'O'n i'n gamblo ar fy ff么n bob dydd, bob cyfle'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y menywod sy'n gaeth i gamblo wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn 么l elusen sy'n ceisio helpu taclo'r broblem.
Bellach mae Gordon Moody wedi agor eu canolfan adfer gamblo cyntaf ar gyfer menywod yn unig, a hynny yn Birmingham.
Un o'r rheiny sydd wedi treulio amser yn y ganolfan yw Elissa, 36 o Fangor, a ddywedodd ei bod hi wedi "colli pob dim" i gamblo ar un pwynt yn ei bywyd.
"Roeddwn i'n meddwl lladd fy hun i fod yn onest, doeddwn i ddim yn gwybod be' i 'neud," meddai.
"Os oedd hi'n haws dod o hyd i help, dwi'n meddwl bysa pethau wedi gallu cael eu sortio'n llawer cynt."
'Colli 拢40,000 ar un cyfrif'
Dywedodd Elissa bod ei chwilfrydedd gyda gamblo wedi dechrau pan oedd hi'n blentyn naw oed, wrth chwarae ar beiriannau tra bod ei theulu ar wyliau carafanio.
Byddai'n gamblo'n achlysurol wedyn fel oedolyn, ond fe aeth yn broblem fwy difrifol "pedair neu bum mlynedd yn 么l pan nes i ddechrau gamblo ar-lein".
"Achos bod chi'n gallu cuddio'r peth a gwneud o'n bob man, 'naeth o fynd yn waeth," meddai wrth siarad ar 大象传媒 Radio Wales.
"O'n i'n 'neud o bob dydd, bob cyfle, gamblo ar fy ff么n.
"Byswn i'n rhoi'r rhan fwya' o fy nghyflog i fy mhartner, ond yr holl arian o callouts - tua 拢1,000 y mis - ro'n i'n gwario hwnna.
"O'n i'n benthyg pres gan deulu a ffrindiau, cael payday loans. Nes i edrych unwaith ac o'n i wedi colli cyfanswm o 拢40,000, jyst ar un wefan."
Pan ddaeth y gwirionedd allan, fe wnaeth partner Elissa ofyn iddi adael a bu'n cysgu am ychydig fisoedd ar soffa ei brawd.
"Ro'n i 'di colli bob dim ac yn meddwl bod dim posib ei gael o 'n么l," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl lladd fy hun i fod yn onest, doeddwn i ddim yn gwybod be' i 'neud.
"'Naeth rhywun dwi'n 'nabod anfon linc i Gordon Moody a nes i e-bostio nhw. Hwnna oedd y cam ola'. Doedd gen i ddim opsiwn ond chwilio am help neu mi fyswn i wedi lladd fy hun."
'Swn i heb agor fyny cymaint efo dynion'
Cafodd clinig Gordon Moody yn Birmingham i ferched yn unig ei agor tua diwedd 2021, ac ers hynny mae'r elusen yn dweud bod nifer y menywod sy'n gwneud cais iddyn nhw am driniaeth bron wedi treblu.
Yn ystod eu harhosiad mae eu defnydd o ffonau symudol, arian a'r rhyngrwyd yn cael ei gyfyngu, yn ogystal 芒'u cyswllt gyda'u bywyd pob dydd, "fel bod pwysau'r byd tu allan yn mynd i ffwrdd".
Dywedodd rheolwr y ganolfan, Harp Edwards, fod y rhaglen hefyd wedi cael ei deilwra i fenywod - er enghraifft, yn para dim ond pum wythnos o'i gymharu 芒 14 wythnos i ddynion, yn aml oherwydd bod gofynion gofal plant ganddyn nhw.
"Mae dynion yn tueddu i siarad am y gamblo gyntaf, cyn i ni edrych ar y trawma, tra bod menywod yn mynd yn syth i mewn gyda'r effaith mae gamblo wedi'i gael arnyn nhw," meddai.
"Dwi'n meddwl mai pwysigrwydd cael lle i drin menywod yn unig yw ei bod hi'n rhoi lle saff iddyn nhw, a chanolbwyntio ar faterion sydd ond yn ymwneud 芒 merched hefyd."
Cytuno mae Elissa, gan ddweud ei bod hi wedi cael croeso cynnes yn y ganolfan.
"Efo hogiau yna dwi'm yn meddwl fyswn i wedi agor fyny cymaint," meddai.
"Nes i allu agor fyny, d'eud be' oedd yn mynd ymlaen a thaclo be' oedd yn mynd o'i le. Mae'n si诺r fyswn i heb gymryd cymaint i fewn taswn i 'di mynd i rywle arall."
Mae hi bellach yn parhau gyda'i phroses adfer gyda chymuned ym Mangor, ond yn teimlo nad oes digon o lefydd fel y ganolfan Gordon Moody lle gafodd hi help.
"Dylai pobl ddim gorfod teimlo fel eu bod nhw'n mynd i gymryd eu bywyd eu hunain - dyna pa mor eithafol mae o'n mynd ym mhen rhywun," meddai.
"Os oedd hi'n haws dod o hyd i help, dwi'n meddwl bysa pethau wedi gallu cael eu sortio'n llawer cynt."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan 大象传媒 Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023