大象传媒

Eisteddfod Genedlaethol: Corau'n galw am ailystyried newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae 37 o gorau wedi anfon llythyr at yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod newid y rheolau ym maes cystadlu corawl eleni yn dangos "amarch llwyr" at gystadleuwyr mwyaf brwd y Brifwyl.

Ddechrau'r wythnos fe gyhoeddodd yr Eisteddfod newidiadau sy'n golygu na fydd pob c么r yn ymddangos ar y prif lwyfan eleni.

Bydd yna ragbrofion, gyda'r rownd gynderfynol yn cael ei chynnal mewn canolfan ar gyfer 500 o bobl, a'r rownd derfynol mewn canolfan fwy ar gyfer 1,200.

Fe fydd dyddiau'r cystadlu'n newid hefyd, gyda llythyr y corau yn dweud bod "diffyg rhybudd" ynghylch hynny yn golygu na fydd sawl aelod o nifer o gorau'n medru cystadlu.

Maen nhw'n galw am i bob c么r fedru cymryd rhan ar y prif lwyfan, a chadw at y dyddiau cystadlu traddodiadol am eleni.

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol na fydden nhw'n ymateb i'r llythyr, ond fe fydd diweddariad i'w datganiad ddechrau'r wythnos ar eu gwefan brynhawn Sadwrn, ar 么l i Gyngor yr Eisteddfod gyfarfod.

Wedi i'r newidiadau gael eu cyhoeddi ddechrau'r wythnos dywedodd cadeirydd Pwyllgor Diwylliant yr Eisteddfod, Trystan Lewis, fod y newidiadau yn dilyn adolygiad o'r hen drefn, gyda'r bwriad - ymhlith pethau eraill - i godi safon.

Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai'r newidiadau yn arwain at lai o gorau yn cystadlu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Y rheswm mae lot o'r corau ma'n paratoi ydy i gael canu ar y prif lwyfan," meddai John Eifion

Fe fu arweinwyr corawl yn cyfarfod nos Fawrth, ac yn 么l un ohonynt - John Eifion, arweinydd C么r y Brythoniaid - roedd bron i 40 o gorau yn "anfodlon iawn, iawn, iawn."

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Fe ddaeth y rhwydwaith allan fel t芒n gwyllt."

Mae llythyr y corau wedi'i anfon at drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Elen Elis, at lywydd y Llys, Ashok Ahir, at Gethin Thomas, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, a chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llyn ac Eifionydd 2023, Michael Strain.

Mae'n gofyn am fwy o fanylion yngl欧n 芒'r ymgynghoriad arweiniodd at y newidiadau.

'Creu dwy haen o gorau'

"Y rheswm mae lot o'r corau 'ma yn paratoi ydy i gael canu ar y prif lwyfan," meddai John Eifion.

"Honna ydy'r fraint a'r anrhydedd. Mae'n anodd credu bod yr Eisteddfod ei hun yn mynd i amddifadu'r cyfle yna i gorau ar hyd a lled Cymru.

"Mae'n mynd i greu dwy haen o gorau... corau'r pafiliwn bach, corau'r pafiliwn mawr.

"Mae hynny wedi cythruddo lot fawr o bobl. Yr anghrediniaeth fod o'n digwydd fel 'na [eleni].

"Mae'n rhaid dod 芒'r rhanddeiliaid efo chi i 'neud unrhyw newid, a dydy hynny ddim wedi digwydd yn yr achos yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y newidiadau'n dod i rym yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd eleni

Ei bryder ydy y bydd yr Eisteddfod yn mynd yn "诺yl elitaidd", a hynny wrth iddi gael ei chynnal yn ei ardal ei hun, sef Ll欧n ac Eifionydd.

"Mi fysa'n drueni ac yn loes iddi gael ei chofio fel yr Eisteddfod heb ddim corau," meddai.

Mae'n galw ar yr Eisteddfod i ailfeddwl, gan ddweud mai hynny hefyd ydy barn y gweddill a arwyddodd y llythyr.