大象传媒

Rhanbarthau rygbi Cymru i gynnig cytundebau ffurfiol

  • Cyhoeddwyd
Scarlets v Y DreigiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd chwaraewyr wedi bygythio streicio oherwydd diffyg cytundebau ffurfiol

Bydd rhanbarthau rygbi Cymru yn gallu dechrau cynnig cytundebau ffurfiol wedi iddyn nhw ddod i gytundeb gyda'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).

Dim ond cytundebau anffurfiol roedd Caerdydd, y Scarlets, y Gweilch a'r Dreigiau wedi gallu cynnig dros yr wythnosau nesaf.

Fe wnaeth y rheiny arwain at fygythiad o streic, gyda thrafodaethau dwys cyn i chwaraewyr Cymru gytuno i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad dair wythnos yn 么l.

Ond mae chwaraewyr y rhanbarthau yn disgwyl na fydd y cytundebau newydd yn talu cystal.

Cam i 'sicrhau dyfodol cynaliadwy'

Dywedodd cadeirydd y PRB, Malcolm Wall: "Mae hyn yn gam arwyddocaol yn y broses yr ydym yn ei ddilyn a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y g锚m broffesiynol yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Rydym yn bles iawn i ddweud bod ein pedwar t卯m proffesiynol nawr mewn sefyllfa i gynnig contractau rhwymol yn 么l yr angen.

"Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i'r chwaraewyr am eu hamynedd a dealltwriaeth, ac yn edrych ymlaen nawr i'r pwynt lle fydd cytundeb llawn yn gallu cael eu harwyddo a fydd yn sail i strategaeth y PRB ar gyfer dyfodol y g锚m - moment y mae'r datblygiad diweddaraf yma'n profi sy'n agosach nawr nag erioed."

Dywedodd Nigel Walker, prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC), fod y datblygiad yn "arddangosiad cryf o undod ar gyfer ein g锚m".

Ychwanegodd fod "cam sylweddol wedi cael ei wneud ac rydym ni nawr yn agos iawn at ddiwedd y broses yma, newyddion a fydd yn rhoi hwb sylweddol i bawb yn ymwneud efo'r g锚m yng Nghymru".

Toriadau i gyflogau

Ond ar hyn o bryd nid oes fframwaith ariannu hir dymor newydd gyda'r URC wedi cael ei gytuno, ac mae'r pedwar rhanbarth yn wynebu toriadau cyllideb ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Caerdydd wedi dweud eu bod yn ceisio "datgloi" arian er mwyn lleddfu'r pwysau a sicrhau bod ganddynt ddigon o chwaraewyr ar gyfer 2023-24.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae chwaraewyr gan gynnwys Liam Williams yn ystyried symud i glybiau tramor

Ac mae yna awgrymiadau y gallai chwaraewyr sydd ar gyflogau o hyd at 拢250,000 ar hyn o bryd, cael cynnig o gyn lleied 芒 拢30,000 y flwyddyn, gyda chwaraewyr fel y cefnwr Liam Williams, sy'n chwarae i Gymru, yn ystyried gadael Caerdydd er mwyn chwarae yn Japan neu Ffrainc.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, Ashton Hewitt, ei fod yn disgwyl gweld chwaraewyr yn gadael Cymru os ydyn nhw'n wynebu toriadau i'w cyflogau, ac ychwanegodd fod chwaraewyr yn "cymryd y baich" o anawsterau ariannol rygbi Cymru.