Caerdydd: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad 芒 digwyddiad yng Nghaerdydd lle cafodd gyrrwr fan ei daro a'i lusgo o dan gerbyd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal brynhawn Mawrth.
Mae gyrrwr y fan, dyn 54 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywed yr heddlu brynhawn Iau fod dyn 31 oed o ardal Llanrhymni wedi cael ei arestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad, cyn cadarnhau'n ddiweddarach ei fod wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau hefyd na fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn dyn arall, 39 oed o ardal Grangetown, a gafodd ei arestio ddydd Mawrth.
Mae e bellach wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell o Heddlu'r De: "Hoffwn ddiolch eto i'r rhai sydd wedi cysylltu 芒 ni gyda gwybodaeth hollbwysig.
"Mae ditectifs yn parhau yn yr ardal ac yn cynnal ymholiadau gyda thystion, o d欧 i d欧 ac ar gamer芒u cylch cyfyng.
"Rydym dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un na sydd wedi cysylltu hyd yma ond a oedd yn ardal Laytonia Avenue a Ffordd y Gogledd rhwng 12:45 a 12:50 ddydd Mawrth, yn enwedig rhai oedd yn bresennol pan ddaeth y fan i stop gyda'r dioddefwr wedi'i ddal oddi tani, ac wrth i'r person sydd dan amheuaeth redeg i ffwrdd.
"Mae teulu'r dioddefwr wedi eu chwalu gan yr hyn ddigwyddodd, ac yn dal i dderbyn cefnogaeth tra'n parhau wrth ei wely yn yr ysbyty."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023