Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun siopa bwyd yn 'cynnig gobaith' i rieni
- Awdur, Ellie Carter
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae cynllun sy'n cefnogi teuluoedd yn ariannol yn ystod gwyliau ysgol yn "cynnig gobaith" i rieni, yn 么l un fam o Bort Talbot.
Mae Lisa-Marie Morris ymhlith miloedd yng Nghymru sy'n defnyddio rhaglen fenthyciadau di-log sy'n cynnig hyd at 拢100 o gredydau am fwyd.
Yn ddiweddar, derbyniodd y prosiect ganmoliaeth gan gr诺p seneddol trawsbleidiol sy'n edrych ar roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd.
Mae Fair For You, sy'n rhedeg y cynllun, yn dweud eu bod yn disgwyl gweld mwy o alw wrth i gostau barhau i godi.
Treulio 'dyddiau' yn siopa bwyd
Fel mam i dri o blant, mae Lisa-Marie Morris yn dweud ei bod yn cael trafferth i ariannu'r prydau ychwanegol i'w phlant yn ystod gwyliau'r ysgol.
Pan yn gweithio fel hyfforddwr tenis roedd hi'n arfer mwynhau manteision swydd 芒 chyflog da ond bu'n rhaid iddi roi'r gorau i weithio oherwydd problemau iechyd.
"Mae'n eithaf anodd pan fyddwch chi'n gweld na allwch chi weithio," meddai, "yn enwedig mynd o swydd sy'n talu'n eithaf da ac yn gweithio dwy, tair swydd ar y tro i ddim yn gweithio a chael isafswm arian."
Er mwyn cadw costau'n isel mae Lisa-Marie, o Bort Talbot, yn dweud ei bod hi'n mynd i "dair neu bedair archfarchnad wahanol" i wario "y swm lleiaf posib o arian tra'n cael y swm mwyaf o fwyd".
"Os ydw i angen siopa am nifer o bethau neu'n ceisio arbed arian mi fydda i'n treulio cryn dipyn o ddyddiau ac fe af i Morrisons, Tesco, Sainsbury, Asda, Aldi a byddaf yn rhoi popeth rydw i eisiau yn y fasged ac yna af trwy bob un a darganfod ble mae'r un rhataf".
Mae'r dasg yn cymryd llawer o amser, felly gallai gymryd wythnos neu bythefnos yn aml cyn bod Lisa-Marie yn barod i fynd i brynu'r hyn sydd ei angen arni.
Iddi hi, mae bod yn rhan o gynllun y clwb bwyd yn help mawr.
"Yn aml does gen i ddim 拢100 yn sb芒r i fynd i siopa bwyd ar gyfer hanner tymor ond gyda hyn rwy'n talu 拢10 yr wythnos felly mae'n hylaw iawn i mi.
"Fe wnes i osod y diwrnod rydw i eisiau iddo fynd allan, dwi'n gwybod ei fod wedi mynd allan ac mae gen i'r 拢100 hwnnw wedyn."
Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan y cwmni cyllid Fair for You ar y cyd ag archfarchnad Iceland.
Dywed Chris Bennett, Pennaeth Masnachol a Phartneriaethau, fod yr archfarchnad wedi cysylltu 芒 nhw oherwydd "eu bod yn sylwi eu bod yn colli llawer o gwsmeriaid yn ystod gwyliau ysgol".
Roedd hynny yn bennaf oherwydd nad oedd pobl "yn gallu cael gafael ar arian i brynu bwyd", meddai.
'Canlyniadau da iawn'
Dechreuodd y t卯m yn Fair For You ymchwilio i atebion posib ac fe lansiwyd Clwb Bwyd Iceland y llynedd.
Mae'r clwb wedi ei ganmol yn ddiweddar gan gr诺p seneddol trawsbleidiol sydd - ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Trussell - yn edrych ar ddileu'r angen am fanciau bwyd.
"Rydyn ni'n gweld canlyniadau da iawn felly rydyn ni'n gweld gostyngiad sylweddol," meddai Mr Bennett.
Ychwanegodd fod 92% naill ai'n atal neu'n lleihau eu defnydd o fanciau bwyd a bod gostyngiad yn y defnydd o fenthycwyr arian didrwydded - neu loan sharks - o tua 80%.
Dywedodd mai'r disgwyl yw y bydd mwy angen eu gwasanaethau yn y dyfodol.