Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 22-34 Cymru
Roedd yna fuddugoliaeth arall i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn a hynny wedi iddyn nhw drechu'r Alban oddi cartref o ddeuddeg pwynt.
Cymru a sgoriodd gyntaf gyda Sisilia Tuipulotu yn sgorio cais wedi pum munud ac ar hanner amser roedd Cymru ar y blaen o ddau bwynt (10-12) wedi cais gan Gwenllian Pyrs a throsiad llwyddiannus Keira Bevan.
Wedi 40 munud 14 oedd yn nh卯m Cymru wedi i Kerin Lake gael cerdyn melyn.
Helen Nelson a sgoriodd driphwynt cyntaf yr Alban ac fe ddaeth eu cais nhw 35 munud i fewn i'r g锚m wrth i Lana Skeldon groesi'r llinell - unwaith eto fe wnaeth Nelson gicio yn llwyddiannus.
Roedd yna ddechrau arddechog i Gymru yn yr ail hanner wrth i Gwenllian Pyrs sgorio cais arall ac wedi i Keira Bevan drosi'n llwyddiannus roedd y sg么r yn 10-19.
Ond o fewn pum munud roedd yna gais i'r Alban - Coreen Grant y tro hwn ac wedi cic lwyddiannus, dau bwynt oedd yn gwahanu'r ddau d卯m eto.
Ond nid dyna ddiwedd y sgorio - wedi 54 munud roedd yna bwynt bonws i Gymru yn sgil cais arall i Sisilia Tuipulotu (17-24).
Doedd yr Alban ddim am ildio a saith munud wedi'r awr dyma Chloe Rollie yn sgorio cais ardderchog i'r t卯m cartref (22-24) ond trosiad y Cymry a'r Albanwyr yn aflwyddiannus.
Wedi 74 munud roedd yna groeso mawr ymhlith y cochion i gic Elinor Snowsill wrth iddi ymestyn mantais Cymru o saith pwynt (17-24) ac o fewn chwe munud roedd yna bumed cais i Gymru - cais gwych gan Ffion Lewis.
Wedi cic arall lwyddiannus gan Snowsill roedd y sg么r yn 22-34 a dyna oedd y sg么r terfynol.