gu Tegan ydy'r prif ofalwr am dri oedolyn

"Gyda chymaint angen eu bwydo mae'n wirioneddol anodd," meddai Tegan.

Mae hi'n credu bod ei mam-gu yn aml yn mynd heb brydau bwyd ei hun, ac mae'n aml yn ei gweld yn mynd heb hanfodion eraill, meddai.

"Fi'n gweld nad yw mam-gu hyd yn oed yn gallu prynu sanau na dillad isaf, ac yn cerdded o gwmpas y t欧 gyda thyllau yn ei sanau.

"Mae'n fy ypsetio i weld yr hyn mae hi'n gorfod ymdopi ag e... mae hi mor anhunanol," meddai Tegan.

Mae Tegan eisiau gweld pobl fel ei mam-gu yn cael eu talu am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Her costau ynni

"Petai hi'n mynd mas i weithio fel gofalwr i bobl eraill, fe fyddai hi'n cael ei thalu fesul awr neu ddydd," meddai.

Un o'r heriau mwyaf i deulu Tegan ydy costau ynni.

Mae'r teulu yn byw mewn t欧 cyngor sydd wedi ei addasu yn arbennig, gyda dau d欧 tair llofft wedi eu troi yn un, gan ei wneud yn gostus i'w wresogi.

Mae'r teulu hefyd yn defnyddio llawer o offer trydanol ar gyfer ei modryb, gan gynnwys pwmp i'w bwydo, sy'n gwthio eu biliau yn uwch.

Mewn arolwg diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr o 1,109 o ofalwyr ifanc drwy'r DU, dywedodd 56% o'r rhai wnaeth ymateb bod yr argyfwng costau byw bob amser, neu fel arfer yn eu taro nhw a'u teulu.

Mae'r sefydliad yn dweud bod gofalwyr di-d芒l yn wynebu problemau ariannol di-gynsail oherwydd yr argyfwng costau byw, ac heb gymorth brys gan y llywodraeth maen nhw yn "bryderus iawn na fydd nifer yn gallu ymdopi".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Shaun yn gofalu am ei fam Sheila cyn iddi hi farw gyda dementia, ac mae bellach yn gofalu am ei dad

Mae Shaun Moore, 60, o'r Coed Duon yn Sir Caerffili wedi bod yn ofalwr di-d芒l ers pedair blynedd, ar 么l iddo adael ei swydd i ofalu am ei fam sydd 芒 dementia.

Bu farw ei fam ddwy flynedd yn 么l, ac wythnosau yn ddiweddarach cafodd ei dad str么c. Mae bellach yn gofalu am ei dad yn llawn amser.

"Rwy'n gorfod gwneud popeth i Dad," meddai. "Mae bywyd yn dod i stop.

"Dwi ddim yn beio Dad na Mam am hynny gan mai fy nyletswydd ydy gofalu amdanyn nhw, fel y bydden nhw'n ei wneud i fi."

'Wedi ein hanghofio'

Mae Shaun yn dweud ei bod hi'n anodd cael unrhyw fath o fywyd y tu hwnt i ofalu am ei dad.

"Alla' i ddim mynd mas gyda ffrindiau a chael peint gan fod rhaid i fi fod o gwmpas fy mhethau. Tasen i'n cael galwad ff么n, byddai'n rhaid i fi fynd adref yn syth."

Mae gan dad Shaun ddau ofalwr sy'n dod i'w weld am 15 munud yn y bore ac eto fin nos.

Mae'n hawlio 拢67.25 yr wythnos o Lwfans Gofalwr a 拢576 o Gredyd Cynhwysol bob mis, ac o'r swm hwnnw mae'n talu 拢420 mewn rhent, a'i gostau eraill fel car, bwyd a biliau.

"Ni yw'r rhai sydd wedi cael eu hanghofio," meddai amdano'i hun a gofalwyr di-d芒l eraill.

"Dim y bydden ni yn dweud hynny, ond beth fyddai'r llywodraeth yn ei wneud petai gofalwyr fel fi yn dweud 'allwn ni ddim gwneud hyn dim mwy'.

"'Mae'n rhaid i chi fynd 芒'n rhieni a'n perthnasau i gyd i ofal, 'dan ni ddim yn ei wneud e'.

"Fydden nhw ddim yn gallu gwneud hynny. Does ganddyn nhw ddim digon o lefydd na gofalwyr. Fe fyddai'n pandemonium."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Shaun yn blentyn gyda'i fam a'i frawd

Mae'n credu bod pobl fel ef yn "arbed miloedd o bunnau i'r llywodraeth".

"Dyw e ddim yn deg," meddai.

Mae eisiau gweld cynnydd yn y budd-daliadau y gall gofalwyr ei hawlio, a'i dynnu oddi ar fudd-daliadau a chael cyflog am y gofal y mae'n ei roi.

'Gwerthfawrogi gofalwyr di-d芒l'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gofalwyr di-d芒l ac rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i ofalwyr gael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddyn nhw'r hawl i'w derbyn.

"Mae ein Cynllun Cyflawni cenedlaethol ar gyfer gofalwyr yn amlinellu sut y byddwn yn cyrraedd yr ymrwymiad hwn. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i helpu rhagor o ofalwyr i gael mynediad at gyngor a chymorth, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o anghenion gofalwr.

"Rydym wedi gwrando ar alwadau gofalwyr di-d芒l am gymorth gyda chyfnodau o seibiant, ac yn buddsoddi 拢9m mewn Cynllun Seibiant Byr newydd.

"Mae ein Cronfa Cymorth Gofalwyr gwerth 拢4.5m hefyd wedi helpu miloedd o ofalwyr i gael mynediad at gymorth ariannol a gwasanaethau."

Pynciau cysylltiedig