大象传媒

Gemau rhagbrofol Euro 2024: Croatia 1-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Connor Roberts yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n mynd i fod yn g锚m anodd i Gymru yn Croatia - y g锚m rhagbrofol gyntaf yn eu gr诺p i gyrraedd Euro 2024 yn erbyn y t卯m ddaeth yn drydydd yng Nghwpan y Byd.

Roedd 'na wynebau cyfarwydd ar goll wrth gwrs, gyda mawrion fel Gareth Bale a Joe Allen yn cyhoeddi eu hymddeoliad o gemau rhyngwladol yn gynharach eleni.

Roedd hi'n hanner cyntaf heriol - a chamgymeriadau'n arwain at g么l i roi Croatia ar y blaen.

Dechrau mwy awchus oedd i'r ail hanner a chefnogaeth y Wal Goch i'w chlywed yn glir yn y stadiwm.

Ond yn yr anobaith, fe ddaeth g么l hwyr gan Nathan Broadhead yn anghrediniaeth lwyr yn y munudau olaf i sicrhau g锚m gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd g锚m gyntaf Cymru yng ngemau rhagbrofol Euro 2024

Bu'n rhaid i Danny Ward wneud arbediad o fewn y munudau agoriadol gyda Luka Modric yn ceisio ergydio'n gynnar.

Rhwng y blerwch, roedd 'na fflachiadau o greadigrwydd, gyda chyflymder chwaraewyr fel Dan James yn ymddangos yn ddigon bygythiol.

Fe ddaeth arbediad da arall gan Ward wedi 15 munud gyda'r b锚l yn tasgu rhwng chwaraewyr Croatia a Chymru'n gorfod gweithio i amddiffyn.

Ac yna, wedi un ymgais ofer i sgorio g么l, roedd ail ymgais y t卯m cartref yn llwyddiannus ac Andrej Kramaric yn rhoi Croatia ar y blaen o 1-0 o fewn yr hanner awr agoriadol.

Doedd dim stop ar ymosod Croatia a amddiffynwyr Cymru yn gorfod gweithio'n galed.

Fe ddaeth cyfle am gic o'r smotyn i Gymru cyn diwedd yr hanner cyntaf - Joe Rodon yn mynd amdani - ond yn methu.

Ymgais gan Croatia am bwynt arall ar y sgorfwrdd cyn y chwiban hefyd, ond Kramaric yn methu hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Aaron Ramsey ei fod yn "barod am y cyfrifoldeb" o fod yn gapten eto wrth siarad yn gynharach yr wythnos hon

Fe ddangosodd Cymru rywfaint o awch ar ddechrau'r ail hanner ac roedden nhw'n lwcus na lwyddodd ymgais Kovacic am g么l o fewn y munudau cyntaf.

Fe ddaeth cyfnod o gyffro a chyfle gorau'r g锚m hyd hynny i Gymru wedi 60 munud - Dan James yn anelu am gefn y rhwyd ond yr ymgais sydyn yn methu. Roedd y cyfle yn sbardun i Gymru ac ychydig mwy o hyder yn help.

Yn fuan wedyn, fe wnaeth Rob Page rai newidiadau i'r t卯m gyda'r capten Aaron Ramsey yn dod oddi ar y cae ac Ampadu'n ysgwyddo'i gyfrifoldebau.

Fe adawodd Harry Wilson, Dan James a Kieffer Moore hefyd - a chwestiynau ynghylch amseru'r penderfyniad pan oedd Cymru'n dechrau ymddangos yn fygythiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Luka Modric yn fygythiad cyson yn ystod y g锚m

Fe lwyddodd cic gornel Luka Modric gyrraedd Josko Gvardiol, ond y peniad yn methu cyrraedd cefn y rhwyd.

Funudau'n ddiweddarach fe geisiodd Modric gyda chic gornel arall ond Cymru'n ymdopi'n dda a Ward yn arbed yn bendant.

Fe ddaeth un cyfle arall i'r t卯m cartref gyda thair munud ychwanegol ar y cloc ond Danny Ward yn gafael yn dynn yn y b锚l a'r arbediad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nathan Broadhead ddaeth 芒'r g么l hwyr i sicrhau g锚m gyfartal i Gymru

Ac yna - anghrediniaeth - fe ddaeth g么l hwyr i Gymru gan Nathan Broadhead.

Pwynt i Gymru a g锚m gyfartal yn Split - ymlaen nawr i'r nesaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.