大象传媒

'Heriau sylweddol' yn wynebu adran frys Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Adran Achosion BrysFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae trydydd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o fewn blwyddyn wedi methu a dod o hyd i welliannau sylweddol yn un o unedau brys gogledd Cymru.

Dywedodd arolygwyr bod staff yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn "gweithio yn ddiflino" i gynnig y gofal gorau posib ond bod yna "heriau sylweddol" yn parhau.

Mae'r adroddiad yn nodi fod yna berygl sylweddol i gleifion oherwydd oedi cyn asesu ac mewn dosbarthu meddyginiaeth atal poen, a gwendidau o ran sgrinio am sepsis.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i gleifion ac yn dweud fod staff yn canolbwyntio ar gyflwyno newidiadau.

Mae AGIC wedi bod yn monitro'r uned yn Ysbyty Glan Clwyd ers blwyddyn, ac yn dilyn ymweliad fis Mai'r llynedd fe ddywedon nhw fod angen "gwelliant sylweddol" a bod nifer o feysydd angen sicrwydd "ar unwaith" i ddiogelu cleifion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i gleifion ac yn dweud fod staff yn canolbwyntio ar gyflwyno newidiadau

Daw'r adroddiad fis ar 么l i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig ac i 11 aelod annibynnol o'r bwrdd ymddiswyddo yn sgil adroddiad damniol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Ar 么l yr ymweliad cyntaf ym mis Mai 2022, cafodd yr uned frys ei dynodi'n "wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol", gyda'r pryderon mwyaf ynghylch safonau.

Roedd arolygwyr wedi dychwelyd ym mis Tachwedd gan nodi bod yr uned "unwaith eto, yn eithriadol o brysur", a'i bod yn cael trafferthion oherwydd prinder staff, nifer uchel o gleifion difrifol wael a diffyg lle i'w trin.

Byddai'n bosib dweud yr un peth am adrannau brys ar draws Cymru, ond mae'r faith bod cyn lleied wedi digwydd i wella'r sefyllfa ers yr ymweliad blaenorol yn golygu bod yr uned yn parhau dan y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan AGIC.

'Anodd ymdopi 芒'r galw dyddiol'

Dywedodd prif weithredwr AGIC, Alun Jones fod yr arolygiad yn nodi "tystiolaeth o adran sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi 芒'r galw dyddiol sy'n gysylltiedig 芒 darparu gwasanaeth diogel i gleifion".

"Tynnodd sylw at feysydd fel gwaith t卯m gwael rhwng yr adran achosion brys ac adrannau eraill yn yr ysbyty sydd, yn ei dro, yn ychwanegu at yr heriau a gydnabyddir yn genedlaethol o ran llif cleifion.

"Bydd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau cryf a chadarn i fynd i'r afael 芒'r materion a nodwyd yn ein harolygiad.

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu 芒'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithredu mewn ymateb i'n canfyddiadau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn nodi bod staffio yn parhau yn fater heriol

Yn 么l Rhys Jones, pennaeth uwchgyfeirio a gorfodaeth AGIC, mae'n siomedig bod dim mwy o gynnydd wedi bod yn yr adran rhwng y ddau ymweliad ond mae'n adlewyrchiad o broblemau mewn adrannau brys ar draws y wlad.

"Rydym yn gweld o'n gwaith yn arolygu adrannau brys bod yna bwysau sylweddol ar y system, mae'r galw yn cael effaith ar allu'r bwrdd iechyd a'r staff i ddarparu'r gofal fyddan nhw'n dymuno - rydym ni'n deall hynny," meddai.

"Ond mewn perthynas 芒 Glan Clwyd, dyma'r unig wasanaeth rydyn ni wedi'i godi i 'wasanaeth sydd angen gwelliannau sylweddol'."

Er y diffyg cynnydd mewn sawl maes, nododd yr arolygwyr fod safon gwaith cofnodi nodiadau cleifion wedi gwella, ond ychwanegon nhw bod heriau amlwg o ran rota staffio a'u bod yn "dibynnu'n sylweddol ar ddefnyddio staff banc ac asiantaeth i gyflenwi ar gyfer absenoldebau ymhlith y staff" a bod problemau recriwtio a chadw staff.

Roedd amseroedd aros i weld meddyg hefyd wedi gwella ers mis Mai, ond roedd llif cleifion drwy'r adran yn dal yn "hynod heriol", a'r amser aros i weld arbenigwr yn amrywio, gydag arolygwyr yn canfod bod rhai meddygon yn gwrthod dod i weld cleifion yn yr uned frys, gan arwain at ragor o oedi.

Balch o rai gwelliannau

Wrth ymateb i'r adroddiad, fe wnaeth dirprwy brif weithredwr dros dro a chyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Nick Lyons, ymddiheuro i gleifion.

Dywedodd ei fod yn falch fod yr adroddiad yn nodi rhai gwelliannau "er ei bod yn amlwg bod yna beth ffordd i fynd i ddarparu gwasanaeth yn ein hadran frys sydd yn gyson dda i bob claf".

Dywedodd hefyd bod staff yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd "wedi bod o dan straen enfawr dros y tair blynedd ddiwethaf a bod hynny wedi cynyddu ers i'r cyfyngiadau Covid gael eu llacio".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Nick Lyons bod rhai gwelliannau eisoes wedi'u cyflwyno a bydd mwy ymhen amser

Ychwanegodd: "Mae ymdrechion i ddenu aelodau parhaol o staff i roi cymorth gyda gwaith yr adran achosion brys yn parhau, ac mae diwrnod agored recriwtio arall wedi'i drefnu o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

"Fodd bynnag, mae'r sefyllfa fregus o ran staffio, a lefel y bobl 芒 salwch ac铆wt sy'n dod atom ni bob dydd yn golygu ein bod yn dal i fod yn wasanaeth lle bo angen gwelliant sylweddol."

Roedd yn cydnabod bod y sefyllfa ddiweddar, o ran cyflwyno'r mesurau arbennig a'r newid i aelodau'r bwrdd, wedi cael effaith ac y bydd yn cymryd amser i gyflwyno newidiadau hirdymor i wasanaethau.

"Allwch chi ddim gwneud gwahaniaeth o fewn system iechyd mor gymhleth heb gymryd amser a gwneud newidiadau mawr," meddai.

"Rydym eisoes wedi gweld gwahaniaeth go iawn - o ran diogelwch yr ystafell aros, yr amser mae pobl yn aros i gael eu hasesu.

"Dros y misoedd nesa' bydd hynny'n digwydd yn gyflymach, ond rydym yn s么n am fisoedd a blynyddoedd cyn y bydd y pryderon dilys am Betsi yn diflannu a'n bod yn gallu canolbwyntio ar yrru'r datblygiad ymhellach."

Yn 么l AGIC, byddan nhw'n parhau i fonitro ymateb y bwrdd iechyd yn agos.