Cyflog aelodau Senedd Cymru i godi 3% eleni

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynnydd yn golygu y bydd ASau yn ennill 拢69,958 y flwyddyn ariannol hon
  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Bydd t芒l Aelodau Senedd Cymru'n cynyddu 3% o'r mis hwn.

Er bod hynny'n is na graddfa chwyddiant, dyma'r codiad cyflog mwyaf mae ASau wedi ei gael ers 2020, a'r codiad cyflog mwyaf oedd yn bosib.

Bydd y swm y gall ASau sy'n byw'n bell o Gaerdydd ei hawlio i dalu am gost llety preswyl hefyd yn cynyddu 10.1%.

Yn 么l y Bwrdd Taliadau, sy'n annibynnol o Senedd Cymru, mae'r penderfyniad yn adlewyrchu'r cynnydd mewn costau byw.

Mae'n golygu y bydd ASau yn ennill 拢69,958 y flwyddyn ariannol hon, fydd yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2024.

Mae cyflogau ASau yn cynyddu a gostwng yn 么l arolwg o enillion cyfartalog yng Nghymru, hyd at uchafswm o 3%.

Ar 么l i'r arolwg yna ddangos cynnydd o 7.3% i gyflogau ym mis Tachwedd, bydd cyflogau ASau felly'n cynyddu 3%.

Mae'r rheolau'n cael eu gosod gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol, sydd ar wah芒n i'r gwleidyddion eu hunain.

Cafodd cyflogau ASau eu rhewi yn 2020-21, a dim ond 0.4% o gynnydd oedd yna yn 2021-22.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ennill 拢153,033 eleni

Mae gweinidogion a rhai ASau eraill yn derbyn taliadau ychwanegol, ac mae'r newidiadau'n golygu felly y bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ennill 拢153,033 eleni.

Bydd gweinidogion eraill yn cael 拢109,308, a bydd dirprwy weinidogion yn ennill 拢92,913.

Bydd Llywydd y Senedd Elin Jones, sy'n cadeirio dadleuon, yn ennill 拢114,774 a bydd ei dirprwy yn cael 拢92,913.

Mae union gyflog arweinwyr y gwrthbleidiau'n dibynnu ar faint o aelodau sydd ganddyn nhw yn y Senedd.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies yn ennill 拢101,656, a bydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ennill 拢97,284.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Adam Price yn ennill cyflog o 拢97,284, ac Andrew RT Davies ar 拢101,656

Mae'r un cyfyngiadau cyflog yn berthnasol i staff sy'n cefnogi ASau, er fe wnaeth y Bwrdd Taliadau gytuno i gynnydd cyflog parhaol ychwanegol o 拢600 ym mis Ebrill "i gydnabod yr amgylchiadau economaidd".

Bydd ASau o ogledd Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru yn gallu hawlio hyd at 拢11,280 y flwyddyn tuag at gostau aros yng Nghaerdydd.

Bydd ASau o G诺yr, Castell Nedd, ac Abertawe yn gallu hawlio 拢7,920, tra bydd aelodau eraill o'r tu allan i Gaerdydd yn gallu hawlio costau gwesty mewn "amgylchiadau eithriadol".

Bydd lwfansau ar gyfer rhedeg swyddfa, a chostau'n gysylltiedig 芒 chyfrifoldebau gofalu hefyd yn cynyddu 10.1%.

'Cyfnod heriol'

Dywedodd cadeirydd y Bwrdd Taliadau, Dr Elizabeth Heywood: "Wrth adolygu'r cymorth a ddarperir i Aelodau o'r Senedd eleni, fe wnaethon ni ystyried effaith cynnydd mewn chwyddiant ar gostau rhedeg swyddfeydd, y gost o ymgysylltu ag etholwyr a threuliau eraill.

"Mae'r penderfyniad ar gyfer 2023-24 wedi'i gynllunio i alluogi aelodau i barhau i wneud eu gwaith o gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y llywodraeth i gyfrif yn y cyfnod heriol hwn."