Cynlluniau ar gyfer treth twristiaeth i Gymru gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru gam yn nes, er gwaethaf pryderon am y ffordd y byddai'n gweithio.
Bydd deddfwriaeth sy'n caniat谩u i awdurdodau lleol gyflwyno treth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd o fewn y ddwy flynedd nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc.
Mae pobl sy'n cefnogi'r ddeddfwriaeth yn dweud y bydd treth yn cyfrannu tuag at gynnal lleoliadau gwyliau.
Ond dywed gwrthwynebwyr y bydd yn denu llai o bobl i ymweld 芒 Chymru.
Byddai'r dreth yn cael ei thalu gan ymwelwyr sy'n aros dros nos yng Nghymru mewn llety masnachol.
Mae costau tebyg yn cael eu codi ar draws y byd ac yn cael ei ddefnyddio mewn 40 o wledydd neu ddinasoedd, gan gynnwys Groeg, Amsterdam a Chatalwnia.
Daniel Davies, gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru:
Fe wnaeth ymgynghoriad y llywodraeth ganfod gwrthwynebiad i elfen allweddol o'r dreth twristiaeth.
Bydd cynghorau'n gallu penderfynu a ydyn nhw ei eisiau - bydd yn "ddewisol", yng ngeiriau'r llywodraeth.
Ond roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn anghytuno 芒 phwerau ardoll (levy) dewisol i gynghorau "ar sail y baich gweinyddol a'r anghysondebau y byddai hyn yn eu creu, a'r potensial ar gyfer cystadleuaeth anffafriol ar draws awdurdodau lleol".
Mewn geiriau eraill, fe allech chi gael Gwynedd a Chonwy yn ceisio dwyn ymwelwyr oddi ar ei gilydd gyda threthi is.
'Hollti barn'
Mae'n bwnc llosg yn y diwydiant twristiaeth, yn enwedig yn dilyn y pandemig, yn 么l Nia Rhys Jones, cyd-Gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys M么n.
"Dydy'r diwydiant ddim wedi dod 'n么l ar ei draed ar 么l y pandemig efo mwy a mwy o bobl yn mynd dramor eleni a llai o arian ym mhocedi pobl i fynd ar wyliau, felly mae'n rhywbeth sy'n poeni'r diwydiant ar sawl lefel," dywedodd ar Dros Frecwast.
"Os ydy'n cael ei wario yn effeithiol ar yr isadeiledd, amser a ddengys. Ond mae'r farn wedi ei hollti.
"I deulu o bedwar am wythnos er enghraifft, os ydy o bunt neu ddwy yn fwy, yna mi rydach chi'n s么n am 拢50 yn fwy a chyda ardaloedd y llynnoedd yn Lloegr ddim yn gofyn am dreth, ydy'r dreth yn mynd i ddylanwadu ar benderfyniad y teulu yna o ran lle ma' nhw yn mynd i aros, pwy a 诺yr?
"Mi fydd hi'n bwysig iawn hefyd sut fydd yr awdurdodau lleol yn ei weithredu ac ydy o yn mynd i fod yn opsiynol neu ddeddfwriaethol. Mae 'na lawer o gwestiynau."
Dywedodd Gwion Llwyd o gwmni llety gwyliau Dioni yng Ngwynedd ei fod yn poeni y gallai ymddangos fel nad oes croeso i dwristiaid yng Nghymru.
"Trethi ar elw sydd angen digwydd, nid trethi ar dwristiaeth. Treth yn erbyn carbon sydd ei angen, nid treth ar dwristiaeth. Pam targedu'n diwydiant ni yn uniongyrchol yn fwy nag unrhyw ddiwydiant arall?
"Mae'n dibynnu ar faint maen nhw'n bwriadu codi, wrth gwrs, ond dwi'n amau y byddai'r lefi yn un bach. Mae'n mynd i 'neud ni'n llai cystadleuol o'i gymharu 芒 llefydd fel Ardal y Llynnoedd a Chernyw.
"Be' dwi'n poeni amdano fo fwyaf yw ei fod yn PR drwg i Gymru. Mae gyda ni draddodiad o groesawu ymwelwyr yma i Gymru.
"Mae'n 'neud i ni edrych fel bod dim croeso i ymwelwyr yma dim mwy. Mi fydd yn rhoi'r argraff bod ni ddim eisiau pobl ddiarth yma."
'Cefnogi un o bob saith swydd'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth, Tom Giffard: "Does dim byd yn dweud 'Croeso i Gymru' fwy na Llafur yn cyhoeddi y byddan nhw'n bwrw 'mlaen gyda'u treth twristiaeth wenwynig wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg.
"Mae twristiaeth yn cefnogi un o bob saith swydd yng Nghymru, gan alluogi pobl i dalu treth y cyngor, a helpu i fynd i'r afael 芒'r materion y mae Llafur yn honni y byddai treth twristiaeth yn trwsio.
"Fe ddylai'r llywodraeth Lafur fod yn cydweithio gyda'r diwydiant i hybu'r sector hollbwysig hwn."
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol y byddai'r dreth yn cael ei rheoli gan gynghorau lleol.
Yr awdurdodau lleol fyddai'n dewis cyflwyno'r dreth ai peidio "yn 么l anghenion eu cymunedau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael mwy na 1,000 o ymatebion i'w ymgynghoriad ar y dreth.
Fe ychwanegon fod mwyafrif yr awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn gefnogol.
Ond fe ddywedon hefyd fod nifer o ymatebion wedi cyrraedd gan gynrychiolwyr y diwydiant a bod nifer yn anghytuno gyda'r egwyddor o gyflwyno'r dreth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022